Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Mudiad Hawliau Sifil America

Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Mudiad Hawliau Sifil America



Roedd Mudiad Hawliau Sifil America yn frwydr ac yn ymgyrch gan bobl ddu Unol Daleithiau America a’u cefnogwyr i roi diwedd ar y gwahaniaethu a’r arwahanu hiliol, a’r difreinio a’r rhagfarnau oedd yn bodoli yn UDA. Roedd yr ymgyrch i waredu'r anghyfiawnderau hyn â’u gwreiddiau yng nghyfnod yr Ailymgorfforiad wedi Rhyfel Cartref America (1861-65). Er bod 14eg a’r 15fed Gwelliant wedi sicrhau cydraddoldeb yn ôl y gyfraith i bawb yn UDA ac wedi rhoi’r bleidlais i bobl ddu, nid roedd y newid mewn deddfwriaeth wedi newid agweddau pobl tuag at bobl ddu, ac roedd hiliaeth yn parhau i effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau.

Llwyddodd y mudiad i sicrhau deddfwriaethau pwysig yn y 1960au ar ôl blynyddoedd o weithredu uniongyrchol a phrotestiadau ar lawr gwlad. Pwysleisiai’r mudiad wrthwynebiad di-drais ac ymgyrchoedd lle defnyddiwyd anufudd-dod sifil fel rhan o’u tactegau protest. Yn y pen draw, arweiniodd yr ymgrchoedd at sicrhau cyfreithiau ffederal newydd oedd yn amddiffyn hawliau dynol pob Americanwr.

Ar ôl Rhyfel Cartref America a diddymiad caethwasiaeth yn y 1860au, roedd y newidiadau i Gyfansoddiad America yn sicrhau rhyddfreiniad a hawliau cyfansoddiadol i holl ddinasyddion Affricanaidd-Americanaidd. Ond yn raddol amddifadwyd pobl ddu o’u hawliau sifil oherwydd Deddfau Jim Crow, a dioddefodd pobl ddu erledigaeth a thrais cynyddol oddi wrth oruchafiaethwyr gwyn yn y taleithiau deheuol. Yn ystod y ganrif ddilynol ymdrechodd ac ymgyrchodd pobl ddu America i sicrhau hawliau sifil a chyfreithiol cydradd. Yn 1954, bu achos Brown v. Bwrdd Addysg Topeka yn gam pwysig o ran chwalu arwahanu oddi mewn i'r system addysg, a rhwng 1955 a 1968 bu protestiadau di-drais ac anufudd-dod sifil ar raddfa eang. Arweiniodd y rhain at ddeialog rhwng ymgyrchwyr ac awdurdodau y Llywodraeth.

Yn aml iawn roedd yn rhaid i lywodraeth ffederal, taleithiol a lleol, busnesau, cwmnïau a chymunedau ymateb yn syth i’r sefyllfaoedd hyn, a gorfodwyd hwy i wynebu’r anghyfiawnder a wynebai pobl ddu America ar draws y wlad. Bu lynsio erchyll y bachgen ifanc o Chicago, Emmet Till, yn 1955, yn gyfrwng i uno ymateb pobl ddu ar draws America. Arweiniodd hyn at brotestiadau, anufudd-dod sifil fel boicotio adeg Boicot y Bysus yn Montgomery (1955-56) yn Alabama; ‘protestiadau eistedd i mewn’ neu’r ‘sit-ins’ fel yn Greensboro (1960) yng Ngogledd Carolina a Nashville, Tennessee; gorymdeithiau enfawr fel Crwsâd y Plant yn Birmingham, Alabama yn 1963 a’r gorymdeithiau rhwng Selma a Montgomery, Alabama yn 1965 yn ogystal â nifer o enghreifftiau eraill o weithgareddau a gwrthdystiadau di-drais.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au, diddymwyd llawer o’r cyfreithiau a oedd wedi caniatáu arwahanu a gwahaniaethu hiliol gan Lys Goruchaf UDA o dan arweiniad y Barnwr Earl Warren, yn anghyfansoddiadol. Penderfynodd y Barnwr Warren ar nifer o gerrig milltir pwysig yn erbyn gwahaniaethu hiliol - er enghraifft, achos Brown v.Bwrdd Addysg Topeka (1954), Heart of Atlanta Motel, Inc v. UDA (1964) a Loving v. Virginia (1967), a wnaeth wahardd arwahanu mewn ysgolion gwladwriaeth a llety cyhoeddus, ac a waharddodd gyfreithiau taleithiol oedd yn gwahardd priodasau rhyng-hiliol.[1]

Bu’r penderfyniadau hyn yn hollbwysig o ran rhoi diwedd ar y Cyfreithiau Jim Crow oedd yn gyffredin yn y taleithiau deheuol.[2]

Yn ystod y 1960au pasiwyd sawl deddfwriaeth a fu'n drobwynt yn hanes hawliau pobl ddu America. Roedd Deddf Hawliau Sifil 1964[3] yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil, lliw croen, crefydd, rhyw neu dras mewn cyflogaeth, yn gwahardd arwahanu hiliol mewn ysgolion, y gweithle ac yn sicrhau hawliau cydradd mewn siopau a bwytai. Byddai Comisiwn Hawliau Cydradd mewn Cyflogaeth yn cael ei sefydlu hefyd er mwyn archwilio cwynion. Roedd Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 yn gwahardd hiliaeth mewn pleidleisio a Deddf Llety Teg 1968 yn anelu at roi diwedd ar hiliaeth ym maes tai.[4]

Ysgogwyd cenhedlaeth newydd o bobl ifanc du i brotestio ac ymgyrchu yn ystod y 1960au a 1970au gyda thon o derfysgoedd a phrotestiadau mewn cymunedau du yn yr ardaloedd trefol-ddinesig. Lleihaodd hyn y gefnogaeth oddi wrth y dosbarth canol gwyn i’r mudiad ond bu cynnydd yn y gefnogaeth a ddaeth oddi wrth elusennau preifat.

Rhwng 1965 a 1975 ymddangosodd y mudiad Pŵer Du ac roedd Malcolm X yn un o’i brif arweinyddion. Roedd yn fudiad a oedd yn herio agwedd a thactegau arweinyddiaeth Martin Luther King o’r Mudiad Hawliau Sifil ohewydd credent y dylid ddefnyddio trais er mwyn cael mwy o hawliau i bobl ddu. Yn eu barn nhw roedd angen i bobl ddu greu cymdeithas annibynnol a oedd yn wleidyddol ac yn economaidd hunan-gynhaliol heb ddibynnu ar gymuned y dyn gwyn. Roedd Martin Luther King yn un o brif arweinyddion y Mudiad Hawliau Sifil yn America, gan ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1964 oherwydd ei arweinyddiaeth garismataidd a’i fod yn cymell cefnogwyr y mudiad i ddefnyddio dulliau di-drais.

Cefndir

golygu
 
Y KKK yn Chicago, c.1920

Cyn Rhyfel Cartref America roedd tua 4 miliwn o bobl ddu mewn caethiwed yn y De. Dim ond dynion gwyn a fedrai bleidleisio ac roedd Deddf Dinasyddio 1790 yn cyfyngu dinasyddiaeth UDA i bobl gwyn yn unig. Yn dilyn y Rhyfel Cartref, pasiwyd tri newid i Gyfansoddiad America oedd yn rhoi diwedd ar gaethwasiaeth. Yn ystod cyfnod yr ailgorfforiad rhwng 1863 hyd 1877 bu ymdrech yn y De i sicrhau cyflogaeth rhydd a hawliau sifil ar ôl diwedd caethwasiaeth. Ond bu gwrthwynebiad oddi wrth wahanol garfannau a grwpiau yn y gymuned oherwydd y newidiadau cymdeithasol ac economaidd fyddai’n digwydd oherwydd hynny. Arweiniodd hyn at dwf grwpiau parafilwrol a rhai oedd yn hyrwyddo syniadau goruchafiaeth gwyn, fel y Ku Klux Klan.

