Eithinen Ffrengig
Ulex europaeus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Genws: | Ulex |
Rhywogaeth: | U. europaeus |
Enw deuenwol | |
Ulex europaeus Carl Linnaeus |
Llwyn bytholwyrdd codlysol gyda blodau melyn a dail elfennol wedi'u hadnewid yn bigau yw eithin Ffrengig. Mae'n perthyn i deulu'r pys (Fabaceae). Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ulex europaeus a'r enw Saesneg yw European gorse neu furze.[1]
Ceir rhywogaethau eraill yn yr un teulu: ffa soia (Glycine max), ffa Ffrengig (Phaseolus vulgaris), pys gardd (Pisum sativum), pys (y) llygod (Cicer arietinum), cnau mwnci (Arachis hypogaea), pys pêr (Lathyrus odoratus) a gwylys (Glycyrrhiza glabra).
Enwau
golyguCeir enwau Cymraeg eraill ar y rhywogaeth hon gan gynnwys eithin cyffredin, eithin Ffreinig, eithin pigog ac eithin y fro.
Defnyddiwyd yr enw Ulex gan Pliniws i gyfeirio at lwyn pigog. Mae europaeus a Ffrengig (= estron) yn awgrymu mai planhigyn sydd wedi'i gyflwyno i Gymru a Phrydain Fawr ydyw yn wreiddiol, neu'n fwy tebygol efallai, wedi'i blannu'n helaeth yn y cyfnod hanesyddol #Ecoleg. European gorse yw'r unig enw ar y rhywogaeth arbennig yn Saesneg gydag enwau eraill fel furze yn gallu cyfeirio at sawl math o eithin.
Mae'r eithin Ffrengig yn cael ei hystyried yn brif nodwedd amryw gymunedau llystyfiant yr NVC[3]
- Rhostiroedd llaith eithinog Atlantaidd
(Atlantic damp gorse heaths)
- Rhostiroedd sych eithinog Atlantaidd
(Atlantic dry gorse heaths)
- W23 Mangoed eithin
Mangoed Ulex europaeus-Rubus fruticosus
Ulex europaeus-Rubus fruticosus scrub
(W23 Gorse scrub)
Ecoleg
golyguMae statws yr eithin Ffrengig fel planhigyn cynhenid yn amwys. Dyna dystiolaeth yr #Enwau yn un peth. Ac nid yw tystiolaeth yr olion archaeolegol yr olrheinir gan Godwin (1956: gol. 1)[4] yn datgan yn derfynol ar y mater oherwydd anawsterau gwahaniaethu rhwng paill a macro-olion y planhigyn yn y Ddaear.
Pery'r hadau yn y pridd am dros 30 o flynyddoedd[5]
Agonopterix umbellana corff gwastad eithin eg cyrff gwastad eithin
Rhywogaethau cysylltediedig ag eithin
golygu- Adar
- Crec yr eithin ac amrywiadau
Ei gynefin yw rhostir a thir ymylol gydag eithin i lanio arno.
- Clochdar y cerrig (+)
- Telor Dartford (Dryw bach yr eithin) Sylvia undata
Telor deheuol sy'n aros yn ei gynefin drwy'r flwyddyn. Mae bellach wedi cynefino yng Ngogledd Cymru; ei gynefin yw rhostiroedd gyda grug ac eithin lle bydd yn clwydo arno i herio a gwylio.
- Hwyaden yr eithin Tadorna tadorna
Mae'n nythu mewn tyllau cwningod, yn aml ynghanol eithin ar lechweddau uwchben tywod y traeth lle maen nhw'n ymborthi.
- Trychfilod
- Emrallt yr eithin Pseudoterpna pruinata
- Corff gwastad eithin Agonopterix umbellana
- Planhigion
- Chwerwlys yr eithin Teucrium scorodonia
Planhigyn sawr saets sy'n tyfu ar yr un pridd llwm ac asid ag eithin.
- Eithinen Bêr, Eithin y Cwrw, MERYWEN Juniperus communis
Enwyd yn lleol am ei debygrwydd arwynebol i eithin a'i hoffter o'r un math o gynefin.
