Tref a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc sy'n préfecture (prifddinas) département Territoire de Belfort, yn rhanbarth Franche-Comté yw Belfort (Almaeneg: Beffert). Mae ganddi boblogaeth o 50,417 (1999), neu tua 80,000 yn cynnwys y maesdrefi.

Belfort
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth45,155 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDamien Meslot Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Delémont, Leonberg, Zaporizhzhia, Stafford, Bad Lobenstein, Skikda, Bwrdeistref Stafford Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Belfort, Territoire de Belfort Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd17.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr358 ±1 metr, 354 metr, 650 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBavilliers, Cravanche, Danjoutin, Denney, Essert, Évette-Salbert, Offemont, Pérouse, Valdoie Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.6375°N 6.8628°E Edit this on Wikidata
Cod post90000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Belfort Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDamien Meslot Edit this on Wikidata
Map

Fe'i lleolir ar afon Savoureuse ar y Trouée de Belfort (Bwlch Belfort), math o fwlch strategol rhwng mynyddoedd y Vosges a'r Jura ar y llwybr naturiol rhwng afonydd Rhein (i'r dwyrain) a Rhône (i'r gorllewin), a adnabyddir hefyd fel y Porte de Bourgogne (Drws Bwrgwyn).

Oherwydd ei lleoliad strategol mae Belfort wedi atynnu ymsefydlwyr ac ymosodwyr ers cyfnod y Rhufeiniaid. Ystyr yr enw yw "caer hardd", a thyfodd y dref o gwmpas yr amddiffynfa. Ceir eglwys gadeiriol hardd yno hefyd.

Dolenni allanol

golygu
  NODES
os 4