Arf tân
Arf yw arf tân neu arf tanio[1] sy'n defnyddio gweithrediad i saethu taflegryn (megis bwled) trwy faril. Tanwydd yn llosgi'n gyflym iawn sydd yn tanio'r arf tân.[2]
Yn aml defnyddir y termau "arf tân" a "gwn/dryll" yn gyfystyr, ond yn fanwl gywir nid yw rhai gynnau yn arfau tân gan nad ydynt yn defnyddio tanwydd, er enghraifft gwn aer sy'n saethu gan ddefnyddio aer cywasgedig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [firearm].
- ↑ (Saesneg) Firearms Definitions. Llysoedd Talaith Tennessee. Adalwyd ar 31 Mawrth 2013.