Bartholomew Roberts

môr-leidr Cymreig

Roedd Bartholomew Roberts (17 Mai 168210 Chwefror 1722), o Gasnewydd-bach, Sir Benfro, yn fôr-leidr llwyddiannus dros ben yn y Caribî a Gorllewin Affrica rhwng 1719 a 1722. Ei enw genedigol oedd John Roberts ond mae'n fwy adnabyddus dan yr enw Barti Ddu (Saesneg: "Black Bart") er na ddefnyddiwyd yr enw hwnnw yn ystod ei fywyd [1]. Ef oedd y môr-leidr mwyaf llwyddiannus yn ôl y nifer o longau a gipiodd[2] sef 470 yn ystod ei fywyd.[3]

Bartholomew Roberts
Ganwyd17 Mai 1682 Edit this on Wikidata
Casnewydd-bach Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1722 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Cape Lopez Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmorwr, môr-leidr, masnachwr caethweision Edit this on Wikidata

Ei fywyd cynnar

golygu

Ganwyd Bartholomew Roberts ym 1682 yng Nghasnewydd-bach,[4] rhwng Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd yn Sir Benfro. Ei enw genedigol oedd John Roberts, a chredir mai ei dad oedd George Roberts mwy na thebyg.[5] Nid yw'n wybyddus pam y newidiodd ei enw o John i Bartholomew,[6] ond roedd yn arfer ymhlith môr-ladron i gymryd ffugenwau, ac mae'n bosib iddo gymryd yr enw hwnnw ar ôl y môr-leidr adnabyddus Bartholomew Sharp.[7] Credir iddo ddechrau ei fywyd ar y môr pan oedd yn 13 yn 1695 ond nid oes unrhyw gofnod arall ohono tan 1718, pan oedd yn fêt ar slŵp ym Marbados.[8]

Yn 1719, roedd Roberts yn ail fêt ar y llong gaethwasaeth Princess, dan arweiniad y Capten Abraham Plumb. Ar ddechrau mis Mehefin, pan oedd y llong wedi'i hangori yn Anomabu yng Ngorllewin Affrica, ymosododd y môr-leidr o Gymru Hywel Davies arni. Roedd Plumb a'i griw ar ddwy long wahanol, y Royal Rover a'r Royal James. Wedi cipio'r llong, gorfodwyd ef i ymuno â chriw y môr-ladron. Pan laddwyd Hywel Davies, chwech wythnos yn ddiweddarach, dewisodd y môr-ladron Roberts i fod yn gapten yn ei le.

Cyn hir yr oedd llawer o siarad am orchestion Barti Ddu a'i long Royal Fortune. Hwyliodd i mewn i lynges o 42 o longau Portiwgal, daliodd garcharor i'w holi pa un o'r llongau oedd y gyfoethocaf ac yna cipiodd y llong honno a'i hwylio ymaith. Dro arall daeth i borthladd yn Newfoundland lle roedd 22 o longau, a ffodd criw pob un ohonynt mewn ofn. Dywedir ei fod yn cadw disgyblaeth dda ar ei griw, ac yn gwahardd diodydd meddwol ar fwrdd ei long.

 

Gyrrodd y Llynges Frenhinol long ryfel, HMS Swallow dan y Capten Chaloner Ogle, i geisio ei ddal, ac yn 1722 bu brwydr rhwng y llong yma a'r Royal Fortune ger Cape Lopez, Gabon. Ar ddechrau'r ymladd safai Roberts yn ei wisg wychaf yn annog ei griw, ond tarawyd ef yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad. Heb eu capten, ildiodd y gweddill o'r criw, a chrogwyd nifer ohonynt.

Penglog ac esgyrn

golygu
 
Baner Barti Ddu

Dywedir mai ar un o longau Barti y chwifiwyd baner y Penglog a'r Esgyrn am y tro cyntaf. Dywed eraill mai tarddiad y faner ydyw'r Seiri Rhyddion.

Ffynhonnell y wybodaeth amdano

golygu

Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer hanes Roberts yw'r llyfr A General History of the Pyrates, a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd wedi ei farwolaeth. Ar dudalen deitl yn argraffiad cyntaf yn 1724, rhoir yr awdur fel Capten Charles Johnson; mae rhai ysgolheigion yn credu mai Daniel Defoe, yn ysgrifennu dan ffugenw, oedd yr awdur. Rhoddodd Johnson fwy o le yn ei lyfr i Roberts nag i unrhyw un o'r môr-ladron eraill, gan ei ddisgrifio fel:

... a tall black man, near forty years of age ... of good natural parts and personal bravery, though he applied them to such wicked purposes as made them of no commendation, frequently drinking "Damn to him who ever lived to wear a halter."[9]

Mewn ffuglen

golygu

Ysgrifennodd T. Llew Jones nofel i blant am Roberts o'r enw Barti Ddu.

Rỳm Barti Ddu

golygu

Yn 2018 lansiwyd rym Barti Ddu Rum gan Jonathan Williams, wedi ei enwi ar ôl y môr-leidr. Mae'r rhym yn cynnwys gwymon a ceir gwahnol flasau. Bu'n rhaid newid enw'r rhym i 'Barti Spiced' oherwydd rheolau Safonnau Masnach sy'n mynnu bod 'rhym' yn 37.5% ABV (mae Bari yn 35%) alcohol. Mae'r ddiod yn cynnwys rwm Caribïaidd wedi'i wneud yn arbenigol, gyda fanila, clof ac oren cynnil, ond gyda bara lawr wedi'i gasglu â llaw.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Richard Sanders, If a Pirate I Must Be ... The True Story of "Black Bart," King of the Caribbean Pirates (Aurum Press, 2007), t. 18. Bathwyd y term "Barti Ddu" fel enw cerdd gan y bardd Cymreig I. D. Hooson, a ddewisodd yr enw yn ôl y sôn am fod Johnson wedi disgrifio pryd a gwedd tywyll Roberts.
  2. Marcus Rediker, Villains of All Nations: Atlantic Pirates in the Golden Age (Beacon Press, 2004), t. 33.
  3. Terry Breverton, Black Bart Roberts: The Greatest Pirate of them All (Glyndwr Publishing, 2004), t.172
  4. Lisa Yount, Pirates (Lucent Books, 2002), t. 74
  5. Aubrey Burl, Black Barty: Bartholomew Roberts and his Pirate Crew, 1718–1723 (Sutton Publishing, 2006), t. 55
  6. Yount, t. 64
  7. Sanders, t. 18.
  8. Stanley Richards, Black Bart (Christopher Davies, 1966), t. 20
  9. Charles Johnson, A General History of the Robberies and Murders of the most notorious Pyrates (1724; Conway Maritime Press, 1998), t. 213
  10. "About". Gwefan Barti. Cyrchwyd 17 Mai 2023.
  NODES
os 9