Roedd y Ku Klux Klan (KKK) yn fudiad hiliol a therfysgol oedd yn erlid, llofruddio a lynsio pobl ddu. Protestaniaid Eingl-Sacsonaidd Gwyn (White Anglo-Saxon Protestants – WASPs) oedd aelodau’r KKK yn bennaf, gyda llawer ohonynt yn bobl wyn dlawd a oedd wedi eu cythruddo gan yr hawliau rhyddid newydd oedd yn cael eu rhoi i bobl ddu. Roedd dylanwad a phresenoldeb y mudiad yn bwerus yn nhaleithiau’r De ac roeddent hefyd yn hiliol eu hagweddau tuag at fewnfudwyr a oedd yn Iddewon, Catholigion, Sosialwyr neu Gomiwnyddion.[5]

Roedd pobl ddu yn byw mewn ofn parhaus o’r KKK yn enwedig pan oedd y mudiad ar ei anterth o ran aelodau a throseddau ar ddechrau’r 20fed ganrif. Sefydlwyd y mudiad yn gyntaf yn fuan wedi Rhyfel Cartref America a gwisgent wisg wen fel lifrai. Treisiwyd, lladdwyd a llofruddiwyd nifer o bobl ddu yn ystod y cyfnod hwn, gydag ymosodiadau, thaflu tar a phlu, crogi a lynsio (a arweiniwyd yn aml gan ddynion y Klan), yn ddigwyddiadau cyffredin yn nhaleithiau’r De. Ni chosbwyd aelodau’r Klan oedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn oherwydd yn aml iawn roeddent yn aelodau parchus a blaenllaw o'r gymdeithas, fel barnwyr, llywodraethwyr taleithiol ac aelodau o’r heddlu.[6]

Deddfau Jim Crow

golygu
 
Arwydd ystafell aros "lliw" mewn gorsaf fysiau yn Durham, Gogledd Carolina, Mai 1940

Yn nhaleithiau’r De pasiwyd Cyfreithiau Jim Crow a oedd yn cadw pobl ddu a phobl wyn ar wahân. Golygai hyn bod pobl ddu a phobl wyn yn byw bywyd ar wahân yn y gymdeithas, a gwaharddwyd pobl ddu rhag defnyddio’r un cyfleusterau a gwasanaethau â phobl wyn.

Roedd enghreifftiau o hyn yn cynnwys caffis a bwytai, ysbytai, ac ni allai pobl ddu eistedd yn y seddi a neilltuwyd ar gyfer pobl wyn ar drenau a bysus. Roedd pobl wyn a phobl ddu yn mynychu eglwysi gwahanol, ac oherwydd y safon addysg wael a dderbyniai pobl ddu roedd eu cyfleoedd i gael swyddi da yn isel iawn a’r mwyafrif llethol ohonynt yn anllythrennog.[7][8]

Ymdrechion i ymgyrchu

golygu

Er hynny, erbyn dechrau’r 20fed ganrif, daeth unigolion i brotestio ac ymgyrchu dros hawliau cydradd i bobl ddu. Yn eu plith, roedd Booker T. Washington, a oedd ei hun yn gyn-gaethwas, ac a oedd yn annog pobl ddu i gymhwyso eu hunain fel bod ganddynt well cyfleoedd i gael swyddi da. Sefydlodd goleg yn Alabama at y pwrpas hwn.[9][10]

Yn 1909 sefydlwyd yr NAACP (National Association for the Advancement of Coloured People). Ymhlith y rhai a helpodd i sefydlu’r mudiad roedd W.E.B. Dubois, a oedd wedi derbyn ei addysg ym Mhrifysgol Harvard. Prif fwriad yr NAACP oedd sicrhau triniaeth gyfartal i bobl ddu drwy gael addysg gyfartal i bobl dduon, hawliau pleidleisio a chael gwared ar arwahanu.[11][12]

Mudiad arall a oedd yn weithgar dros sicrhau gwelliannau i hawliau pobl ddu, ond a oedd yn gwrthwynebu tactegau gweithredu’r NAACP, oedd yr Universal Negro Improvement Association a sefydlwyd gan Marcus Garvey. Roedd Garvey yn anghytuno â’r NAACP ynghylch ceisio cymodi gyda phobl wyn a cheisio integreiddio gyda nhw. Credai ef bod angen i bobl ddu geisio gwella eu hunain drwy gadw ar wahân i'r dyn gwyn a sefydlu eu cenedl ddu eu hunain a oedd yn annibynnol. Dyma syniad a fabwysiadwyd yn ddiweddarach yn y 1960au gan Malcolm X a’r Mudiad Pŵer Du.[13][14]

Effeithiau’r Dirwasgiad a’r Ail Ryfel Byd

golygu

Dioddefodd pobl ddu yn ofnadwy yn ystod y Dirwasgiad Mawr yn America. Derbyniodd rhai gymorth drwy Fargen Newydd Roosevelt ond diswyddwyd llawer ac roedd y diweithdra a’r tlodi’n waeth yn nhaleithiau’r De lle'r oedd y mwyafrif o bobl ddu yn byw.

Bu’r Ail Ryfel Byd yn drobwynt pwysig yn ymwybyddiaeth pobl ddu o’u hawliau yng nghymdeithas UDA. Roedd arwahanu yn cael ei weithredu hyd yn oed yn lluoedd arfog UDA, gydag unedau ar wahân o’r enw Byddin Jim Crow yn cael eu sefydlu a swyddogion gwyn yn eu rheoli. Yn aml iawn, swyddi isel eu statws a’u tâl oedd gan bobl ddu yn y lluoedd arfog - swyddi fel glanhawyr a chogyddion, a phrin iawn oedd yr enghreifftiau o bobl ddu yn cael swyddi rheng uchel neu fel peilotiaid yn y Llu Awyr. Ysbrydolwyd yr ymgyrch dros hawliau cydradd wrth i filwyr croenddu sylweddoli eu bod yn ymladd yr Almaen Natsïaidd ond eto’n wynebu anghyfiawnderau yn eu gwlad eu hunain. Anfonwyd tua 1.5 miliwn o filwyr UDA draw i ganolfannau milwrol ym Mhrydain adeg yr Ail Ryfel Byd, a gan nad oedd arwahanu ym Mhrydain gallai milwyr croenddu fynd i’r un tafarndai a phrofi'r un hawliau â phobl wyn. Bu hyn yn hwb i’r ymgyrch dros hawliau cydradd yn ôl yn UDA, ac yn 1948, pan oedd yr Arlywydd Truman yn y Tŷ Gwyn, pasiwyd deddf a ddaeth ag arwahanu i ben. Ar ôl diwedd y rhyfel, a map y byd wedi newid gydag ymerodraethau yn cael eu chwalu a gwledydd yn Affrica yn ennill annibyniaeth, daeth hawliau pobl ddu yn America a De Affrica yn destun ffocws i weddill y byd.

 
Mamie Till yn angladd Emmett, 1955

Llofruddiaeth Emmet Till, 1955

golygu

Bu llofruddiaeth y bachgen du 14 mlwydd oed o Chicago yn drobwynt yn hanes ymgyrch pobl ddu i gael hawliau cydradd yn UDA. Roedd Emmett Till yn ymweld â pherthnasau yn Money, Mississippi yn ystod haf 1955 pan ddaeth i gysylltiad â menyw wen, Carolyn Bryant, mewn siop fwyd fach. Honnwyd bod ymddygiad wedi digwydd a oedd wedi tresbasu ar arferion ymddygiad diwylliannol Mississippi a llofruddiwyd Emmett Till gan Roy Bryant, gŵr y fenyw a’i hanner-brawd, J.W Milam. Poenydiwyd ac anrheithiwyd Emmett Till, cyn ei saethu yn ei ben a boddi ei gorff yn Afon Tallahatchie. Dri diwrnod yn ddiweddarach darganfuwyd ei gorff yn yr afon. Wedi i’w fam, Mamie Till, orfod adnabod corff ei mhab, penderfynodd ei bod am i bobl eraill weld beth roedd hi wedi ei weld, a dangoswyd corff Emmett Till mewn arch agored. Roedd yr anafiadau ofnadwy a ddioddefodd yn brawf o’r trais hiliol dychrynllyd oedd yn cael ei anelu at bobl ddu America, a bu ei lofruddiaeth yn drobwynt tyngedfennol yn hanes yr ymgyrchu dros hawliau sifil. Dywedodd Rosa Parks wrth fam Emmett Till mai’r ddelwedd o weddillion truenus ei mab oedd y rheswm pam y penderfynodd hi wrthod ildio ei sedd ar y bws yn Montgomery, Alabama.

Penderfynodd teulu Emmett Till eu bod am roi y gasgen wreiddiol y claddwyd ef ynddi i Amgueddfa Genedlaethol Diwylliant a Hanes Affricanaidd Americanaidd y Smithsonian, lle mae bellach yn cael ei harddangos. Yn 2007, cyfaddefodd Bryant ei fod wedi dweud celwydd yn 1955 am ei ran ef o’r stori.

1950au a 1960au

golygu

Addysg

golygu

Gwelodd y ddau ddegawd ar ôl yr Ail Ryfel Byd gynnydd ym mhrotestiadau'r Mudiad Hawliau Sifil. Dechreuwyd drefnu protestiadau ar lefel leol a chenedlaethol, ac ymhlith y meysydd lle bu ymgyrchu am gydraddoldeb roedd addysg a thrafnidiaeth. Yn ystod y 1950au bu dau achos pwysig a fu’n drobwyntiau allweddol yn hanes y Mudiad Hawliau Sifil. Ym mis Mai 1954 cyhoeddodd Uchel Lys UDA ddyfarniad hanesyddol a oedd yn gwahardd arwahanu mewn ysgolion ar draws UDA ar y sail ei fod yn anghyfansoddiadol. Fe wnaeth llawer o’r taleithiau ufuddhau ond gwrthododd taleithiau’r de weithredu’r ddeddf. Parhaodd arwahanu mewn addysg yn llawer o daleithiau’r De tan y 1960au. Daeth y dyfarniad wedi brwydr gan Oliver Brown a’i deulu yn erbyn Bwrdd Addysg Topeka, Kansas. Dechreuodd yr achos pan wrthododd yr ysgol leol a oedd agosaf at gartref teuluol Oliver Brown gofrestru ei ferch, Linda Brown. Oherwydd hynny gorfodwyd Linda Brown i fynd ar daith bws i’r ysgol gynradd ar gyfer plant du yn unig, a oedd yn bellach i ffwrdd. Cyflwynodd Oliver Brown gŵyn yn erbyn y trefniant ac aeth y mater ymlaen i’r llys ffederal. Cefnogwyd brwydr y teulu gan y NAACP, a’u cyfreithwyr nhw oedd yn paratoi achos y teulu yn erbyn y Llywodraeth. Yn ei ddyfarniad ym Mai 1954, cyhoeddodd Goruchaf Lys UDA, a oedd o dan arolygiaeth y Barnwr Earl Warren, bod arwahanu mewn ysgolion gwladol yn anghyfansoddiadol.

 
Rhieni gwyn yn protestio yn erbyn integreiddio ysgolion Little Rock.

Golygai hyn y byddai’r ddeddf hon yn cael ei gweithredu ar draws y system addysg yn UDA, ond bu gwrthwynebiad chwyrn i’w chyflwyniad. Un o’r enghreifftiau lle bu gwrthsafiad ac ymateb ffyrnig i’w gweithredu yn y sector addysg uwch oedd achos Little Rock Nine. Ar 4 Medi 1957 anfonodd Llywodraethwr Talaith Arkansas, sef Orval Faubus, am y Gwarchodlu Lleol i atal 9 disgybl du rhag mynd i Ysgol Uwchradd Little Rock, Arkansas. Enwau’r naw disgybl oedd Ernest Green, Elizabeth Eckford, Jefferson Thomas, Terence Roberts, Carlotta Walls LaNier, Minnijean Brown, Gloria Ray Karlmark, Thelma Mothershed a Melba Pattillo Beals.[15] Roedd y naw disgybl wedi cael eu dewis i fynychu’r ysgol, yn ôl cyfarwyddyd a chyngor Daisy Bates, oherwydd eu graddau rhagorol mewn arholiadau. Wedi dyfarniad llwyddiannus Brown v. Bwrdd Addysg Topeka penderfynodd yr NAACP yn 1957 gofrestru'r naw disgybl iddynt allu mynychu ysgol wen Little Rock Arkansas.

Ar ddiwrnod cyntaf y tymor, Elisabeth Eckford, a oedd yn 15 oed ar y pryd, oedd yr unig un o’r naw myfyriwr a fynychodd yr ysgol, gan nad oedd wedi derbyn galwad ffôn a oedd yn ei rhybuddio am y peryglon o fynd i’r ysgol. Cafodd ei herlid gan brotestwyr gwyn y tu allan i'r ysgol a bu’n rhaid mynd â hi oddi yno mewn car patrol yr heddlu rhag ofn iddi gael niwed.

Dyfarnodd yr Uchel Lys bod hawl gan y disgyblion du i fynd i’r ysgol, ac anfonodd yr Arlywydd Dwight D.Eisenhower filwyr personol i’w hebrwng i’r ysgol mewn jîps a’u gwarchod am flwyddyn wrth iddynt fynd i’r ysgol. Wynebodd y myfyrwyr amodau llym yn ystod y flwyddyn a gorfod mynd heibio pobl wyn a oedd yn poeri ac yn heclo wrth iddynt gyrraedd yr ysgol ar eu diwrnod cyntaf. Taflwyd asid i lygaid un o’r disgyblion, sef Melba Pattillo, a chafodd Minnijean Brown ei gwahardd am gyfnod oherwyd arllwysodd bowlen o tsili ar ben myfyriwr gwyn a oedd yn ei phoenydio yn y ciw cinio yn yr ysgol. Dioddefodd y naw erledigaeth a phoenydio gan fyfyrwyr eraill am weddill y flwyddyn.[16]

Ym Medi 1962, enillodd James Meredith achos llys oedd yn rhoi’r hawl iddo gael ei dderbyn fel myfyriwr i Brifysgol Mississippi, sef prifysgol a oedd yn flaenorol wedi gweithredu arwahanu. Wynebodd yntau hefyd wrthwynebiad cyhoeddus oddi wrth bobl fel Llywodraethwr y dalaith, sef y Llywodraethwr Ross Barnett, a bu’n rhaid iddo gael gwarchodwyr wrth iddo geisio mynychu campws y Brifysgol ar 20 Medi, 15 Medi a 26 Medi. Penderfynodd y Llysoedd bod Barnett a’r Is-Lywodraethwr, Paul B. Johnson, wrth weithredu felly, yn dirmygu’r gyfraith, a gorchmynwyd heddweision i'w harestio a’u dirwyo mwy na $10,000 am bob diwrnod roeddent yn gwrthod caniatáu i Meredith gofrestru. Ar 30 Medi, ac ar orchymyn y Twrnai Gwladol, Robert F. Kennedy, cafodd Meredith ei hebrwng i mewn i gampws Prifysgol Mississippi gyda chymorth marsialau UDA a swyddogion o blith yr awdurdodau. Dechreuodd myfyrwyr a phobl wyn eraill derfysgu’r noson honno, gan daflu cerrig a saethu at y lluoedd ffederal oedd yn gwarchod Meredith yn Neuadd Lyceum. Lladdwyd dau sifilian gan y terfysgwyr, gan gynnwys newyddiadurwr Ffrengig; cafodd 28 asiant ffederal anafiadau gwn ac anafwyd 160 arall. Bu’n rhaid i’r Arlywydd, John F. Kennedy, anfon byddin UDA a lluoedd Giard Cenedlaethol Mississippi i’r campws i ddistewi’r terfysg. Cychwynnodd James Meredith ei wersi y diwrnod ar ôl i’r milwyr gyrraedd. [17]

 
Mob gwyn yn curo teithwyr rhyddid yn Birmingham.

Trafnidiaeth

golygu

Ym maes trafnidiaeth bu Boicot Bysus Montgomery, Alabama, yn foment o bwys yn hanes y mudiad. Ym mis Rhagfyr 1955 gwrthododd Rosa Parks, a oedd yn Ysgrifenyddes Cangen NAACP Montgomery, ildio ei sedd ym mlaen y bws ar gyfer bobl wyn oedd yn dod ar y bws. Galwyd yr heddlu ac fe gafodd ei harestio a’i charcharu. Daeth Rosa Parks a’i gwrthsafiad yn symbol o foicot y bysus yn Montgomery a ddenodd sylw cenedlaethol, a gwelwyd hi wedyn fel ‘mam y mudiad hawliau sifil’. Cafodd y newyddion ei bod wedi ei harestio sylw mawr, gan ennill cefnogaeth y NAACP, a hithau hefyd yn Ysgrifennyddes y gangen leol. Galwodd y NAACP ar bobl ddu a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth bws i gynnal boicot o’r bysus, ac un o’r rhai a drefnodd y boicot oedd Martin Luther King. Dosbarthwyd 52,500 o bamffledi yn galw am foicot. Cynhaliwyd y boicot am 381 diwrnod gyda 90% o bobl du Montgomery yn cymryd rhan yn y boicot. Lleihawyd incwm y cwmnïau bysus yn sylweddol gan mai pobl ddu oedd yn defnyddio eu gwasanaethau fwyaf. Erbyn Tachwedd 1956 pasiodd yr Uchel Lys bod arwahanu ar drafnidiaeth yn anghyfriethlon, gan roi diwedd ar y boicot.

Yn ystod cyfnod y boicot penderfynodd yr arweinyddion lleol sefydlu yr MIA (Montgomery Improvement Association), ac etholwyd Martin Luther King (MLK) yn Llywydd y mudiad. Denodd ei benodiad sylw cenedlaethol i’r brotest ac i’r ddinas oherwydd drwy ei ddawn fel areithiwr huawdl llwyddodd i ennill cefnogwyr yn y taleithiau deheuol a thu hwnt. Er hynny roedd arwahanu yn dal i gael ei weithredu ar drafnidiaeth pan oedd pobl yn cael eu cludo o un dalaith i’r llall.[18]

 
Rosa Parks ar ôl cael ei harestio am beidio ag ildio ei sedd ar fws i unigolyn gwyn

Dyma pam y dechreuwyd trefnu y Teithiau Rhyddid (Freedom Rides) yn 1961 gan CORE (Congress on Racial Equality). Teithiai pobl ddu ar y bws o un dalaith i’r llall heb ddod oddi ar y bws er mwyn tynnu sylw at anhegwch yr arwahanu ar wasanaeth cyhoeddus fel trafnidiaeth. Rhain oedd y teithwyr rhyddid (Freedom Riders). Ni chaniatawyd ychwaith i bobl ddu ddefnyddio cyfleusterau yn y gorsafoedd, er eu bod yn cael teithio ar y bysus. Roedd arwahanu yn parhau yn ystafelloedd aros yr orsaf, wrth y ffynhonnau dŵr, yn y tai bach ac yn y caffis. Rhoddwyd diwedd ar arwahanu mewn trafnidiaeth, bysus, meysydd awyr a rheilffyrdd gan Dwrnai Cyffredinol UDA ar y pryd, sef Robert Kennedy.[19]

Cofrestru i bleidleisio

golygu

Ar ôl y Teithiau Rhyddid, holwyd yr SNCC (Student Nonviolent Coordinating Committee) gan arweinyddion lleol y gymuned ddu yn Mississippi - yn eu plith, Amzie Moore, Aaron Henry a Medgar Evers - am eu help i gofrestru pleidleiswyr du a helpu i sefydlu mudiadau cymunedol a fyddai’n medru ennill pŵer gwleidyddol yn y dalaith. Roedd cyfansoddiad Mississippi ers 1890 yn golygu bod telerau arbennig wrth gofrestru, megis treth y pen, gofynion preswylio a phrofion llythrennedd. Golygai hyn bod rhwystrau niferus yn cymhlethu'r broses bleidleisio ac yn atal pobl ddu rhag pleidleisio, gan fod llawer heb dderbyn safon addysg digonol ac yn anllythrennog. Roedd trais adeg etholiadau wedi llesteirio pleidleisio ymysg pobl ddu hefyd.

Yn 1961 lansiwyd y prosiect cofrestru cyntaf yn McComb a’r siroedd cyfagos yn ne-orllewin talaith Mississippi. Bu gwrthwynebiad treisgar yn y dalaith ac oddi wrth gwŷr y gyfraith, y Cyngor Dinasyddion Gwyn a’r Ku Klux Klan. Cafodd ymgyrchwyr hawliau sifil eu dyrnu, arestiwyd cannoedd o bobl leol a chafodd yr ymgyrchwr pleidleisio Herbert Lee ei lofruddio.[20]

Roedd y gwrthwynebiad o gyfeiriad y gymuned wyn ynghylch cofrestru pobl ddu mor ddwys yn Mississippi fel bod ymgyrchwyr y mudiad rhyddid wedi penderfynu bod yn rhaid i holl fudiadau hawliau sifil y dalaith ddod at ei gilydd er mwyn cydlynu gweithgareddau i sicrhau unrhyw fesur o lwyddiant. Yn Chwefror 1962, ffurfiodd cynrychiolwyr SNCC, CORE a’r NAACP fudiad newydd o’r enw COFO (Council of Federated Organizations). Ym mis Awst 1962, ymunodd SCLC â COFO.

