Dinas ym Moroco yw Azemmour neu Azamor (Arabeg: أزمور‎; o'r gair Tifinagh azemmur, "yr Olewydd"). Fe'i lleolir ar lan yr afon Oum Er-Rbia, tua 75 km i'r de-orllewin o Casablanca ger El Jadida, yng ngorllewin canolbarth Moroco. Mae'n rhan o ranbarth Doukhala-Abda. Poblogaeth: tua 40,000.

Azemmour
Mathurban commune of Morocco, commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth42,098 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith El Jadida Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
GerllawOum Er-Rbia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.28°N 8.33°W Edit this on Wikidata
Map

Ceir traeth braf, sef Azemmour Plage (Traeth Azemmour) ar lan y Cefnfor Iwerydd tua 2 filltir o'r ddinas ei hun. Mae aber yr Oum Er-Rbia, un o afonydd mwyaf Moroco sy'n tarddu ym mynyddoedd yr Atlas, yn denu nifer o adar mudol.

Mae'n debygol mai dyma oedd safle dinas Azama, a sefydlwyd gan y Ffeniciaid. Daeth yn ddinas o bwys yn nheyrnas y Berberiaid yn ne Moroco yn yr Oesoedd Canol. Meddianwyd y ddinas am gyfnod byr iawn gan y Portiwgalwyr (1513-41); roedd y fforiwr enwog Ferdinand Magellan yn un o arweinwyr y Portiwgalwyr. Erys y castell a godwyd hyd heddiw.

Yma yn ymyl Azemmour, yn ôl traddodiad, ger aber yr Oum Er-Rbia, y cyrhaeddodd y cadfridog Islamaidd Oqba ibn Nafi "Fôr y Gorllewin" yn y flwyddyn 681, ar ôl carlam gwyllt dros Foroco yn agor y ffordd i'r goresgyniaid Arabaidd-Fwslemaidd o'r wlad Ferber. Portreadir y ddinas a'r cyfnod yn y nofel Ffrangeg La Mère du Printemps, gan Driss Chraïbi, brodor o'r ardal a Berber.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  NODES
eth 9