Bardd sosialaidd, athronydd ac anthropolegydd cynabyddedig o Loegr oedd Edward Carpenter (29 Awst 184428 Mehefin 1929). Mae'n fwyaf nodedig am ei lyfr Civilisation, Its Cause and Cure (1889).

Edward Carpenter
Ganwyd29 Awst 1844 Edit this on Wikidata
Hove Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Surrey Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, athronydd, llenor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Mudiadlibertarian socialism Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Edward Carpenter ddylanwad mawr ar ewythr a thad y bardd o Gymro, Waldo Williams, ac ar Waldo ei hun. Roedd Carpenter yn un o brif sefydlwyr y Blaid Lafur Annibynnol. Roedd yn gyfaill i Rabindranath Tagore a Walt Whitman.[1] Cyfatherbai gyda Annie Besant, Isadora Duncan, Havelock Ellis, Roger Fry, Mahatma Gandhi, Keir Hardie, William Morris, Edward R. Pease a John Ruskin.[2]

Fel athronydd caiff ei gofio'n bennaf am ei gyfrol Civilisation, Its Cause and Cure (1889) ble mae'n awgrymu mai math o afiechyd yw gwareiddiad.[3] Llyfr arall dylanwadol ar Waldo Williams oedd The Healing of Nations and the Hidden Sources of their Strife (1915).

Credai'n gryf mewn "rhyddid rhyw" a dylanwadodd ar D. H. Lawrence, Sri Aurobindo, ac ysbrydolodd nofel E. M. Forster Maurice.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhan o lyfr Gay Roots, Cyfrol I: The Gay Succession; Gay Sunshine Journal 35 (1978); adalwyd Medi 2014
  2. Fabian Economic and Social Thought Series One: The Papers of Edward Carpenter, 1844-1929, from Sheffield Archives Part 1: Correspondence and Manuscripts Archifwyd 6 Hydref 2007 yn y Peiriant Wayback at www.adam-matthew-publications.co.uk
  3. Carpenter, Edward. Civilisation, Its Cause and Cure.
  4. Andrew Harvey, gol. (1997). The Essential Gay Mystics.
  NODES