Claf
Person sy'n derbyn sylw, gofal, neu driniaeth feddygol yw claf.
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr |
---|---|
Math | person sal, cwsmer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cleifion mewnol ac allanol
golyguClaf a gyfeirir gan weithiwr iechyd proffesiynol, megis meddyg neu ddeintydd, i weld ymgynghorydd yn yr ysbyty am farn arbenigol yw claf allanol. Mae claf mewnol ar y llaw arall yn aros yn yr ysbyty am gyfnod am brofion neu am lawdriniaeth. Mae angen gwely ar glaf dydd (neu achos dydd) am brofion neu am lawdriniaeth, ond nid yw claf dydd yn aros yn yr ysbyty dros nos fel cleifion mewnol arferol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ysbytai: Cael eich derbyn i'r ysbyty. Directgov. Adalwyd ar 13 Hydref, 2009.