- Eithin y Gath, Eithin yr lâr (ieir) CRACHEITHINEN Genista anglica
Mae'n perthyn i'r eithin ac yn mwynhau yr un cynefin.
- Eithin yr leir (neu Tagaradr) Ononis repens
Cyfeiriad mae'n debyg ar ffurf ei flodau - yr un teulu leguminosae â'r eithin.
- Eithinen Sbaen Genista hispanica
- Llwyd yr Eithin Wermod lwyd Artemisia absinthium
Mae'n hoff o'r un cynefin ag eithin.
- Gwahanol fathau o eithin yng ngwledydd Prydain:
- eithinen Ffrengig Ulex europaeus
- Eithin Bychan coreithinen Ulex minor
- eithinen fân Eithin y Mynydd Ulex gallii
- Eithinen Goraidd Ulex minor
Defnydd
golygu- Tanwydd
Ysgrifennodd George Owen, hanesydd o Sir Benfro, yn 1603 fod eithin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobi a bragu ac y byddai weithiau yn tyfu mor fawr fel y câi ei ddefnyddio fel y prif danwydd mewn tanau ceginau a neuaddau: roedd yn cynhyrchu tân ‘sweete', yn gliriach na thân unrhyw danwydd arall ac yn bwrw allan mwy o wres [angen ffynhonnell].
Defnyddiwyd eithin hefyd fel tanwydd i gynnau tân, sef poethfel (poethwal, poethwel ar lafar ym Meirion, Sir Drefaldwyn a Sir Gaernarfon). Diffiniad Geiradur Prifysgol Cymru[6] o poethfel yw 'Eithin, grug, tywyrch, &c., wedi'u lled-losgi (a’u defnyddio fel tanwydd); man losgedig (ar rostir, &c.); golosg', a'r cyfeiriad cynharaf ato yw Llysieulyfr Elis Gruffydd o 1545, 'gwna boethwel megis glo kynnvd'. Ceir hefyd y ffurf poethwiail trwy ei gysylltu â gwiail. Mae'n debyg mai'r elfennau yw poeth (= 'wedi'i losgi' [cf. Coedpoeth] a -fel (?amrywiad ar bar/-far = 'brig', 'copa', cymharer uchelfel, amrywiad ar uchelfar) yn golygu 'gwiail llosgedig'.
- Defnydd fel lliwiwr
Defnyddiwyd eithin i hyd at ddiwedd y 19g i liwio gwlân yn felyn neu'n wyrdd. [angen ffynhonnell].
- Deunydd adeiladu
Roedd adeiladau byrhoedlog, waliau o goed pleth ac eithin a'u toeon yn fwndeli grug, yn cael eu codi yn ardal Llangwm rhwng y ddau Ryfel byd - roedd yr adeiladau hyn yn gyffredin mewn sawl ardal yng ngoledd orllewin Cymru. Cai eithin ei defnyddio mewn toeon hefyd, rhwng y ffrâm o gyll, gwern neu helyg a'r haenen allanol o frwyn, gwellt neu rug. Pwrpas yr eithin oedd atal llygod Ffrengig rhag cyrraedd y to. [angen ffynhonnell].
- Porthiant
Roedd yn arfer, hyd at yr 20g mewn rhai rhannau o Gymru, i fwydo anifeiliaid, ceffylau a gwartheg yn bennaf gydag eithin wedi malu. Mae cofnodion ar gael o'r 17g o ogledd-ddwyrain Cymru o wartheg yn cael eu cadw allan dros y gaeaf a'u bwydo ar eithin. Cai'r eithin ei gymysgu weithiau a gwellt neu wair. Cyn dyfodiad y peiriant us yn y 18g cai'r eithin ei guro mewn cafn carreg gyda phastwn pren. Mewn rhannau o ogledd Cymru, cai maneg bren ei gwisgo dros y llaw er mwyn gwthio'r eithin ar hyd y peiriant us - y ddrynolen bren oedd yr enw ar y faneg. [angen ffynhonnell].
Erbyn y 19g roedd melinau eithin yn gyffredin ar hyd a lled Cymru a defnyddid chiir neu asynnod neu ferlod i'w gyrru. Nifer o olion rhain i'w gweld o hyd e.e. ar hyd arfordir Sir Benfro. [angen ffynhonnell].
Cai eithin Ffrengig ei dyfu'n bwrpasol fel cnwd i'w fwydo i anifeiliaid - roedd cymaint o werth i gae o eithin ag i gae o wair ar rai ffermydd. Yn Sir Benfro, byddai plant yn cael eu danfon i gasglu hadau eithin ac roedd arwerthiannau eithin yn gyffredin yn y Sir honno yn y 19g gyda phrisiau uchel yn cael eu talu am gaeau o eithin blwydd.
Mae tystiolaeth lafar o ogledd Sir Benfro mai ar gylchdro tair i bum blynedd y cai'r eithin ar hyd y clogwyni ei dorri a'i falu. Yng ngogledd ddwyrain Cymru roedd eithin hefyd yn cael ei dyfu mewn caeau bychain pwrpasol: 'caeau eithin'. Cai ei dorri a'i stacio yn barod ar gyfer y gaeaf - ceir cofnod o 'gadlas' yn Rhuddlan yn dyddio o 1813:
- In the counties of Caernarvon and Anglesey, and in a portion of the county of Denbigh, four fifths of the farmers, inn-keepers, public carriers and others who keep horses, are in the habit of using gorse as provender to a great extent.[7]
- Traethawd R. Elwyn Hughes
Eithin fel bwyd i geffylau a gwartheg: gwaith heb ei gyhoeddi gan R. Elwyn Hughes yw'r canlynol. Ychwanegwyd teitlau yn unig i'w wneud yn haws ar gyfer y darllenydd.
“ | Hyd at ail hanner y ddeunawfed ganrif, pur dawedog fu'r llyfrau amaeth ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio eithin yn ymborth. Brawddeg gwta yn unig a geir gan J.[ohn] W.[orlidge] yn ei Systema Agriculturae yn 1669: 'The green tops of [furzes] are good food for Horses, the prickiness thereof being taken away by chopping.' Ceir gan John Mortimer yn 1712 gyfeiriad cynnil at fwydo pennau eithin i geffylau and eithriad oedd hyn ymhlith llyfrau amaethyddol y cyfnod: 'The young tender tops of Furz being a little bruised, and given to a lean sickly Horse, will strangely recover him, and plump, him up'[8]. Ac er bod gan William Ellis bennod gyfan yn trafod 'The furz or whins' yn ei The timber-tree improved [9], â defnyddio eithin yn gynnud [coed tân] y mae a wnelo. Rhaid oedd aros tan ail hanner y ddeunawfed ganrif cyn dechrau son o ddifrif am ddefnyddio eithin i fwydo ceffylau a gwartheg; cyfrifid bryd hynny ei fod yn arferiad penodol Gymreig a gyfyngid, yn bennaf, i amaethwyr gogledd Cymru.
