Brenhinllin Zhou
Brenhinllin Zhou (Tsieineeg: 周朝, pinyin: zhouchao), oedd y drydedd frenhinllin yn hanes Tsieina. Mae'n dyddio o tua 1122 CC hyd 256 CC, yn dilyn Brenhinllin Shang, ac roedd ei thiriogaeth yn ymestyn ar hyd dyffryn yr Afon Felen. Sefydlwyd Brenhinllin Zhou gan y teulu Ji, ac roedd y brifddinas yn Hao (gerllaw Xi'an heddiw).
Enghraifft o'r canlynol | Chinese dynasty, ancient Chinese state, cyfnod o hanes |
---|---|
Daeth i ben | c. 256 CC |
Rhan o | Three Dynasties |
Dechrau/Sefydlu | c. 1046 CC |
Rhagflaenwyd gan | Brenhinllin Shang |
Olynwyd gan | Brenhinllin Qin |
Yn cynnwys | Eastern Zhou, Western Zhou |
Olynydd | Brenhinllin Qin |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Tsieina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 770 CC, dinistriwyd y brifddinas gan lwythau barbaraidd o'r gorllewin, a symudodd y brenin Ping y brifddinas tua'r dwyrain i Luoyi (Luoyang heddiw). Ystyrir hyn fel diwedd cyfnod y Zhou gorllewinol, a dechrau'r Zhou Dwyreiniol.
Olynwyd y Zhou gan Frenhinllin Qin.
Cyfnodau hanes Tsieina | |
---|---|
Hanes Tsieina | Brenhinllin Shang • Brenhinllin Zhou • Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar • Brenhinllin Qin • Brenhinllin Han • Brenhinllin Tang • Brenhinllin Yuan • Brenhinllin Ming • Brenhinllin Qing |