Archddugiaeth Awstria
Tywysogaeth a fodolai yng Nghanolbarth Ewrop o 1453 i 1806 oedd Archddugiaeth Awstria (Almaeneg: Erzherzogtum Österreich) a oedd yn un o brif daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ac yn diriogaeth ganolog y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Roedd yn rhan o'r Cylch Awstriaidd yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig.
Archddugiaeth Awstria Erzherzogtum Österreich (Almaeneg) | ||||||
Talaith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig (1453–1806) Tiriogaeth goron y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (o 1526) | ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Arwyddair Alles Erdreich ist Österreich untertan "Mae'r holl fyd yn ddarostyngedig i Awstria"[1] | ||||||
Archddugiaeth Awstria o fewn tiriogaethau etifeddol y Hapsbwrgiaid (oren), 1477.
| ||||||
Prifddinas | Fienna | |||||
Ieithoedd | Bafareg, Almaeneg | |||||
Crefydd | Yr Eglwys Gatholig Rufeinig | |||||
Llywodraeth | Archddugiaeth | |||||
Archddug | ||||||
- | 1453–1457 | Ladislaus yr Ôl-anedig (archddug ffurfiol cyntaf) | ||||
- | 1792–1806 | Ffransis I (olafa) | ||||
Cyfnod hanesyddol | Yr Oesoedd Canol, Cyfnod Modern Cynnar | |||||
- | Ffugiwyd y Privilegium Maius gan y Dug Rudolf IV | 1358/59 | ||||
- | Cydnabuwyd teitl yr archddug gan Ffredrig III | 6 Ionawr 1453 | ||||
- | Ymunodd â'r Cylch Awstriaidd | 1512 | ||||
- | Ferdinand I yn rhaglyw yn ôl Cytundeb Worms | 28 Ebrill 1521 | ||||
- | Rhyfel Olyniaeth Awstria | 1740–1748 | ||||
- | Sefydlwyd Ymerodraeth Awstria | 11 Awst 1804 | ||||
- | Diddymwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig | 6 Awst 1806 | ||||
Arian cyfred | Conventionsthaler | |||||
^a Parhaodd y teitl "Archddug Awstria" yn rhan o deitl llawn swyddogol arweinwyr Awstria nes 1918. |
Sefydlwyd Ardalyddiaeth Awstria yn 976, dan reolaeth Tŷ Babenberg ac yn rhan o Ddugiaeth Bafaria, ar y ffin rhwng yr Ymerodraeth Lân Rufeinig â Thywysogaeth Hwngari. Yn 1156 fe'i dyrchafwyd yn dalaith ymerodrol ynddo'i hun ar ffurf Dugiaeth Awstria, yn ôl y Privilegium Minus a gyhoeddwyd gan yr Ymerawdwr Ffredrig I. Daeth Awstria dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg yn niwedd y 13g, ac yn 1440 coronwyd Ffredrig III yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Yn 1453, mabwysiadodd Ffredrig y teitl Archddug Awstria fel pennaeth Tŷ Hapsbwrg, ac o hynny ymlaen, ac eithrio'r ysbaid 1742–45 yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria, bu pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig hefyd yn dwyn teitl yr Archddug.
Daeth Archddugiaeth Awstria i ben yn sgil diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn 1806. Cyn hynny, yn 1804, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis II, yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig olaf, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Parhaodd Archddug Awstria yn rhan o deitl llawn swyddogol arweinwyr Awstria nes 1918, er nad oedd yr archddugiaeth ei hun yn bodoli bellach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Heimann, Heinz-Dieter (2010). Die Habsburger : Dynastie und Kaiserreiche. München: Beck. tt. 38–45. ISBN 3-406-44754-6.