Yng ngwanwyn 1962 dechreuodd SNCC / COFO ymgyrchoedd cofrestru tebyg mewn ardaloedd eraill ym Mississippi - er enghraifft, Greenwood, Hattiesburg, Laurel a Holly Springs. Fel yn achos McComb, bu gwrthwynebiad ffyrnig – arestiadau, poenydio ac ymosodiadau, saethu, arswn a llofruddiaeth. Defnyddiwyd tactegau i beri rhwystredigaeth, fel cofrestryddion y prawf yn defnyddio llythrennedd fel esgus i gadw pobl ddu oddi ar y cofrestrau etholiadol, y cyflogwyr yn diswyddo pobl ddu oedd yn ceisio cofrestru a landlordiaid yn troi pobl allan o’u tai rhent.[21]

Cynhaliwyd ymgyrchoedd cofrestru tebyg, wedi eu harwain a’u cydlynu gan SNCC, CORE a SCLC yn Louisiana, Alabama, de-orllewin Georgia a De Carolina. Erbyn 1963 roedd yr ymgyrchoedd cofrestru pleidleisiau yn y De yn gymaint o ran annatod o’r Mudiad Rhyddid ag oedd yr ymdrechion i gael gwared ar arwahanu. O ganlyniad, pasiwyd Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 oedd yn amddiffyn hawl cyfansoddiadol pob dinesydd i gofrestru.[22]

‘Sit-ins’, 1958-1960

golygu
 
Myfyrwyr yn cynnal 'sit-in' yn Woolworth, Gogledd Carolina ar 10 Chwefror, 1960

Yng Ngorffennaf 1958, penderfynodd Cyngor Ieuenctid NAACP noddi ‘sit-ins’ wrth gownter bwyd yn Siop Dockum yn Wichita, Kansas. Ar ôl tair wythnos, llwyddodd y mudiad i newid polisi trefniant eistedd ar wahân y siop ac yn fuan ar ôl hynny cafodd pob siop yn Dockum yn Kansas eu dadwahanu. Yn yr un flwyddyn trefnwyd ‘sit-in’ llwyddiannus gan fyfyrwyr yn Siop Katz yn Ninas Oklahoma a arweiniwyd gan Clara Luper.[23]

Yn siop Woolworth, yn Greensboro, Gogledd Carolina, arweiniwyd ‘sit-in’ wrth y cownter bwyd gan fyfyrywr y colegau lleol (myfyrwyr du gan fwyaf) yn Chwefror 1960. Ar 1 Chwefror 1960,[24] eisteddodd pedwar myfyriwr o Goleg Amaethyddol a Thechnegol Gogledd Carolina (coleg ar gyfer myfyrwyr du yn unig) wrth gownter bwyd oedd wedi ei neilltuo ar gyfer pobl wyn yn unig. Roeddent yn protestio yn erbyn polisi Woolworth a oedd yn gwahardd pobl du rhag cael gwasanaeth wrth y cownteri yn y siop. Enw’r pedwar myfyriwr oedd Ezell A.Blair Jr., David Richmond, Joseph McNeil a Franklin McCain. Prynodd y pedwar fân nwyddau yn rhannau eraill o’r siop a chadw eu derbynebau cyn eistedd i lawr wrth y cownter a gofyn am wasanaeth. Gwrthodwyd eu cais, a dangosodd y pedwar eu derbynebau a gofyn pam roedd eu harian yn ddigon da i brynu nwyddau eraill yn y siop, ond nid wrth y cownter bwyd.[25]

Cynghorwyd y protestwyr i eistedd yn dawel ac i eistedd ar bob yn ail sedd fel bod cefnogwyr gwyn yn medru ymuno â’u protest. Yn fuan ar ôl ‘sit-in’ Greensboro, bu rhai eraill yn Richmond, Virginia; Nashville, Tennesee ac yn Atlanta, Georgia.[26]

Nid oedd tacteg y ‘sit-in’ yn rhywbeth newydd gan ei bod wedi cael ei defnyddio yn 1939 gan y bargyfreithiwr Affricanaidd-Americanaidd Samuel Wilbert Tucker, pan drefnodd ‘sit-in’ yn llyfrgell Alexandria, Virginia, a oedd yn gweithredu system arwahanu llym iawn.[27] Pan ddefnyddiwyd y strategaeth yn 1960 llwyddodd i ddenu sylw cenedlaethol i’r ymgyrch hawliau sifil. Ar 15 Mawrth 1960 cychwynnwyd cyfres o ‘sit-ins’ gan COAHR (Committee on Appeal for Human Rights), sef grŵp a sefydlwyd gan Fudiad Myfyrwyr Atlanta ar 9 Mawrth 1960. Erbyn diwedd 1960, roedd ymgyrch y ‘sit-ins’ wedi lledaenu i bob talaith deheuol a thalaith ar yr arfordir, a hyd yn oed i gyfleusterau yn Nevada, Illinois ac Ohio a oedd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ddu.

Roedd yr ymgyrchwyr yn canolbwyntio nid yn unig ar gownteri bwyd ond hefyd ar gyfleusterau a gwasanaethau fel parciau, traethau, llyfrgelloedd, theatrau, amgueddfeydd a chyfleusterau cyhoeddus eraill.

Gorymdeithiau

golygu

Ymgyrch Birmingham, 1963

golygu

Trefnwyd Ymgyrch Birmingham ar ddechrau 1963 gan yr SCLC er mwyn tynnu sylw at yr arwahanu oedd yn treiddio drwy bob agwedd ar fywyd dinas Brimingham, Alabama. Arweiniwyd yr ymgyrch ddi-drais gan Martin Luther King Jr., James Bevel, Fred Shuttleworth ac eraill, a bu sawl gwrthdrawiad treisgar rhwng myfyrwyr du a’r awdurdodau gwyn dinesig. Yn y diwedd, llwyddwyd i newid cyfreithiau gwahaniaethol y ddinas.

Ar ddechrau’r 1960au Birmingham yn Alabama oedd un o’r dinasoedd lle'r oedd arwahanu hiliol ar ei waethaf. Wynebai pobl ddu anfanteision cyfreithiol ac economaidd a dioddefent ddial treisgar pan oeddent yn ceisio tynnu sylw at y problemau hynny.

Dechreuodd y protestiadau gyda boicot er mwyn rhoi pwysau ar arweinyddion busnes i roi cyfleoedd cyfartal i bobl o bob hil mewn cyflogaeth ac i roi diwedd ar arwahanu mewn gwasanaethau cyhoeddus, bwytai, ysgolion a siopau. Gwrthsafwyd y boicot gan y busnesau a’r arweinyddion lleol ac felly trowyd at SCLC am gymorth. Trefnodd SCLC gyfres o ‘sit-ins’ a gorymdeithiau gyda’r bwriad o bryfocio arestiadau ar raddfa fawr.

 
Bomiwyd Gwesty Gaston, cartref brawd Martin Luther King, gan rannau o gymuned y bobl wyn ar 11 Mai 1963 mewn ymateb i ymgyrch y gymuned ddu

Ond aeth yr ymgyrch yn brin o wirfoddolwyr o blith yr oedolion a phenderfynodd James Bevel recriwtio myfyrwyr i fod yn rhan o brif ymgyrch Birmingham. Hyfforddwyd a chyfarwyddwyd disgyblion oedran ysgol uwchradd a chynradd a myfyrwyr coleg ganddo mewn dulliau di-drais o brotestio. Gofynnwyd iddynt gymryd rhan mewn ymgyrch drwy gerdded yn heddychlon, tua 50 ar yr un pryd, o Gapel y Bedyddwyr ar yr 16eg Stryd draw i Neuadd y Ddinas er mwyn siarad â’r maer ynghylch arwahanu. Felly ar 2 Mai 1963 ymunodd dros 1,000 o fyfyrwyr yn yr ymgyrch, ac o ganlyniad galwyd hi'm ‘Grwsâd y Plant’. Arweiniodd hyn at tua 1,000 yn cael eu harestio, ac wrth i’r carchardai lleol lenwi gyda myfyrwyr oedd wedi eu harestio, defnyddiodd Adran Heddlu Birmingham, dan arweiniad Eugene “Bull” Connor, bibellau dŵr cryf a chŵn ymosod yr heddlu ar blant a gwylwyr yr ymgyrch.[28]

