Helgi bach sy'n tarddu o Loegr yw'r Corhelgi,[1] y Corfytheiad (lluosog: Corfythéid neu Corfytheiaid),[1] y Beglgi[1][2] neu'r Fegl (lluosog: Begls).[3] Mae'n gi bywiog ac annwyl sy'n dda wrth ddilyn trywydd drwy synhwyro i hela cwningod ac ysgyfarnogod.[2][4]

Corhelgi
Math o gyfrwngbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathhunting dog, Hound Edit this on Wikidata
Màs9 cilogram Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enw brodorolBeagle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Corhelgi ar ei eistedd

Mae'n edrych yn debyg i gi cadno bach gyda llygaid mawr brown, clustiau llipa, a chôt fer o liw du, melyn a gwyn. Cydnabyddir dau faint o'r brîd hwn: corhelgwn sy'n sefyll 33 cm (13 modfedd) neu'n fyrach ac yn pwyso tua 8 kg (18 o bwysau), a chorhelgwn o daldra 33 i 38 cm (13 i 15 modfedd) ac yn pwyso tua 14 kg (30 o bwysau).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 113 [beagle].
  2. 2.0 2.1  beglgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Medi 2014.
  3.  begl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Medi 2014.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) beagle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2014.
  NODES
Done 1
eth 3