Cyrch Llif al-Aqsa
Cyrch gan luoedd lledfilwrol o Balesteina dan arweiniad Hamas yn erbyn Israel ar 7 Hydref 2023 oedd Cyrch Llif al-Aqsa. Goresgynnwyd tiriogaeth Israel o amgylch y ffin â Llain Gaza gan filoedd o aelodau Hamas, Mudiad y Jihad Palesteinaidd, y Pwyllgorau Gwrthsafiad Poblogaidd, y Ffrynt Poblogaidd (PFLP), a'r Ffrynt Democrataidd (DFLP), gan sbarduno rhyfel newydd yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina. Nid oedd yn ymosodiad ar dargedau milwrol yn unig: cafodd nifer o sifiliaid eu lladd mewn cyflafanau, ac o'r herwydd caiff y cyrch ei gondemnio fel cyfres o ymosodiadau terfysgol neu'n drosedd rhyfel. Hon oedd y lladdfa fwyaf o sifiliaid Iddewig ers yr Holocost, a chaiff ei hystyried yn achos o hil-laddiad gan rai.
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol cydgysylltiedig, ymosodiad milwrol, cyflafan, border incident, raid, trosedd yn erbyn dynoliaeth, hil-laddiad |
---|---|
Dyddiad | Hydref 2023 |
Lladdwyd | 1,200 |
Rhan o | Rhyfel Gaza, Gwrthdaro Israel-Gaza |
Dechreuwyd | 7 Hydref 2023 |
Daeth i ben | 9 Hydref 2023 |
Lleoliad | Gaza envelope |
Enw brodorol | عملية طوفان الأقصى |
Gwladwriaeth | Israel |
Rhanbarth | y rhabarth deheuol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddodd yr ymosodiad ar Shemini Atzeret, gŵyl Iddewig sy'n nodi diwedd Sukkot. Bu nifer o filwyr Israelaidd ar eu seibiant, a thynnwyd sylw Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn ddiweddar gan y ffin â Libanus yn y gogledd a thrais gan setlwyr Israelaidd yn y Lan Orllewinol. Dechreuodd yr ymladd yn y bore ar 7 Hydref 2023, oddeutu hanner awr wedi chwech, pan saethwyd o leiaf 2200 o rocedi gan Hamas tuag at diriogaeth Israel o fewn ugain munud. Roedd yr hwrdd hwnnw o danio yn cyfateb i fwy na hanner o'r holl nifer o rocedi a lansiwyd o Gaza yn ystod y gwrthdaro cynt yn 2021, a barodd 11 o ddiwrnodau,[1] a byddai rhyw 800 o rocedi ychwanegol yn cael eu saethu erbyn diwedd y dydd.[2] Cafodd system amddiffynnol y Gromen Haearn ei darostwng gan y pelediadau, er na chadarnhai'r IDF yn union faint o daflegrau a lwyddodd i dreiddio'r system. Wrth i'r rocedi ddisgyn, defnyddiwyd ffrwydron a theirw dur i dorri drwy'r gwahanfur rhwng Israel a Llain Gaza, ffin a oedd wedi'i hatgyfnerthu gan Israel gyda ffensys, adeiladwaith concrit, a thechnoleg glyfar. Goresgynnwyd tiriogaeth Israel gan o leiaf 1500 o luoedd Hamas a'r grwpiau eraill mewn cerbydau. Llwyddasant i ddifrodi rhwydweithiau cyfathrebu ar gyfer sawl gorsaf filwrol ar hyd y ffin, gan alluogi iddynt ymosod ar y safleoedd hynny a symud i gymunedau cyfagos heb i'r IDF rhagwybod. Ar yr un pryd, ymyrrwyd â'r goror ar y môr gan gwch modur ger tref Zikim, a theithiodd lledfilwyr eraill o Gaza i Israel ar gleiderau modur.[1]
Lladdwyd 1319 o bobl yn ystod yr ymosodiadau: 695 o sifiliaid Israelaidd (gan gynnwys 36 o blant), 71 o sifiliaid o ddinasyddiaeth arall, a 373 o filwyr yr IDF, heddweision, a lluoedd diogelwch eraill. Cyflawnwyd trais yn erbyn sifiliaid gan ryfelwyr Hamas o'r cychwyn, gan gynnwys cyflafan mewn gŵyl cerddoriaeth a laddodd o leiaf 260 o bobl, a chyrchoedd ar deuluoedd yn eu cartrefi mewn cibwtsau. Cafodd rhyw 200 o filwyr a sifiliaid Israelaidd, gan gynnwys plant, eu herwgipio gan ymladdwyr Palesteinaidd a'u cymryd yn wystlon yn Llain Gaza.[3][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Israel-Hamas War. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2024.
- ↑ (Saesneg) "Around 1,000 dead in Israel-Hamas war, as Lebanon’s Hezbollah also launches strikes", South China Morning Post (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Bethan McKernan, "Israel and Hamas at war after surprise attacks from Gaza Strip", The Guardian (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Emanuel Fabian, "Death toll from Hamas onslaught passes 1,200, as IDF steps up attacks on Hamas", The Times of Israel (11 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.