Edwin Lutyens

pensaer Seisnig

Pensaer o Sais oedd Syr Edwin Landseer Lutyens (29 Mawrth 18691 Ionawr 1944). Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y Mudiad Celf a Chrefft ac yn Arlywydd Academi Frenhinol y Celfyddydau o 1938 hyd ei farwolaeth. Roedd ganddo ddealltwriaeth gref o draddodiadau adeiladu gwerinol yn ogystal â phensaernïaeth glasurol. Ym marn llawer o feirniaid mae ei weithiau yn crynhoi'r feddylfryd Edwardaidd, Seisnig i'r dim, ac mae'r plastai cynnar a gynlluniwyd ganddo'n cyfuno rhamantiaeth â chlasuriaeth mawreddog. Yn dilyn chwalu'r byd hwn yn y Rhyfel Byd Cyntaf cynlluniodd Lutyens rai o gofadeiladau mwyaf cofiadwy ei oes, yn enwedig y Senotaff yn Llundain a Chofeb Thiepval i Golledigion y Somme.

Edwin Lutyens
Ganwyd29 Mawrth 1869 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynlluniwr trefol, pensaer, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEmbassy of the United Kingdom, Washington, D.C. Edit this on Wikidata
TadCharles Augustus Henry Lutyens Edit this on Wikidata
MamMary Theresa Gallwey Edit this on Wikidata
PriodEmily Lutyens Edit this on Wikidata
PlantMary Lutyens, Elisabeth Lutyens, Robert Lutyens, Barbara Lutyens, Ursula Lutyens Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur Frenhinol, Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, Urdd Teilyngdod, Academydd Brenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Ymhlith ei gynlluniau mwyaf uchelgeisiol roedd prifddinas newydd ar gyfer India, Delhi Newydd, a chadeirlan Gatholig enfawr yn Lerpwl; dim ond crypt yr adeilad hwn a adeiladwyd i'w gynlluniau. Canmolwyd Lutyens fel "pensaer gorau [Prydain] ers Wren"[1] ac ef oedd y dylanwad mwyaf ar bensaernïaeth clasurol yng ngwledydd Prydain yn yr 20g cynnar, ond ystyrir hefyd ei fod wedi bod yn ddylanwad ceidwadol iawn ar adeg pan oedd pensaernïaeth fodern yn datblygu ar y cyfandir.

Nododd Lutyens fod Capel y Rug, ger Corwen yn Sir Ddinbych, wedi dylanwadu ar ei gynlluniau ar gyfer Tŷ'r Llywodraethwr (a elwir bellach yn Rashtrapati Bhavan) yn Delhi Newydd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Stamp, Gavin. Lutyens, Edwin. Oxford Art Online. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2014.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-10. Cyrchwyd 2018-03-27.
  NODES