Dinas gaerog yn département Aude yn Languedoc-Roussillon, de Ffrainc, yw Carcassonne (Ocsitaneg: Carcassona). Saif tua 90 km (56 milltir) i'r de-ddwyrain o Toulouse. Mae dwy ran i'r dref fodern, y rhan gaerog, Cité de Carcassonne, a'r dref tu allan i'r muriau, y ville basse. Llifa Afon Aude heibio i'r dref.

Carcassonne
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth46,429 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iEggenfelden, Baeza, Tallinn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sircanton of Carcassonne-Est, canton of Carcassonne-Centre, canton of Carcassonne-Nord, canton of Carcassonne-Sud, Aude, arrondissement of Carcassonne Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd65.08 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr111 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Aude, Fresquel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBerriac, Caux-et-Sauzens, Cavanac, Cazilhac, Couffoulens, Fontiès-d'Aude, Lavalette, Montirat, Palaja, Pennautier, Pezens, Roullens, Trèbes, Villedubert, Villemoustaussou Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.2158°N 2.3514°E Edit this on Wikidata
Cod post11000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Carcassonne Edit this on Wikidata
Map
Mur Carcassonne

Sefydlwyd y safle fel oppidum Celtaidd dan yr enw Carsac. Adeiladodd y Rhufeiniaid amddiffynfeydd yma, ac enwi'r dref yn Colonia Julia Carsaco. Adeiladwyd amddiffynfeydd eraill gan Theodoric II, brenin y Fisigothiaid, a feddiannodd y dref yn 453.

Daeth Carcassonne yn adnabyddus am ei rhan yn y Groesgad Albigensaidd, pan amddiffynid y gaer gan y Cathariaid. Yn Awst 1209 cipiwyd y ddinas gan fyddin Simon de Montfort.

Adferwyd yr amddiffynfeydd o 1853 ymlaen gan y pensaer Eugène Viollet-le-Duc, ac yn 1997 fe'u henwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Amddiffynfa Carcassonne
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys St. Nazaire a St. Celse
  • Pont Vieux (Hen Bont)

Enwogion

golygu
  NODES