Eingion y glust
Mae eingion y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp eingion yn y glust ganol sy'n cysylltu â morthwyl y glust ar un ochr a gwarthol y glust efo'r llall. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r morthwyl ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol. Weithiau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n incws o'r Lladin am eingion incus[1].
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | esgyrnyn |
Rhan o | esgyrnyn |
Cysylltir gyda | morthwyl y glust, Gwarthol y glust, posterior incudal ligament |
Yn cynnwys | short limb of incus, body of incus, lenticular process of incus, articular facet for malleus, long limb of incus, articular facet for stapes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Strwythur
golyguYr eingion yw'r ail o'r esgyrnynnau, tri asgwrn yn y glust ganol sy'n gweithredu i drosglwyddo sain. Mae ganddi aelod hir ac aelod byr sy'n ymwthio o'i bwynt cymalu â'r morthwyl.
Swyddogaeth
golyguMae'r eingion yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o'r drwm y glust i'r glust fewnol. Mae wedi ei gysylltu yn fras a'r morthwyl. Mae'n derbyn dirgryniadau o'r morthwyl yn ochrol ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol yn ganolog.
Hanes
golyguMae sawl ffynhonnell yn priodoli darganfyddiad eingion y glust i'r anatomegydd a'r athronydd Alessandro Achillini. Mae'r disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r morthwyl gan Berengario da Carpi yn ei lyfr Commentaria super anatomia Mundini (1521)[2]. Disgrifiodd llyfr Niccolo Massa Liber introductorius anatomiae[3] yr eingion mewn ychydig mwy o fanylder ond roedd ef yn disgrifio'r asgwrn fel ail forthwyl. Andreas Vesalius, yn ei lyfr De Humani Corporis Fabrica, oedd y cyntaf i gymharu siâp yr asgwrn i eingion, gan rhoi ei enw cyfredol iddi.[4] Ym 1615 honnodd Pieter Paaw bod aelod hir yr eingion yn asgwrn ar wahân ac yn bedwerydd esgyrnyn[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Drake, Richard L.; Vogl, Wayne; Tibbitts, Adam W.M. Mitchell; illustrations by Richard; Richardson, Paul (2005). Gray's anatomy for students. Philadelphia: Elsevier/Churchill Livingstone. ISBN 978-0-8089-2306-0.
- ↑ Jacopo Berengario da Carpi,Commentaria super anatomia Mundini (Bologna, 1521). https://archive.org/details/ita-bnc-mag-00001056-001
- ↑ Niccolo Massa, Liber introductorius anatomiae, Venice, 1536. p.166. http://reader.digitale-sammlungen.de/en/fs1/object/display/bsb10151904_00001.html
- ↑ C. D. O'Malley, Andreas Vesalius of Brussels, 1514-1564 (Berkeley: University of California Press, 1964), t.121
- ↑ Graboyes, Evan M.; Chole, Richard A.; Hullar, Timothy E. (September 2011). "The Ossicle of Paaw". Otology & Neurotology 32 (7): 1185–1188. doi:10.1097/MAO.0b013e31822a28df. PMC 3158805. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3158805.