Grŵp o gemau a chwaraeir ar fwrdd petryal rhwng dau neu ragor o chwaraewyr yw biliards sy'n defnyddio ffon o'r enw ciw i daro peli i bocedi. Chwaraeir y prif ffurfiau ar fyrddau gyda chwe phoced: biliards Seisnig, gyda thair pêl; snwcer, gyda 21 o beli a phêl daro; a phŵl gyda 15 pêl a phêl daro.[1] Ceir hefyd ffurfiau a chwaraeir ar fyrddau arbennig, megis biliards Ffrengig, biliards bar a bagatél.

Merched yn chwarae biliards yn Nolgellau. Ffotograff gan Geoff Charles (1963).

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Billiards. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mai 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES