Artaxerxes IV, brenin Persia
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 338 CC a 336 CC oedd Artaxerxes IV, Hen Berseg: Artaxšacā, enw gwreiddiol Arses (bu farw 336 CC).
Artaxerxes IV, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | Iran |
Bu farw | 336 CC o gwenwyn |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Pharo |
Tad | Artaxerxes III, brenin Persia |
Mam | Atossa |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Arses oedd mab ieuengaf Artaxerxes III, brenin Persia a'i wraig Atossa. Yn 338, bu farw ei dad, yn ôl un fersiwn wedi ei lofruddio gan y rhaglaw Bagoas, a lofruddiodd y rhan fwyaf o'i deulu hefyd. Dewisodd Bagoas roi Arses ar yr orsedd, a chymerodd yr enw Artaxerxes IV.
Bagoas oedd yn llywodraethu mewn gwirionedd, a chynllwyniodd Artaxerxes i'w lofruddio er mwyn cael y grym i'w ddwylo ei hun. Daeth Bagoas i wybod am hyn, a gwenwynodd Artaxerxes, a gosod ei gefnder Darius III ar yr orsedd yn ei le.
Rhagflaenydd: Artaxerxes III |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 338 CC – 336 CC |
Olynydd: Darius III |
Rhagflaenydd: Artaxerxes III |
Brenin yr Aifft 338 CC – 336 CC |
Olynydd: Darius III |