Daeargi Tibetaidd

Ci sodli a chi cymar sy'n tarddu o Dibet yw'r Daeargi Tibetaidd. Er ei enw, nid yw'n ddaeargi: defnyddiwyd yr enw honno gan deithwyr o'r Gorllewin i ddisgrifio maint y ci hwn. Cafodd ei fridio yn Nhibet i gynorthwyo bugeiliaid, a chredir ei fod yn dod â lwc i'w berchennog.[1]

Daeargi Tibetaidd
Math o gyfrwngbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladTibet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ganddo daldra o 36 i 43 cm (14 i 17 modfedd) ac yn pwyso 8 i 14 kg (18 i 30 o bwysau). Mae ganddo llygaid brown tywyll a chaiff eu gorchuddio gan flew, traed mawr a gwastad sy'n ei gynorthwyo i gerdded ar eira, a chynffon sy'n troi'n ôl dros ei gefn. Mae ei gôt yn drwchus iawn, a gall fod yn syth neu'n donnog ac yn amryw o liwiau. Mae'n gi deallus a ffyddlon.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Tibetan terrier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2014.
  NODES