Bhutia (iaith)

iaith

Iaith Tibeto-Bwrmaidd (is-deulu mawr o'r Ieithoedd Sino-Tibetaidd) sy'n perthyn yn agos i Dibeteg yw Bhutia (weithiau Bhotia neu "Iaith Sikkim"). Ni cheir cytundeb llwyr ar ei statws ieithyddol; cyfeirir ati gan rai fel is-iaith Tibeteg tra bod eraill yn ei galw yn dafodiaith Dibeteg. Mae'n iaith leiafrifol y gumuned Bhutia yng ngogledd Sikkim. Ei henw Bhutia yw Dranjongke (Bras-ljongs-skad). Mae'n ddigon agos i'r Dibeteg i siaradwyr yr iaith honno fedru deall cryn dipyn arni, ond mae'n cynnwys geiriau, cystrawennau ac idiomau sy'n ei gosod ar wahân hefyd. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Bhutia addysgedig yn medru deall Tibeteg yn weddol rwydd am ei bod yn iaith yr ysgrythurau Bwdhaidd Tibetaidd. Defnyddir ysgrifen Dibeteg i ysgrifennu Bhutia.

Ceir tua 28,600 o siaradwyr Bhutia yn Sikkim (1996). Ceir rhywfaint o siaradwyr yr iaith dros y ffin yn Bhwtan hefyd. Iaith leiafrifol yw hi yn Sikkim erbyn heddiw, ond yn y gorffennol roedd hi'n iaith y mwyafrif. Mae'n bosibl fod yr iaith Lepcha frodorol wedi dylanwadu arni. Mae nifer o Nepaliaid wedi ymsefydlu yn Sikkim dros y ganrif ddiwethaf, nifer ohonyn nhw wedi symud yno o Darjeeling, ac erbyn heddiw Nepaleg yw prif iaith y dalaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES