Captain Beefheart

cynhyrchydd a chyfansoddwr a aned yn 1941

Cerddor roc, blues ac avant-garde arloesol Americanaidd oedd Don Van Vliet a adwaenid fel Captain Beefheart (15 Ionawr 194117 Rhagfyr 2010).

Captain Beefheart
FfugenwCaptain Beefheart Edit this on Wikidata
GanwydDon Glen Vliet Edit this on Wikidata
15 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Glendale Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 2010 Edit this on Wikidata
Arcata Edit this on Wikidata
Label recordioA&M Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Antelope Valley High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, bardd, cyfansoddwr, cerflunydd, arlunydd, chwaraewr sacsoffon, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd ffilm, gitarydd, amgylcheddwr, cerddor, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTrout Mask Replica Edit this on Wikidata
Arddullroc celf, roc arbrofol, roc blaengar, roc seicedelig, roc y felan, free jazz, proto-punk, outsider music, spoken word, roc amgen Edit this on Wikidata
MudiadMynegiadaeth Haniaethol Edit this on Wikidata
PriodJan Jenkins Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.beefheart.com/ Edit this on Wikidata

Perfformiodd gyda'i grŵp y Magic Band a rhyddhawyd nifer o recordiau hir rhwng y 1960au a'r 1980au. Roedd gan ei recordiau ond yn apêl fasnachol gyfyngedig iawn ond yn ddylanwad enfawr ar nifer mawr o gerddorion a 'genres'.

Yn nes ymlaen yn ei fywyd enillodd enw fel peintiwr o fri gan arddangos ei waith ar draws y byd.[1]

Bywyd cynnar

golygu
 
Captain Beefheart (Don Van Vliet), Mai 1980

Yn blentyn galluog iawn, fe'i magwyd yn ardal Anialwch Mojave, Califfornia. Dangosodd gryn dalent fel cerflunydd a ddaeth yn ffrindiau gyda Frank Zappa. Dysgodd chwarae harmonica a sacsoffon a ffurfiodd ei Magic Band cyntaf yn 1964.

Bywgraffiad

golygu

Cafodd y grŵp (oedd yn cynnwys Ry Cooder am gyfnod) beth llwyddiant gyda'r recordiau hir Safe as Milk (1967) and Strictly Personal (1968).

Yn 1969 rhyddhawyd ei record enwocaf Trout Mask Replica, a gynhyrchwyd gan Zappa. Mae'r record yn ymadawiad syfrdanol o gonfensiynau roc confensiynol, gan gyfuno gitâr sleid, rhythmau anghyfarwydd a geiriau swrreal. Roedd ei ganeuon yn cyfleu anfodlonrwydd dwfn o fywyd modern, awydd am gydbwysedd ecolegol, a'r gred fod anifeiliaid gwyllt yn fwy gwareiddiedig na phobl.

Er iddo ennill clod am ei recordiau canlynol fel Clear Spot (1972), Shiny Beast (Bat Chain Puller) (1978), Ice Cream for Crow (1982), roedd eu poblogrwydd yn gyfyngedig i ddilyniant 'cult' brwd.

Yn adnabyddus am ei bersonoliaeth a pherthynas enigmatig â'r cyhoedd, ychydig iawn o ymddangosiadau cyhoeddus wnaeth Van Vliet ar ôl iddo ymddeol o gerddoriaeth yn 1982.

Yn y 1980au dilynodd yrfa mewn celf, diddordeb a ddechreuodd yn ifanc gyda cherflunio. Mae ei baentiadau a lluniau mynegol wedi'u gwerthu am brisiau uchel, ac maent wedi'u harddangos mewn orielau celf ac amgueddfeydd ar draws y byd.

Bu farw Van Vliet yn 2010, ar ôl dioddef o sglerosis ymledol ers sawl blwyddyn.[1]

Recordiau hir stiwdio

golygu
  • Safe as Milk (1967)
  • Strictly Personal (1968)
  • Trout Mask Replica (1969)
  • Lick My Decals Off, Baby (1970)
  • Mirror Man (1971)
  • The Spotlight Kid (1972)
  • Clear Spot (1972)
  • Unconditionally Guaranteed (1974)
  • Bluejeans & Moonbeams (1974)
  • Shiny Beast (Bat Chain Puller) (1978)
  • Doc at the Radar Station (1980)
  • Ice Cream for Crow (1982)
  • Bat Chain Puller (2012)

Cyfeiriadau

golygu
  NODES
os 7