Atol Bikini
Ynys 6 km ² heb drigolion arni bellach yn ynysoedd Micronesia yn y Cefnfor Tawel yw Atol Bikini (Saesneg: Bikini Atoll; hefyd Pikinni Atoll). Mae'r atol yn perthyn i Ynysoedd Marshall. Fe'i ffurfir o 36 ynys lai sy'n amgylchu lagŵn 594.2 km². Mae'n eiddo i Unol Daleithiau America. Fel rhan o Dir Arbrofi y Cefnfor Tawel, defnyddiwyd Bicini fel safle i wneud 20 prawf arfau niwclear o 1946 hyd 1958, gan gynnwys y prawf cyntaf o fom hydrogen ymarferol yn 1954.
Math | Atol, endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Poblogaeth | 9 |
Cylchfa amser | UTC+12:00 |
Gefeilldref/i | 基隆市 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Marshall, Bikini Atoll |
Gwlad | Ynysoedd Marshall |
Arwynebedd | 6 km² |
Uwch y môr | 25 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 11.6°N 165.4°E |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
- Am enghreifftiau eraill o'r gair bikini, gweler Bicini.
Cafodd yr atol ei henwi gan y fforwr Otto von Kotzebue yn Bikini Atoll Eschscholtz Atoll ar ôl y gwyddonydd Johann Friedrich von Eschscholtz.
Cyn dechrau'r arbofion niwclear roedd grŵp o bobl brodorol yn byw ar yr ynys. Bu rhaid iddyn nhw symud i Atol Rongerik cyn i'r prawf cyntaf gael ei gynnal ym mis Gorffennaf 1946. Ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, dychwelodd rhai o'r trigolion gwreiddiol i'r ynys o Ynys Kili ond fe'u gorfodwyd i symud oddi yno eto oherwydd y lefelau uchel o ymbelydredd.