Clogwyn Du'r Arddu

Clogwyn ar yr Wyddfa yn Eryri yw Clogwyn Du'r Arddu. Saif rhyw 1 km i'r gogledd o gopa'r Wyddfa, gyda Llyn Du'r Arddu wrth ei droed. Enwyd Gorsaf Clogwyn ar Reilffordd yr Wyddfa ar ei ôl.

Clogwyn Du'r Arddu a Llyn Du'r Arddu

Mae'r clogwyn yma wedi bod o bwysigrwydd neilltuol yn hanes datblygiad dringo yn Eryri am yn Mhrydain yn gyffredinol. Yma y cofnodir dringo creigiau, yn hytrach na cherdded mynyddoedd, am y tro cyntaf yn 1798 pan fu'r Parchedig Peter Williams a'r Parchedig William Bingley yn dringo Clogwyn Du'r Arddu wrth chwilio am blanhigion arctig-alpaidd. Ysgrifennodd Bingley yn ddiweddarach:

I believe it was the prospect downwards that determined us to brave every difficulty. It happened fortunately that the steep section immediately above us was the only one that presented any material danger. Mr Williams, having a pair of strong shoes with nails in them, which would hold their footing better than mine, requested to make the first attempt, and after some difficulty he succeeded … When he had fixed himself securely to a part of the rock, he took off his belt, and holding it firmly by one end, gave the other to me: I laid hold, and, with a little aid from the stones, fairly pulled myself up by it. After this we got on pretty well, and in about an hour and a quarter from the commencement of our labour, we found ourselves upon the brow of this dreadful precipice, and in possession of all the plants we expected to find.

Mae'r clogwyn yn parhau i fod yn le da i chwilio am y planhigion hyn.

Ymhlith y dringwyr a gysylltir a'r clogwyn mae Jack Longland, Ron James, Colin Kirkus, Joe Brown, Don Whillans a Johnny Dawes.

Llyfryddiaeth

golygu

Gweler hefyd

golygu
  NODES