Canberra
Mae Canberra (Ngunnawaleg: Ngambri) yn brifddinas Awstralia, gyda phoblogaeth o dros 340,000 o bobl. Dyma'r wythfed ddinas fwyaf yn Awstralia. Lleolir y ddinas ar ran ogleddol Tiriogaeth Awstralia, 280 km (170 milltir) i'r de-orllewin o Sydney a 600 km (410 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Melbourne. Dewiswyd lleoliad Canberra fel prifddinas y wlad fel cyfaddawd rhwng Sydney a Melbourne, dwy ddinas fwyaf Awstralia. Mae'r ddinas yn anghyffredin ymhlith dinasoedd Awstralia, am ei bod yn ddinas a gynlluniwyd ac a adeiladwyd am bwrpas. Yn sgîl cystadleuaeth rhyngwladol am gynllun y ddinas, dewiswyd cynllun gan benseiri o Chicago, Walter Burley Griffin a Marion Mahony Griffin, a dechreuwyd ar y broses adeiladu ym 1913. Dylanwadwyd cynllun y ddinas yn fawr gan y mudiad gerddi'r ddinas a oedd yn cynnwys ardaloedd helaeth o dyfiant naturiol ac felly mae gan Canberra y teitl fel "prifddinas y gwylltdiroedd". Er i'r Rhyfeloedd Byd a'r Dirwasgiad Mawr rwystro datblygiad Canberra, datblygodd yn ddinas ffynniannus ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Math | dinas, dinas fawr, political city, planned national capital, prifddinas ffederal |
---|---|
Poblogaeth | 381,488 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canberra - Queanbeyan |
Sir | Tiriogaeth Prifddinas Awstralia |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 471.78 km² |
Uwch y môr | 578 metr |
Gerllaw | Lake Burley Griffin |
Cyfesurynnau | 35.2931°S 149.1269°E |
Cod post | 2600–2617 |
Fel canolbwynt llywodraeth Awstralia, lleolir y Senedd-dy, Uchel Lys Awstralia a nifer o adrannau ac asiantaethau llywodraethol yno. Yno hefyd y lleolir nifer o sefydliadau cymdeithasol a diwylliannol o arwyddocad sylweddol, megis Cofeb Ryfel Awstralia, Oriel Genedlaethol Awstralia, Amgueddfa Genedlaethol Awstralia a Llyfrgell Genedlaethol Awstralia. Y llywodraeth ffederal sy'n cyfrannu'r canran fwyaf o Gynnyrch Cyfansymiol y Dalaith a nhw yw'r cyflogwyr unigol fwyaf yng Nghanberra.
Diwylliant
golyguY celfyddydau ac adloniant
golyguCeir nifer o gofebau a sefydliadau hanesyddol yng Nghanberra megis Cofeb Rhyfel Awstralia, Oriel Genedlaethol Awstralia, Oriel Darluniau Awstralia, Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Archifdy Cenedlaethol Awstralia, Academi Gwyddoniaeth Awstralia ac Amgueddfa Genedlaethol Awstralia. Mae nifer o adeiladau llywodraeth y Gymanwlad ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys y Senedd-dy, yr Uchel Lys a Mint Frenhinol Awstralia. Lleolir Cofen Captain Hook wrth Lyn Burley Griffin a'r Carillon Cenedlaethol. Ymysg y llefydd eraill o ddiddordeb mae Tŵr y Mynydd Du a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Awstralia ar y Mynydd Du, y Sŵ a'r Acariwm Cenedlaethol ar Argae Scrivener, Amgueddfa Cenedlaethol y Deinasoriaid a Questacon - Canolfan Dechnoleg a Gwyddoniaeth Naturiol.
Adelaide (De Awstralia) · Brisbane (Queensland) · Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) · Darwin (Tiriogaeth y Gogledd) · Hobart (Tasmania) · Melbourne (Victoria) · Perth (Gorllewin Awstralia) · Sydney (De Cymru Newydd)