Basilicata
rhanbarth yr Eidal
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Basilicata. Potenza yw'r brifddinas.
Math | rhanbarthau'r Eidal |
---|---|
Prifddinas | Potenza |
Poblogaeth | 547,579 |
Pennaeth llywodraeth | Vito Bardi |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Buenos Aires |
Nawddsant | Gerard Majella |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 9,994.61 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 633 metr |
Gerllaw | Môr Ionia |
Yn ffinio gyda | Campania, Puglia, Calabria |
Cyfesurynnau | 40.5°N 16.5°E |
IT-77 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Basilicata |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Basilicata |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Basilicata |
Pennaeth y Llywodraeth | Vito Bardi |
Mae Basilicata yn ffinio ar ranbarthau Campania yn y gorllewin, Calabria yn y de-orllewin ac Apulia (Puglia) yn y dwyrain. Yn y de-ddwyrain mae Bae Taranto yn ffin.
Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys Monte Pollino, copa uchaf rhan ddeheuol mynyddoedd yr Apenninau, 2,233 medr o uchder. Yn hanesyddol, roedd yn un o ranbarthau tlotaf yr Eidal, gyda llawer o allfudo, ond mae'r economi wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid yr ardal yn Lucania.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 578,036.[1]
Rhennir y rhanbarth yn ddwy dalaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 22 Rhagfyr 2020
Dolenni allanol
golygu- (Eidaleg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-03-05 yn y Peiriant Wayback