Rhoddwyd pwysau ar Lywodraeth Kennedy i ymateb ac ymyrryd yn y sefyllfa rhwng cymuned y bobl wyn a’r SCLC. Ar 10 Mai daeth y ddwy ochr i gytundeb bod y cownteri bwyd a chyfleusterau llety cyhoeddus yng nghanol y ddinas (downtown) yn cael eu dadwahanu, byddai pwyllgor yn cael ei sefydlu i gael gwared ar arferion hurio gwaith gwahaniaethol, byddai trefniadau bod protestwyr a arestiwyd yn cael eu rhyddhau a ffyrdd cyfathrebu cyson yn cael eu sefydlu rhwng arweinyddion y gymuned ddu ac arweinyddion cymuned y bobl wyn.[29]

Nid oedd pawb yn y gymuned ddu yn cytuno â’r cytundeb ac ymatebodd rhannau o gymuned y bobl wyn yn ffyrnig. Bomiwyd Gwesty Gaston, a oedd yn bencadlys answyddogol SCLC a chartref brawd Martin Luther King, sef y Parchedig A.D. King. Mewn ymateb i hyn, trodd miloedd o bobl du at derfysgu, llosgwyd nifer o adeiladau a thrywanwyd ac anafwyd swyddog heddlu.

Gorymdaith Washington, 1963 ‘Gorymdaith dros Swyddi a Rhyddid’

golygu
 
Gorymdaith Washington, 1963

Cynhaliwyd yr orymdaith hon ym mis Awst 1963. Roedd yr orymdaith yn cynnwys cynrychiolaeth o’r holl brif fudiadau hawliau sifil ac roedd ganddi chwe amcan swyddogol:

  • cyfreithiau hawliau sifil ystyrlon ac arwyddocaol
  • Rhaglen waith ffederal ar raddfa fawr
  • Cyflogaeth lawn a theg
  • Llety teg a digonol
  • Hawl i bleidleisio
  • System addysg wedi ei integreiddio

Prif ffocws yr amcanion hyn oedd sicrhau bod yr addewidion a roddwyd i’r ymgyrchoedd gan Kennedy ar ôl Birmingham yn cael eu gwireddu a’u pasio.

Rhoddodd y cyfryngau cenedlaethol, fel y teledu a'r radio, sylw i’r orymdaith fel bod dylanwad yr orymdaith yn cael ei gweld a’i chlywed gan gynulleidfa mor eang â phosibl.[30]

Roedd dros bum cant o ddynion camera, technegwyr a newyddiadurwyr o’r prif rwydweithiau teledu yn darlledu’r orymdaith. Bu’r orymdaith yn llwyddiant, gyda rhwng 200,000 a 300,000 o brotestwyr wedi ymgynnull o flaen Cofeb Lincoln, lle traddododd Martin Luther King ei araith enwog ‘Mae Gen i Freuddwyd’.

Ar ôl yr orymdaith cyfarfu MLK ac arweinyddion hawliau sifil eraill â'r Arlywydd JFK yn y Tŷ Gwyn. Er ei bod yn ymddangos bod Kennedy a’i Lywodraeth yn awyddus ac yn ddidwyll yn eu dymuniad i basio’r mesur, doedd dim digon o bleidleisiau yn y Gyngres i’w basio. Serch hynny, pan lofruddiwyd JFK ar 22 Tachwedd 1963, penderfynodd yr Arlywydd Lyndon Johnson y byddai’n defnyddio ei ddylanwad yn y Gyngres i helpu i basio llawer o’r deddfwriaethau oedd ar agenda Kennedy cyn iddo farw.[31]

Gorymdaith Selma, 1965

golygu
 
Heddlu'n ymosod ar orymdeithwyr di-drais ar ddiwrnod cyntaf gorymdeithiau Selma i Montgomery.

Roedd gorymdeithiau Selma i Montgomery yn gyfres o dair gorymdaith brotest a gynhaliwyd yn 1965, ac yn 54 milltir ar hyd y briffordd rhwng Selma, Alabama a phrifddinas talaith Alabama, sef Montgomery. Trefnwyd y gorymdeithiau gan ymgyrchwyr di-drais y Mudiad Hawliau Sifil er mwyn dangos dymuniad pobl ddu i gael yr hawl i bleidleisio. Roeddent yn rhan o ymgyrch fwy eang i dynnu sylw at hawliau pleidleisio pobl ddu yn Selma ac ar draws taleithiau deheuol UDA. Drwy amlygu anghyfiawnder hiliol, bu’r gorymdeithiau yn gyfraniad pwysig o ran sicrhau bod Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 yn cael ei phasio.

Ar 7 Mawrth 1965, arweiniodd Hosea Williams a John Lewis o fudiad SCLC orymdaith o tua 600 o bobl i gychwyn y daith 54 milltir o Selma i Montgomery. Ar hyd y daith, ymosodwyd arnynt gan filwyr taleithiol a lluoedd yr awdurdodau lleol, rhai ar gefn ceffyl, gyda phastynau, nwy dagrau, tiwbiau rwber wedi eu lapio mewn weiren bigog a chwipiau (bullwhips). Gyrrwyd y protestwyr yn ôl i Selma. Cafodd Lewis ei daro nes ei fod yn anymwybodol a chafodd ei lusgo i’r naill ochr er mwyn achub ei fywyd. Cafodd o leiaf 16 o’r protestwyr ofal yn yr ysbyty, ac ymhlith y rhai a anafwyd roedd Amelia Boynton Robinson, a oedd yn un o unigolion pwysicaf gweithgareddau'r mudiad hawliau sifil yn y cyfnod.

Cafodd yr ymosodiadau ar y protestwyr gan yr awdurdodau eu darlledu’n genedlaethol. Ennynodd hyn ymateb chwyrn i dreisgarwch dieflig yr awdurdodau a’r heddlu, ac o ganlyniad denwyd cannoedd o bobl ar draws UDA i ymuno yn yr ail orymdaith.

Lladdwyd rhai o’r ymgyrchwyr y noson honno (7 Mawrth) gan rai pobl wyn - yn eu mysg, James Reeb, a fu farw o’i anafiadau mewn ysbyty yn Birmingham ar 11 Mawrth.[32] Ar yr un noson, saethwyd a lladdwyd Viola Liuzzo, a oedd yn byw yn Detroit, gan bedwar aelod o’r Klu Klux Klan, wrth iddi yrru rhai oedd wedi bod ar yr orymdaith yn ôl i Selma.[33]

Unigolion y Mudiad Hawliau Sifil

golygu

Martin Luther King

golygu

Unigolyn allweddol yn y Mudiad Hawliau Sifil o’r 1950au hyd at ei lofruddiaeth yn 1968 oedd Martin Luther King Jr., a oedd yn weinidog gyda’r Bedyddwyr. Credai mai’r ffordd fwyaf effeithiol o weithredu oedd drwy ddulliau heddychlon, gan ei fod credu’n gryf yn syniadau Mahatma Gandhi o India. Yn ystod ei arweinyddiaeth o’r Mudiad Hawliau Sifil trefnwyd nifer o brotestiadau fel ‘sit-ins’ mewn caffis a thai bwyta, ‘stand-ins’ mewn theatrau, ‘wade-ins’ mewn pyllau nofio a gorymdeithiau mawr yn Selma a Birmingham, Alabama yn 1963.[34][35]

