O fewn y system cyfraith gyffredin mae 'cynsail Barnwrol yn rheol neu'n egwyddor a osodir mewn llys cynharach h.y. pan osodir egwyddor mewn llys, caiff effaith ar benderfyniadau pob llys arall sy'n dilyn. Mae cysondeb o bwys eithriadol o fewn y system gyfreithiol fel bod ffeithiau tebyg yn rhoi canlyniad tebyg; drwy osod cynsail, mae hyn yn cael ei wireddu.

Mae gosod cynsail yn rhwymo bob llys sy'n dilyn.

Syniad o Gynsail

golygu

Y wireb Ladin stare decisis (stare decisis et non quieta movere) sydd yn cefnogi'r rheswm a'r syniad dros gynsail. Yn syml, mae'r wireb yn golygu sefyll wrth y benderfyniad, ac i beidio â mynd yn ei erbyn.

Rheswm y Gynsail

golygu

Gelwir y rheswm dros gynsail yn ratio decidendi, sy'n wireb Ladin sef yr hyn sydd yn creu'r cynsail. Ar gyfer y pethau eraill a ddywedir, y term a ddefnyddir yw obiter dicta. Ambell waith, mi fydd y barnwr yn creu nodiadau sydd yn esbonio beth all fod wedi digwydd os oedd ambell ffaith yn yr achos wedi bod yn wahanol.

Hierarchaeth

golygu

Mae cynsail yn dibynnu ar y math o lys. Yn gyffredinol, rhaid i is-lys ddilyn cynseiliau llys uwch, ond nid i'r gwrthwyneb. Os yw'r Goruchaf Lys yn creu cynsail yna mi fydd rhaid i bob llys arall ei ddilyn; y Goruchaf Lys yw'r llys bwysicaf. Yn y llysoedd troseddol, os yw'r Llys y Goron yn creu cynsail, mi fydd rhaid i'r Llys Ynadon ei ddilyn, ond ni fydd rhaid i'r Goruchaf Lys ei ddilyn. Mae hierarchaeth tebyg yn y llysoedd sifil - yn nhrefn o'r mwyaf pwysig i'r lleiaf: Y Goruchaf Lys, Y Llys Apêl, Yr Uchel Lys, y Lys Sirol.

Datganiad Practis

golygu

Pwrpas y Datganiad Practis yw i wneud yn siwr bod y llysoedd yn dilyn eu cyn-benderfyniadau - er hynny, mae'r datganiad hefyd yn rhoi'r hyblygiad i farnwyr gwrthod defnyddio cynsail os mae'n dangos yn annheg. Cafodd cynsail ei ddefnyddio yn achos R Addie & Sons v Dumbreck (1929) - er hynny, yn ystod achos Herrington v British Railways Board (1972), fe wnaeth y barnwr ddefnyddio'r Datganiad Practis er mwyn newid y gyfraith, a sicrhau bod tegrwydd wrth ddelio â'r achos.

Mathau o Gynsail

golygu

Cynsail Rhwymol

golygu

Os oes cynsail yn dod o lys uwch, mi fydd rhaid i'r llys sydd yn delio â'r achos ddilyn y gynsail yna. Mi fydd y gynsail yma yn rhwymo bob llys o dan y lys a benderfynodd creu'r gynsail.

Cynsail Gwreiddiol

golygu

Fel mae'r enw yn dyfarnu, y cynsail gwreiddiol yw hyn - sef y cynsail gyntaf i gael ei chreu ar gyfer y fath achos. Gall y llys sydd wedi creu'r cynsail dewis os dyle'r cynsail dod yn rhwymedig ar gyfer y llysoedd o'r dan neu beidio.

Cynsail Perswadiol

golygu

Os nad oes cynsail yn rhwymedig, weithiau gall barnwr dal i'w ddefnyddio. Oherwydd mae'r cynsail ambell waith yn perswadio barnwr i'w defnyddio, dyma lle daeth yr enw.

Manteision ac Anfanteision

golygu

Er bod cynsail yn cynnig cysondeb, cywirdeb, a sicrwydd i'r gyfraith, maen nhw hefyd yn gallu bod yn anhyblyg iawn. Os oes barnwr yn credu bod cynsail rhwymedig yn annheg, mae rhaid i'r barnwr ei ddefnyddio os oes llys uwch wedi'i greu. Gall hyn arwain at ganlyniad afresymol ac annheg. Mae cynsail yn araf iawn i'w newid; er mwyn newid cynsail, mi fydd rhaid i'r llys aros ar gyfer achos tebyg codi cyn ceisio'i newid.

  NODES