Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009 oedd y 54fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, a chaiff ei gynnal rhwng y 12fed a'r 16eg o Fai, 2009 yn Arena Dan-do Olympaidd Moscow, Rwsia. Gwelwyd newud yn y drefn pleidleisio yn 2009, wrth i reithgorau cenedlaethol gael eu hail-gyflwyno yn ogystal â phleidlais teleffon y cyhoedd. Cymerodd 42 gwlad rhan yn y gystadleuaeth; cyhoeddodd Slofacia y byddent yn dychwelyd i'r gystadleuaeth tra bod San Marino wedi tynnu allan am resymau ariannol. Yn wreiddiol, cyhoeddodd Latfia a Georgia eu bod yn bwriadu tynnu allan hefyd, ond yn ddiweddarach nododd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (UDE) y byddent yn cymryd rhan. Fodd bynnag, yn ddiweddarach tynnodd Georgia allan o'r gystadleuaeth ar ôl i'r EDE ddatgan fod eu cân wedi torri rheolau'r gystadleuaeth.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2009
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 112 Mai 2009
Rownd cyn-derfynol 214 Mai 2009
Rownd terfynol16 Mai 2009
Cynhyrchiad
LleoliadArena Dan-do Olympaidd, Moscow, Rwsia
CyflwynyddionCyn-derfynol:
Natalia Vodianova
Andrey Malahov
Terfynol:
Ivan Urgant
Alsou
Green Room:
Dmitry Shepelev
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Georgia Georgia
Baner San Marino San Marino
Canlyniadau
◀2008 Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010▶

Fformat

golygu

Ar y 20ain o Ionawr 2009, tynnwyd enwau allan o het i weld pa wledydd a fyddai'n ymddangos yn y rownd gyn-derfynol cyntaf neu'r ail. Rhannwyd gwledydd i mewn i chwech pot yn unol a phatrymau pleidleisio cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r chwech pot i benderfynu pa wledydd fyddai yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a phwy fyddai yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd y bydda'r Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio yn y rownd gyn-derfynol gyntaf, tra bod Rwsia a Ffrainc yn pleidleisio yn yr ail rownd gyn-derfynol. Tynnwyd yr enwau allan i benderfynu trefn y rowndiau cyn-derfynol a'r rownd derfynol a threfn y pleidleisio ar yr 16 o Fawrth 2009.

Pot 1 Pot 2 Pot 3
Pot 4 Pot 5 Pot 6

Canlyniadau

golygu

Gwledydd y rownd cyn-derfynol

golygu

Cymrodd 37 gwlad ran mewn un o ddwy rownd cyn -derfynol y gystadleuaeth. Tynnwyd yr enwau allan o'r het ar gyfer y rownd cyn-derfynol ar y 30ain o Ionawr, 2009 tra bod y rhestr o drefn y gwledydd wedi digwydd ar yr 16eg o Fawrth, 2009.

Y rownd cyn-derfynol gyntaf

golygu
  • Digwyddodd y rownd cyn-derfynol gyntaf ym Moscow ar y 12fed o Fai.
  • Aeth y naw gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ar y ffôn i'r rownd derfynol ar yr 16eg o Fai.
  • Penderfynodd y rheithgor ar y degfed gwlad i fynd trwyddo.
  • Pleidleisiodd y Deyrnas Unedig a'r Almaen yn y bleidlais hon.
  • Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
  • Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan y rheithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Saesneg Safle Pwyntiau
01   Montenegro Saesneg Andrea Demirović "Just Get Out of My Life" 11 44
02   Gweriniaeth Tsiec Saesneg, Romani Gipsy.cz "Aven Romale" Come in gypsies 18 0
03   Gwlad Belg Saesneg Patrick Ouchène "Copycat" 17 1
04   Belarws Saesneg Petr Elfimov "Eyes That Never Lie" 13 25
05   Sweden Saesneg, Ffrangeg Malena Ernman "La voix" The voice 4 105
06   Armenia Saesneg, Armeneg Inga and Anush "Jan Jan" My dear 5 99
07   Andorra Saesneg, Catalaneg Susanne Georgi "La teva decisió (Get a Life)" Your decision 15 8
08   Swistir Saesneg Lovebugs "The Highest Heights" 14 15
09   Twrci Saesneg Hadise "Düm Tek Tek" 2 172
10   Israel Saesneg, Hebraeg, Arabeg Noa a Mira Awad "There Must Be Another Way" 7 75
11   Bwlgaria Saesneg Krassimir Avramov "Illusion" 16 7
12   Gwlad yr Iâ Saesneg Yohanna "Is It True?" 1 174
13   Macedonia Mecedoneg Next Time "Neshto shto ke ostane" Something that will remain 10 45
14   Rwmania Saesneg Elena "The Balkan Girls" 9 67
15   Ffindir Saesneg Waldo's People "Lose Control" 12 42
16   Portiwgal Portiwgaleg Flor-de-Lis "Todas as ruas do amor" All the streets of love 8 70
17   Malta Saesneg Chiara "What If We" 6 86
18   Bosnia-Hertsegofina Bosnieg Regina "Bistra voda" Clear water 3 125

Yr ail rownd cyn-derfynol

golygu
  • Digwyddodd yr ail rownd cyn-derfynol ym Moscow ar y 14eg o Fai.
  • Pleidleisiodd Ffrainc a Rwsia yn y rownd cyn-derfynol hwn. Roedd Sbaen fod pleidleisio yn y rownd cyn-derfynol hwn ond yn sgîl camgymeriadau amseru gyda TVE, darlledwyd y rownd cyn-derfynol yn hwyr ac nid oedd pleidleiswyr Sbaen yn medru pleidleisio.
  • Dengys y lliw peach gwledydd a aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
  • Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan reithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithiad Saesneg Safle Pwyntiau
01   Croatia Croatian Igor Cukrov gyda. Andrea Šušnjara "Lijepa Tena" Beautiful Tena 13 33
02   Iwerddon Saesneg Sinéad Mulvey a Black Daisy "Et Cetera" 11 52
03   Latfia Rwsieg Intars Busulis "Probka" Traffic jam 19 7
04   Serbia Serbeg Marko Kon a Milaan "Cipela" Shoe 10 60
05   Gwlad Pwyl Saesneg Lidia Kopania "I Don't Wanna Leave" 12 43
06   Norwy Saesneg Alexander Rybak "Fairytale" 1 201
07   Cyprus Saesneg Christina Metaxa "Firefly" 14 32
08   Slofacia Slofaceg Kamil Mikulčík a Nela Pocisková "Leť tmou" Fly through darkness 18 8
09   Denmarc Saesneg Niels Brinck "Believe Again" 8 69
10   Slofenia Saesneg, Slofeneg Quartissimo gyda. Martina Majerle "Love Symphony" 16 14
11   Hwngari Saesneg Zoli Ádok "Dance with Me" 15 16
12   Aserbaijan Saesneg AySel a Arash "Always" 2 180
13   Gwlad Groeg Saesneg Sakis Rouvas "This Is Our Night" 4 110
14   Lithwania Saesneg, Rwsieg Sasha Son "Love" 9 66
15   Moldova Rwmaneg Nelly Ciobanu "Hora din Moldova" Hora o Moldova 5 106
16   Albania Saesneg Kejsi Tola "Carry Me in Your Dreams" 7 73
17   Wcráin Saesneg Svetlana Loboda "Be My Valentine! (Anti-Crisis Girl)" 6 80
18   Estonia Estoneg Urban Symphony "Rändajad" Nomads 3 115
19   Yr Iseldiroedd Saesneg The Toppers "Shine" 17 11

Y Rownd Derfynol

golygu

Digwyddodd y rownd derfynol ym Moscow ar yr 16eg o Fai am 23:00 (amser Moscow) (19:00 UTC). Cyflwynwyd y sioe gan Alsou ac Ivan Urgant. Y gwledydd a berfformiodd yn y rownd derfynol oedd:

  • Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
  • Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Rwsia.
  • Y naw gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn y rownd cyn-derfynol cyntaf.
  • Y naw gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn yn yr ail rownd cyn-derfynol.
  • Dewis y rheithgor o'r ddau rownd cyn-derfynol
  • Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithiad Saesneg Safle Pwyntiau
01   Lithwania Saesneg, Rwsieg Sasha Son "Love" 23 23
02   Israel Saesneg, Hebraeg, Arabeg Noa a Mira Awad "There Must Be Another Way" 16 53
03   Ffrainc Ffrangeg Patricia Kaas "Et s'il fallait le faire" And if it had to be done 8 107
04   Sweden Saesneg, Ffrangeg Malena Ernman "La voix" The voice 21 33
05   Croatia Croateg Igor Cukrov gyda Andrea "Lijepa Tena" Beautiful Tena 18 45
06   Portiwgal Portiwgaleg Flor-de-Lis "Todas as ruas do amor" All the streets of love 15 57
07   Gwlad yr Iâ Saesneg Yohanna "Is It True?" 2 218
08   Gwlad Groeg Saesneg Sakis Rouvas "This Is Our Night" 7 120
09   Armenia Saesneg, Armeneg Inga ac Anush "Jan Jan" My dear 10 92
10   Rwsia Rwsieg, Wcraneg Anastasiya Prikhodko "Mamo" Mother 11 91
11   Aserbaijan Saesneg AySel ac Arash "Always" 3 207
12   Bosnia-Hertsegofina Bosnieg Regina "Bistra voda" Clear water 9 106
13   Moldova Rwmaneg, Saesneg Nelly Ciobanu "Hora din Moldova" Hora from Moldova 14 69
14   Malta Saesneg Chiara "What If We" 22 31
15   Estonia Estoneg Urban Symphony "Rändajad" Nomads 6 129
16   Denmarc Saesneg Niels Brinck "Believe Again" 13 74
17   Yr Almaen Saesneg Alex Swings "Miss Kiss Kiss Bang" 20 35
18   Twrci Saesneg Hadise "Düm Tek Tek" [1] 4 177
19   Albania Saesneg Kejsi Tola "Carry Me in Your Dreams" 17 48
20   Norwy Saesneg Alexander Rybak "Fairytale" 1 387
21   Wcráin Saesneg Svetlana Loboda "Be My Valentine! (Anti-Crisis Girl)" 12 76
22   Rwmania Saesneg Elena "The Balkan Girls" 19 40
23   Deyrnas Unedig Saesneg Jade Ewen "It's My Time" 5 173
24   Ffindir Saesneg Waldo's People "Lose Control" 25 22
25   Sbaen Sbaeneg, Saesneg Soraya Arnelas "La noche es para mí" The night is for me 23 23

Cyfeiriadau

golygu
  NODES
Bugs 1