Coch
Lliw yw coch, yn cyfateb i olau â thonfedd hir o dua 625–760 nanomedr. Mae coch yn un o'r lliwiau cynradd.
Enghraifft o'r canlynol | lliw primaidd |
---|---|
Math | goleuni, lliw |
Rhan o | 7-liw'r enfys |
Rhagflaenwyd gan | fioled |
Olynwyd gan | oren |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etymoleg
golyguDaw'r gair coch o'r Lladin Diweddar coccum ‘aeronen goch; prinwydden (derwen goch); coch y derw’ a ddaw ei hun o'r Hen Roeg kókkos ‘grawn, cnewyllyn; prinwydden; coch y derw’.[1] Mae'n cyfateb i'r gair am y lliw coch yn yr Albaneg sef kuq.
Symboliaeth
golyguMae'r lliw coch yn gallu symboleiddio'r canlynol: Perygl, rhyfel, gwaed, poen, Comiwnyddiaeth, Sosialaeth, dicter, cariad a nwyd.
Mae rhosod coch yn symbol o gariad a phabïau yn symbol marwolaeth, yn enwedig marwolaethau milwyr yn ystod rhyfel.
Y Ddraig Goch yw arwyddlun cenedlaethol Cymru; cyfeirir ati am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius.
Ystyron eraill
golyguYn y Gymraeg mae "coch" yn gyfystyr a "blue" yn Saesneg yn yr ystyr "masweddus", "budr" (yn ymwneud â rhyw), e.e. jôc coch, ffilm goch (blue movie). Mae coch yn lliw a gysylltir â phuteindra mewn sawl diwylliant, gyda llusern goch neu ryw arwydd coch arall yn y ffenestr yn dynodi bod rhyw am dal ar gael yn y tŷ hwnnw (fel yn achos yr ardal golau coch adnabyddus De Wallen yn Amsterdam). Ceir y gyfrol Englynion Coch gan Wasg y Lolfa - englynion yn ymwneud â rhyw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ coch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.