Malcolm X

golygu
 
Malcolm X a Martin Luther King ar 26 Mawrth 1964
Prif: Malcolm X

Ym mis Mawrth 1964 penderfynodd Malcolm X, er mai ef oedd cynrychiolydd cenedlaethol Cenedl Islam, dorri'n rhydd o'r mudiad hwnnw. Roedd syniadau Malcolm X yn deillio o'i brofiadau personol ei hun, gyda’i dad yn cael ei lofruddio gan eithafwyr gwyn.[36] Cafodd gyfnod anodd a helbulus wedyn, gan dreulio cyfnod yn y carchar, lle ymunodd â’r Mwslemiaid Du, ymaelodi â mudiad Cenedl Islam a newid ei enw i Malcolm X. Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, daeth yn un o brif arweinyddion y bobl ddu gan fod ei neges yn apelio at bobl ddu oedd yn byw yn ninasoedd y Gogledd, lle'r roedd bywyd y geto yn anodd ac yn galed. Roedd safon y gwasanaethau iechyd, addysg a thrafnidiaeth yn wael, a lefel uchel o ddiweithdra. Credai Malcolm X mewn hunanlywodraeth i bobl yn hytrach nag integreiddio, a bod hawl ganddynt i ymateb i ymosodiadau treisgar yn eu herbyn. Ond erbyn 1964 dechreuodd ymbellhau oddi wrth Genedl Islam a dechreuodd gefnogi ymgyrchoedd Martin Luther King.[37]

Ar 26 Mawrth 1964, gyda Deddf Hawliau Sifil 1964 yn wynebu gwrthwynebiad oddi wrth y Gyngres, cafodd Malcolm X gyfarfod â MLK yn Washington. Roedd Malcolm X wedi ceisio cychwyn deialog gyda MLK ers 1957 ond anwybyddwyd ef gan King. Cyhuddwyd King gan Malcom X o fod wedi troi ei gefn ar filwriaeth du er mwyn cyfaddawdu gyda strwythurau pobl wyn.[38] Mae tystiolaeth bod MLK yn paratoi i gefnogi cynllun Malcolm X i ddwyn Llywodraeth UDA gerbron Cynghrair y Cenhedloedd am dorri hawliau dynol Affricaniaid Americanaidd.[38]

Roedd Malcolm X yn annog cenedlaetholwyr du i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd cofrestru pleidleisio a phrotestiadau eraill er mwyn ehangu ymgyrchoedd y Mudiad Hawliau Sifil.

Llofruddiwyd Malcolm X yn 1965 gan Fwslim Du a gredai ei fod wedi bradychu ei bobl.[37]

Erbyn diwedd y 1960au roedd yr arwyddair ‘Grym Du’ yn boblogaidd, gyda Mudiad'r Grym Du yn cael ei sefydlu yn 1966 gan aelodau o’r SNCC oedd wedi dod dan ddylanwad syniadau Malcolm X. Roedd yr arwyddair yn adlewyrchu eu hagwedd mwy milwriaethus at sicrhau hawliau i bobl ddu. Roedd H Rapp Brown a Stokely Carmichael ymhlith yr arweinyddion, a grwpiau fel y Pantherod Du yn rhan o’r mudiad.

Black Panther Party

golygu
 
Black Panther o flaen Cofeb Lincoln yn 1970

Roedd pobl oedd yn aelodau o'r Mudiad Grym Du ac yn cefnogi ei egwyddorion yn dangos ymwybyddiaeth a balchder yn eu hunaniaeth ddiwylliannol. Bu sefydlu Plaid y Panther Du (Black Panther Party) gan Huey Newton a Bobby Seale yn Oakland, Califfornia yn 1966 yn gyfrwng i ennill sylw cenedlaethol i'r Mudiad Grym Du. Ysbrydolwyd hwy gan syniadau Malcolm X ac roeddent yn fodlon herio a gwrthsefyll yr heddlu gydag arfau. Rhwng 1968 a 1971 y Black Panther Party oedd un o’r mudiadau du pwysicaf yn UDA a chefnogwyd hwy gan y NAACP, SCLC a Phlaid Heddwch a Rhyddid.

Yng Ngemau Olympaidd 1968 dangoswyd symboliaeth pwerus o’r gefnogaeth cyhoeddus a roddwyd i bŵer du yn y cyfnod hwn. Yn Hydref 1968, wrth iddynt gael eu gwobrwyo gyda medalau aur ac efydd, fe wnaeth Tommie Smith a John Carlos wisgo bathodynnau hawliau dynol a chodi dwrn mewn maneg ddu, gan wneud saliwt Pŵer Du tra ar y llwyfan.[39]

Terfysgoedd

golygu

Ni chafodd Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 effaith uniongyrchol ar amodau byw pobl ddu dlawd yn syth. Ychydig ddiwrnodau wedi pasio’r ddedf bu terfysgu yn ardal Watts, Los Angeles. Fel Harlem, roedd yn ardal lle'r oedd y mwyafrif yn bobl ddu, gyda lefelau uchel o ddiweithdra a’r tlodi oedd ynghlwm â hynny. Roedd yn derfysg lle'r oedd hanes gan y gwasanaethau heddlu o erledigaeth yn erbyn y gymuned ddu.

Achoswyd difrod difrifol i adeiladau ac eiddo yn ystod chwe diwrnod o derfysgu. Lladdwyd 34 o bobl a gwnaed difrod gwerth tua $30 miliwn o ddoleri. Terfysg Watts oedd y terfysg drutaf yn hanes America. Roedd terfysgu ar gynnydd yn y ghetto a chanolbwyntiwyd dicter y trigolion ar yr heddlu. Roedd ymdeimlad gwrthryfelgar y gymuned ddu yn y getoau mewn dinasoedd a threfi yn cynyddu, gyda phobl ifanc yn ymuno â grwpiau fel y Pantherod Du, a oedd yn rhannol boblogaidd oherwydd eu parodrwydd i wynebu swyddogion yr heddlu. Bu terfysgu rheolaidd yn y gymuned ddu yn 1966 a 1967 mewn dinasoedd fel Atlanta, San Francisco, Oakland, Baltimore, Seattle, Tacoma, Cleveland, Cincinnati, Columbus, Newark, Chicago, Efrog Newydd (enwedig yn Brooklyn, Harlem a’r Bronx) ac yn enwedig yn Detroit.[40][41]

Terfysgoedd cenedlaethol 1967

golygu
 
Heddlu'n arestio dyn yn ystod Terfysgoedd Watts, Awst 1965

Yn 1967 bu terfysgoedd mewn cymunedau du mewn mwy na 100 o ddinasoedd UDA, gan gynnwys Detroit, Newark, Cincinnati, Cleveland a Washington D.C. Digwyddodd y terfysg mwyaf yn Detroit. Yno, dechreuodd y terfysgu ymhlith gweithwyr du dosbarth canol a oedd yn aelodau o’r undeb ac a oedd yn gweithio yn y diwydiant ceir yn Detroit. Cwynai’r gweithwyr hyn bod arferion hiliol yn y diwydiant yn cyfyngu ar y swyddi o fewn eu cyrraedd a’r cyfleoedd i gael dyrchafiad.[42]

Memphis, llofruddiaeth King a Deddf Hawliau Sifil 1968

golygu

Gwahoddwyd King gan James Lawson, aelod blaenllaw o’r Mudiad Hawliau Sifil yn y cyfnod, draw i Memphis, Tennessee, ym mis Mawrth 1968 i gefnogi streic gan weithwyr glanhau. Lansiodd y gweithwyr hyn gais am gael cynrychiolaeth yr undeb ar ôl i ddau weithiwr farw mewn damwain yn y gwaith; roeddent hefyd yn galw am gyflogau teg a gwell amodau byw. Gwelai King eu brwydr fel rhan allweddol o ymgyrch roedd e’n trefnu ar y pryd, sef ‘Ymgyrch y Bobl Dlawd’. Ddiwrnod wedi iddo draddodi ei araith ‘I’ve Been to the Mountain top’, llofruddiwyd King ar 4 Ebrill 1968. Yn syth, bu terfysgu yn y cymunedau du mewn mwy na 110 o ddinasoedd ar draws UDA, ac yn eu plith, Chicago, Baltimore a Washington D.C.

