Mae Botwliaeth in salwch prin a allai fod yn angheuol a achosir gan docsin a gynhyrchir gan y bacteriwm Clostridium botulinum. Mae'r afiechyd yn dechrau gyda gwendid, methu gweld yn eglur, teimlo'n flinedig, a chael trafferth siarad. Gall hyn wedyn gael ei ddilyn gan wendid y breichiau, y cyhyrau a'r coesau.  Nid yw'r clefyd fel arfer yn effeithio ar ymwybyddiaeth nac yn achosi twymyn.

Botwliaeth
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus bacterol cychwynnol, clefyd heintus bacterol, acquired neuromuscular junction disease, infectious disease of the nervous system, geonosis, Afiechyd a gludir gan fwyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Botwliaeth
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus bacterol cychwynnol, clefyd heintus bacterol, acquired neuromuscular junction disease, infectious disease of the nervous system, geonosis, Afiechyd a gludir gan fwyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall Botwliaeth ledu mewn sawl ffordd. Mae'r sborau bacteriol sy'n ei achosi yn gyffredin yn y pridd a'r dŵr. Maent yn cynhyrchu'r tocsin botulinwm pan fyddant yn agored i lefelau ocsigen isel a thymereddau penodol. Mae botwliaeth a gludir gan fwyd yn digwydd pan fydd bwyd sy'n cynnwys y tocsin yn cael ei fwyta. Mae botwliaeth babanod yn digwydd pan fydd y bacteria'n datblygu yn y coluddyn ac yn rhyddhau'r tocsin. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn unig mewn plant llai na chwe mis oed, wrth i fecanweithiau diogelu ddatblygu ar ôl y cyfnod hwnnw. Canfyddir botwliaeth clwyf yn fwyaf aml ymhlith y rhai sy'n chwistrellu cyffuriau stryd. Yn y sefyllfa hon, mae sborau'n mynd i mewn i glwyf, ac yn absenoldeb ocsigen, maent ynryddhau'r tocsin. Nid yw'n cael ei basio yn uniongyrchol rhwng pobl. Cadarnheir y diagnosis trwy ddod o hyd i'r tocsin neu'r bacteria yn yr unigolyn dan sylw.

Gellir atal botwliaeth yn bennaf trwy baratoi bwyd mewn ffordd briodol.  Mae'r tocsin, nid yr organeb er hynny, yn cael ei ddinistrio trwy ei wresogi i fwy na 85 °C (185 °F) am fwy na 5 munud. Gall mêl gynnwys yr organeb, ac am y rheswm hynny, ni ddylid bwydo mêl i blant dan 12 mis. Gellir trin botwliaeth gydag antitoxin. Mae'r rhai sy'n colli eu gallu i anadlu ar eu pennau eu hunain, efallai y bydd angen awyru mecanyddol am fisoedd. Gellir defnyddio cyffuriau gwrthfiotig i drin botwliaeth clwyf. Mae marwolaeth yn digwydd mewn 5 i 10% o bobl. Mae botwliaeth hefyd yn effeithio ar lawer o anifeiliaid eraill.[1] Mae'r gair yn dod o'r Lladin, botulus, sy'n golygu selsig.[2] Mae disgrifiadau cynnar o botwliaeth yn dyddio'n ôl i o leiaf 1793 yn yr Almaen.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Botulism Fact sheet N°270". World Health Organization. October 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2017. Cyrchwyd 17 November 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Lewis, Charlton T.; Short, Charles. "A Latin Dictionary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-14. Cyrchwyd 2014-06-09. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Truong, Daniel; Dressler, Dirk; Hallett, Mark; Zachary, Christopher (2014). Manual of Botulinum Toxin Therapy (yn Saesneg) (arg. 2). Cambridge University Press. t. 1. ISBN 9781107654334.
  NODES
os 10