Enw ar arf losg fyrfyfyr yw coctel Molotov (a elwir hefyd yn fom petrol neu'n fom tân). Potel yw'r enghraifft nodweddiadol o'r bom hwn sy'n cynnwys hylif fflamadwy megis petrol a wic yn dod allan o wddf y botel a gaiff ei gynnau cyn taflu'r bom at y targed. Ei bwrpas yw i achosi tân wrth i'r botel malu, ond nid o reidrwydd i achosi difrod mawr.

Dyn yn taflu coctel Molotov yn ystod protestiadau yng Ngwlad Tai yn 2010

Maent yn hawdd ac yn rhad i'w gwneud, ac felly'n arf boblogaidd, yn lle grenâd llaw, gan frwydrwyr afreolaidd neu sydd heb arfau proffesiynol. Defnyddir yn aml mewn gwrthryfeloedd, ymgyrchoedd herwfilwrol, a therfysgoedd.

Defnyddiwyd yn gyntaf yn Rhyfel Cartref Sbaen i roi tanciau ar dân, cyn iddynt ennill yr enw "coctel Molotov" a hynny yn ystod Rhyfel y Gaeaf rhwng y Ffindir a'r Undeb Sofietaidd.

Geirdarddiad

golygu

Bathwyd y term "coctel Molotov" yn ystod Rhyfel y Gaeaf, gan gyfeirio at Vyacheslav Molotov, Gweinidog Tramor yr Undeb Sofietaidd. Defnyddiodd yr awyrlu Sofietaidd bomiau clwstwr yn erbyn targedau'r Ffindir, a honnodd Molotov mewn darllediadau ar y radio taw bwyd i bobl y wlad oedd yn cael ei ollwng, nid bomiau, er nad oedd newyn yn y Ffindir. Galwyd y bomiau'n "fasgedi bara Molotov" gan y Ffiniaid, ac yn fuan dechreuodd lluoedd y Ffindir ymosod ar danciau Sofietaidd gan ddefnyddio "coctels Molotov", hynny yw diod i gyd-fynd â'r bwyd.

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  NODES
Done 1
eth 3