Ehedydd

rhywogaeth o adar
Ehedydd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Alaudidae
Genws: Alauda
Rhywogaeth: A. arvensis
Enw deuenwol
Alauda arvensis
Linnaeus, 1758
Alauda arvensis

Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal â mynyddoedd Gogledd Affrica.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Passeriformes.[2][3]

Dyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:

Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16–18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.

Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.

Cyfeiriadau chwedlonol a llenyddol

golygu

Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau Moryd Solway.

Dywedir i gân yr Ehedydd ysbrydoli Dafydd y Garreg Wen i gyfansoddi'r alaw "Codiad yr Ehedydd". Ceir hefyd yr hen bennill "Marwnad yr Ehedydd":

Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie,
Awn â gyr o wŷr ac arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.

Awgrymwyd y gallai'r ehedydd yma fod yn gyfeiriad at Owain Glyn Dŵr.[4]

Rhywogaethau

golygu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Alaudala somalica Alaudala somalica
 
Ehedydd Dunn Eremalauda dunni
 
Ehedydd Dupont Chersophilus duponti
 
Ehedydd Gray Ammomanopsis grayi
 
Ehedydd coed Lullula arborea
 
Ehedydd gwridog Calendulauda poecilosterna
 
Ehedydd gylfindew Ramphocoris clotbey
 
Ehedydd hirewin Chersomanes albofasciata
 
Ehedydd llwyd Asia Alaudala cheleensis
 
Ehedydd sabota Calendulauda sabota
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Teuluoedd

Adar AsgelldroedAdar DailAdar DeildyAdar DreingwtAdar DrudwyAdar FfrigadAdar GwrychogAdar HaulAdar MorgrugAdar OlewAdar ParadwysAdar PobtyAdar TagellogAdar TelynAdar TomenAdar TrofannolAdar y CwilsAlbatrosiaidApostolionAsitïodBarbedauBrainBrain MoelBreisionBrenhinoeddBrychionBwlbwliaidCagwodCarfilodCasowarïaidCeiliogod y WaunCeinddrywodChwibanwyrCiconiaidCiconiaid Pig EsgidCigfachwyrCigyddionCiwïodCnocellodCoblynnodCoblynnod CoedCocatwodCogauCog-GigyddionColïodColomennodCopogionCopogion CoedCornbigauCorsoflieirCotingaodCrehyrodCrehyrod yr HaulCropwyrCrwydriaid y MalîCwrasowiaidCwroliaidCwtiaidCwyrbigau

SeriemaidCynffonau SidanDelorion CnauDreinbigauDringhedyddionDringwyr CoedDringwyr y PhilipinauDrongoaidDrywodDrywod Seland NewyddEhedyddionEmiwiaidEryrodEstrysiaidEurynnodFangáidFfesantodFflamingosFireodFwlturiaid y Byd NewyddGarannodGiachod AmryliwGïachod yr Hadau

GolfanodGwanwyrGwatwarwyrGweilch PysgodGweinbigauGwenoliaidGwenynysorionGwyachodGwybed-DdaliwyrGwybedogionGwybedysyddionGwylanodGylfindroeonHebogiaidHelyddion CoedHercwyrHirgoesauHirgoesau CrymanbigHoatsiniaidHuganodHwyaidIbisiaidIeir y DiffeithwchJacamarodJasanaodLlwydiaidLlydanbigauLlygadwynionLlygaid-DagellLlysdorwyrLorïaidManacinodMeinbigauMel-Gogau

Mêl-Gropwyr HawaiiMelysorionMesîtauMotmotiaidMulfrainParotiaidPedrynnodPedrynnodPedrynnod PlymioPelicanodPengwiniaidPennau MorthwylPibyddionPigwyr BlodauPincodPiod MôrPitaodPotwaidPreblynnodPrysgadarPysgotwyrRheaodRhedwyrRhedwyrRhedwyr y CrancodRhegennodRhesogion y PalmwyddRholyddionRholyddion DaearRobinod Awstralia

SeriemaidSgimwyrSgiwennodSgrechwyrSïednodSiglennodTapacwlosTeloriaidTelorion y Byd NewyddTeyrn-WybedogionTinamwaidTitwodTitwod CynffonhirTitwod PendilTodiaidTresglodTrochwyrTrochyddionTroellwyrTroellwyr LlydanbigTrogoniaidTrympedwyrTwcaniaidTwinc BananaTwracoaidTylluan-DroellwyrTylluanodTylluanod Gwynion

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
  2. del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
  3. ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.
  4. "E. Wyn James: Ballad Implosions and Welsh folk stanzas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-09. Cyrchwyd 2010-03-08.
  NODES
INTERN 2