Ed Miliband
Gwleidydd o Loegr yw Edward Samuel "Ed" Miliband (ganwyd 24 Rhagfyr 1969) sydd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni ers 2024. Mae wedi bod yn Aelod Seneddol dros Gogledd Doncaster yn Nhŷ'r Cyffredin ers 2005. Bu'n Arweinydd y Blaid Lafur ac Arweinydd yr Wrthblaid rhwng 2010 a 2015. Gwasanaethodd yng nghabinet Gordon Brown o 2007 tan 2010.
Ed Miliband | |
---|---|
Llais | Ed Miliband BBC Radio4 Desert Island Discs 24 Nov 2013 b03j8srb.flac |
Ganwyd | Edward Samuel Miliband 24 Rhagfyr 1969 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, podcastiwr |
Swydd | Arweinydd y Blaid Lafur, Secretary of State for Energy and Climate Change, Arweinydd yr Wrthblaid, Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, special adviser, special adviser, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow Secretary of State for Business, Innovation and Skills, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig, Secretary of State for Energy Security and Net Zero |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Ralph Miliband |
Mam | Marion Kozak |
Priod | Justine Thornton |
Gwefan | http://www.edmiliband.org.uk/ |
Cafodd ei eni yn Llundain, yn fab i'r ysgolhaig Ralph Miliband ac yn frawd i'r gwleidydd David Miliband. Graddiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, cyn dod yn ymchwilydd i'r Blaid Lafur. Dros amser datblygodd i fod yn un o gydweithwyr Canghellor y Trysorlys ar y pryd, sef Gordon Brown, a chafodd ei apwyntio yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Economaidd Trysorlys Ei Mawrhydi.
Ymddiswyddodd fel arweinydd y Blaid Lafur drennydd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 (8 Mai 2015), yn dilyn dymchwel yr wrthblaid yn yr etholiad.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Kevin Hughes |
Aelod Seneddol dros Ogledd Doncaster 2005 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Swydd Newydd |
Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd 3 Hydref 2008 – 12 Mai 2010 |
Olynydd: Chris Huhne |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Harriet Harman |
Arweinydd y Blaid Lafur 25 Medi 2010 – 8 Mai 2015 |
Olynydd: Jeremy Corbyn |