Ar 8 Ebrill, ddiwrnod cyn angladd King, cynhaliwyd gorymdaith hollol dawel gyda Coretta Scott King, SCLC a Llywydd UWA, Walter Reuther, ymhlith y gorymdeithwyr, a oedd tua 42,000 o ran nifer. Roedd Gwarchodwyr Arfog Cenedlaethol ar hyd y strydoedd, yn eistedd ar danciau M-48, yn cadw gwyliadwriaeth ac yn amddiffyn y gorymdeithwyr gyda hofrennyddion yn amgylchynu uwch ben. Ar 9 Ebrill, arweiniodd Mrs. King orymdaith angladd ei gŵr, gydag oddeutu 150,000 o bobl yn bresennol, drwy strydoedd Atlanta.

Lai nag wythnos wedi llofruddiaeth King, pasiwyd Deddf Hawliau Sifil 1968 ar 10 Ebrill a llofnodwyd y deddfwriaeth gan yr Arlywydd Johnson ar 11 Ebrill. Roedd y ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth werthu, rhentu ac ariannu tai yn seiliedig ar hil, crefydd a thras. Pasiwyd hefyd ei bod yn anghyfreithlon gorfodi drwy fygwth, anafu, brawychu neu darfu ar unrhyw un oherwydd eu hil, lliw croen, crefydd neu dras.

Ar ôl 1968

golygu

Parhaodd brwydr y Mudiad Hawliau Sifil ar ôl llofruddiaeth Martin Luther King, gyda nifer o ymgyrchwyr, sefydliadau a mudiadau fel yr NAACP yn parhau i frwydro am gydraddoldeb. Dangosodd marwolaeth George Floyd ym Mai 2020 bod y frwydr a’r ymgyrchu yn parhau. Fe wnaeth swyddog heddlu gwyn roi ei ben-glin ar wddf Floyd am 8 munud a 46 eiliad. Ar ôl ei farwolaeth, bu protestiadau yn erbyn trais yr heddlu, yn enwedig tuag at bobl du. Lledaenodd y protestiadau a’r gefnogaeth ar draws UDA ac ar draws y byd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Brown v. Board of Education of Topeka". Oyez.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  2. "The struggle for civil rights | Miller Center". millercenter.org (yn Saesneg). 2018-01-05. Cyrchwyd 2020-09-23.
  3. "Civil Rights Act of 1964 - CRA - Title VII - Equal Employment Opportunities - 42 US Code Chapter 21 | find US law". web.archive.org. 2010-10-21. Cyrchwyd 2020-09-23.
  4. Haines, Herbert H. (1995). Black Radicals and the Civil Rights Mainstream, 1954-1970 (yn Saesneg). Univ. of Tennessee Press. ISBN 978-1-57233-260-7.
  5. Editors, History com. "Ku Klux Klan". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  6. "Ku Klux Klan | Definition & History". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  7. "Jim Crow law | History, Facts, & Examples". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  8. Editors, History com. "Jim Crow Laws". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  9. "Booker T. Washington | Biography, Books, Facts, & Accomplishments". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  10. Editors, History com. "Booker T. Washington". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  11. Editors, History com. "NAACP". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  12. "National Association for the Advancement of Colored People | History". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  13. Editors, History com. "Marcus Garvey". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  14. "Marcus Garvey". Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  15. Editors, History com. "Little Rock Nine". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  16. "PBS LearningMedia | Teaching Resources For Students And Teachers". PBS LearningMedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-23.
  17. "James Meredith Desegregates 'Ol Miss. (Oct)". web.archive.org. 2006-10-04. Cyrchwyd 2020-09-23.
  18. Garrow, David J., 1953- (1988). Bearing the cross : Martin Luther King, Jr., and the Southern Christian Leadership Conference (arg. 1st Vintage books ed). New York: Vintage Books. ISBN 0-394-75623-1. OCLC 15791404.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  19. Arsenault, Raymond (2006). Freedom riders : 1961 and the struggle for racial justice. Internet Archive. Oxford ; New York : Oxford University Press. ISBN 978-0-19-513674-6.
  20. "Civil Rights Movement History & Timeline, 1961". www.crmvet.org. Cyrchwyd 2020-09-24.
  21. "Civil Rights Movement History & Timeline, 1962". www.crmvet.org. Cyrchwyd 2020-09-24.
  22. "Civil Rights Act of 1964 - CRA - Title VII - Equal Employment Opportunities - 42 US Code Chapter 21 | find US law". web.archive.org. 2010-10-21. Cyrchwyd 2020-09-24.
  23. "Kansas Sit-In Gets Its Due at Last". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  24. "Civil Rights Movement History & Timeline, 1960". www.crmvet.org. Cyrchwyd 2020-09-24.
  25. "Civil Rights Greensboro". libcdm1.uncg.edu. Cyrchwyd 2020-09-24.
  26. "Atlanta Sit-ins". New Georgia Encyclopedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  27. "Alexandria Black History Museum - Library Sit-in Lesson Plan - Determining the Facts - Reading 2". web.archive.org. 2010-05-28. Cyrchwyd 2020-09-24.
  28. Levingston, Steven. "Children have changed America before, braving fire hoses and police dogs for civil rights". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2020-09-24.
  29. Levingston, Steven. "Children have changed America before, braving fire hoses and police dogs for civil rights". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2020-09-24.
  30. "Television News and the Civil Rights Struggle: The Views in Virginia and Mississippi". Southern Spaces (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  31. Kasher, Steven. (1996). The civil rights movement : a photographic history, 1954-68 (arg. 1st ed). New York: Abbeville Press. ISBN 0-7892-0123-2. OCLC 34076501.CS1 maint: extra text (link)
  32. Blakemore, Erin. "New Attacker Identified in Brutal Beating Death of Minister During Civil Rights Era". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  33. "Viola Gregg Liuzzo". Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  34. "Martin Luther King, Jr. | Biography, Speeches, Facts, & Assassination". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  35. Editors, History com. "Martin Luther King, Jr". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  36. "Cambridge, Maryland, activists campaign for desegregation, USA, 1962-1963 | Global Nonviolent Action Database". nvdatabase.swarthmore.edu. Cyrchwyd 2020-09-24.
  37. 37.0 37.1 "Malcolm X | Biography, Nation of Islam, Assassination, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  38. 38.0 38.1 Marable, Manning (2011-04-04). Malcolm X: A Life of Reinvention (yn Saesneg). Penguin. ISBN 978-1-101-44527-3.
  39. "Tommie Smith | American athlete". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  40. "Watts Riots of 1965 | American history". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  41. "Detroit Riot of 1967 | Definition, Causes, Aftermath, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  42. "Detroit Riot of 1967 | Definition, Causes, Aftermath, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  NODES
Association 4
camera 1
ELIZA 1
Intern 1
languages 1
os 73
text 9
web 4