Dawn French

actores

Digrifwr, sgriptiwr ac actores Seisnig yw Dawn French (ganwyd 11 Hydref 1957). Mae'n nodedig am y gyfres French and Saunders, ar y cyd gyda'i phartner Jennifer Saunders. Bu hefyd yn chwarae rol Geraldine Granger yn y gyfres gomedi The Vicar of Dibley.[1]

Dawn French
LlaisDawn french bbc radio4 desert island discs 23 12 2012.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Man preswylFowey Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Caistor Grammar School
  • Plymouth College Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, nofelydd, llenor, actor llwyfan, actor ffilm, actor, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Magician's Elephant Edit this on Wikidata
PriodMark Bignell, Lenny Henry Edit this on Wikidata

Cafodd ei henwebu saith gwaith am wobr y British Academy Television Awards ac enillodd y BAFTA Fellowship, gyda Jennifer Saunders. Gwrthododd dderbyn OBE yn 2001.

Bywyd cynnar

golygu

Fe'i ganwyd yng Nghaergybi pan oedd ei thad yn Yr Awyrlu Brenhinol ac wedi ei leoli yn RAF y Fali. O Loegr y daeth ei rhieni, Denys Vernon French (5 Awst 1932 – 11 Medi 1977)[2] a Felicity Roma French (née O'Brien),[3] a briodwyd yn Plymouth yn 1953. Derbyniodd ei haddysg yn ysgol breifat St Dunstan's Abbey School (Plymouth College heddiw). Mae ganddi frawd, Gary (g. 1955). Yr RAF a dalodd yn rhannol am ei haddysg breifat.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dawn French: "I just had a lot of fun" Archifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback, Manchester Evening News. Retrieved 11 Mai 2007.
  2. Births, Marriages and Deaths Index – England & Wales
  3. Carpenter, Julie (24 Ebrill 2012). "Dawn French: I've lost the mum who inspired me".
  4. Dawn French bio dawnfrench.tripod.com; adalwyd 2 Mehefin 2007.
  NODES