Gaius Messius Quintus Traianus Decius (c. 2011 Gorffennaf 251) oedd ymerawdwr Rhufain o 249 hyd 251. Cymerodd yr enw "Traianus" oherwydd ei edmygedd o'r ymerawdwr Trajan.

Decius
Ganwyd201 Edit this on Wikidata
Martinci Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 251 Edit this on Wikidata
Abritus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, Praefectus urbi, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodHerennia Etruscilla Edit this on Wikidata
PlantHerennius Etruscus, Hostilian, Messia Decia Edit this on Wikidata

Ganed Decius yn Budalia gerllaw Sirmium yn Pannonia Isaf, dinas Sremska Mitrovica heddiw. Tua 245 penodwyd ef yn bennaeth y llengoedd yn ardal Afon Donaw gan yr ymerawdwr Philip yr Arab. Yn 248 neu 249 bu'n ceisio rhoi diwedd ar wrthryfel y llengoedd yn nhaleithiau Moesia a Pannonia. Fodd bynnag mynnodd y llengoedd gyhoeddi Decius yn ymerawdwr.

Wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr cychwynodd Decius a'i fyddin tua Rhufain. Gorchfygasant Philip gerllaw Verona, a lladdwyd ef yn y frwydr. Cydnabyddwyd Decius yn ymerawdwr gan y Senedd. Gwelai Decius fod yr ymerodraeth yn llwgr, a chredai mai un rheswm am hyn oedd fod yr hen werthoedd wedi eu colli. Ceisiodd ail-sefydlu yr hen arferiad o offrymu i'r hynafiaid trwy'r ymerodraeth. Daeth hyn ag ef i wrthdrawiad a'r Cristionogion, oedd yn gwrthod cymryd rhan, ac oherwydd hynny erlidiwyd hwy gan Decius. Yn 251 cyhoeddoedd ei fab Herennius Etruscus yn gyd-ymerawdwr.

Traianus Decius

Bu Decius yn ymladd yn erbyn y Gothiaid oedd wedi croesi Afon Donaw ac ymosod ar rannau o Moesia a Thracia. Roedd y Gothiaid yn gwarchae dinad Nicopolis ar lan Afon Donaw. Pan glywsant fod byddin Rhufain yn dynesu, croesasant y mynyddoedd i ymosod ar Filiopolis. Dilynodd Decius hwy, ond wedi iddo golli brwydr ger Beroë llwyddodd y Gothiaid i gipio Filiopolis.

Roedd y Gothiaid wedi colli llawer o'u milwyr wrth gipio Filiopolis, a chynigiasant adael y ddinas heb gymeryd carcharorion nac ysbail os gadawai'r Rhufeiniaid lonydd iddynt. Fodd bynnag yr oedd Decius wedi llwyddo i'w hamgylchynu, a gwrthododd y cynnig. Ym mrwydr Attrio y Gothiaid a gafodd y fuddugoliaeth, a lladdwyd yr ymerawdwr a'i fab ar faes y gad. Enwodd y Senedd yn Rhufain fab ieuengaf Decius, Hostilian, fel ymerawdwr, ond cyhoeddodd llengoedd Afon Donaw Trebonianus Gallus yn ymerawdwr.

Rhagflaenydd:
Philip yr Arab
Ymerawdwr Rhufain
249251
Olynydd:
Hostilian
  NODES
Done 1
eth 10