Cafwyd ond odid un o'r cyfeiriadau cynharaf ato mewn llythyr gan yr Arglwydd Cathcart — llythyr a sgrifennwyd ganol y ddeunawfed ganrif ac a gyhoeddwyd gan Robert Maxwell yn ei The practical husbandman [10]. Nododd Cathcart fod 'the sowing of Whins [eithin] for feeding of Cattle takes place mightily about London now' gan ychwanegu, 'A Gentleman, who has tried them, assures me that all his Horses eat them as readily as they do Hay. This Improvement comes from Wales, where it has been practised these hundred years' — sy'n awgrymu fod bwydo eithin i anifeiliaid fferm yn digwydd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac efallai cyn hynny. Cafwyd gwybodaeth bellach am hau a medi eithin yng Nghymru yn yr un cyhoeddiad (t. 319) gan 'Major Henbury in Wales'; cynhwysai ei gyfarwyddiadau y sylw '[This] is surely good Husbandry, though some Mai think it otherwise, because it is unprecedented in Scotland' |
” |
“ | Blaengarwch Cymru Wrth drafod sut i droi pennau'r eithin yn lluniaeth addas i gynnal ceffylau cyfeiriodd y llyfr enseiclopedig hwnnw The complete farmer (3ydd arg. Llundain, 1777) at 'The mills which Sir Capel Hanbury has lately erected for this end in Wales'. Ategwyd tarddiad Cymreig yr arferiad gan un a'i galwai ei hun yn 'A Member [o'r Society for the Encouragement of Arts, Manufacturers, and Commerce], Caernarvon' yn nhudalennau Museum Rusticum et Commerciale yn 1764 (cyfrol 1, tt. 311— 313) a nododd fod ar gael yng Nghymru bryd hynny beiriannau i dorri a malu'r eithin cyn ei fwydo i'r ceffylau 'which feed on it and thrive to admiration'; ychwanega 'This practice of sowing furz might certainly be followed with profit in many parts of England.' Ond hyd y gwyddys ni ddigwyddodd hyn — pan dyfid eithin ar ffermydd Lloegr, at ddibenion eraill y digwyddai hyn — megis gan Thomas Page o Swydd Surrey yn niwedd y ddeunawfed Ganrif a dyfai eithin er mwyn ei werthu'n gynnud i berchenogion odyn brics cyfagos. (Thomas Page 'On the culture of furz (Ulex Europaeus)' Annals of Agriculture 9 (1788) 215-7). Bwriad golygydd y Museum Rusticum et Commerciale oedd ymhelaethu ar y wybodaeth a ddeuai o Gymru — 'We are well pleased at informing the public that we shall, very speedily give descriptions of two machines for cutting and bruising furze as now actually practised in Wales, with engravings illustrating the same, a gentleman having promised them to our work' (cyfrol 2, (1864), t. 119) — ond, hyd y gwelaf i, methwyd a chywiro'r addewid. |
” |
“ | Yr Alban a Lloegr yn dilyn Ymddengys fod yr arferiad wedi cydio yn yr Alban ac mewn mannau o Loegr hefyd erbyn diwedd y ganrif; meddai James Anderson o Aberdeen 'This plant, when bruised is one of the most valuable kinds of winter food yet known for all kinds of domestic animals ... ' meddai gan ychwanegu 'I have very sufficient reason from undoubted experience, for using it' [11]. A chafwyd cyfeiriadau at ddefnyddio eithin yn rhai mannau o Loegr gan Monk yn ei Agricultural Dictionary yn 1794. Bu cyfeiriad gan Withering at eithin yng Nghymru yn ei Systematic arrangement of British plants[12] lle dywed fod 'Mr Davis of Lachtony (sic), near Kidwelly, cultivates 10 acres of Furze, which he propagated by seed; with these whips which he cuts every year, he keeps his horses ... and he gives it, mixed with hay, to his horned cattle...' |
” |
“ | Arbrofion pellach Rhaid bod cynhaeafu eithin wedi dal yn ei fri yn y gogledd am nifer o flynyddoedd canys yn 1833 cyhoeddodd Saunderson (Bala) lyfryn 16 dudalen Traethodyn ar ddefnyddioldeb eithin yn ymborth gauaf i anifeiliaid yn dangos y modd goreu i'w magu, a'u darparu, a'u rhoddi i geffylau a gwartheg. Yn ôl nodyn rhagarweiniol 'Y traethodyn canlynol a ddanfonwyd i swyddfa y Gwyliedydd, ond barnwyd ei fod yn rhy faith i ymddangos yn y cyhoeddiad hwnnw.' Hwn, mae'n debyg, yw'r fersiwn gwreiddiol o A treatise on the usefulness of furze or gorse as a winter feed for cattle [and] horses. Translated from the Welch (sic) a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1834 ac a ddisgrifiwyd gan Dingley [13] fel 'apparently unrecorded'. Ceir yma felly enghraifft brin o lyfr ymarferol Cymraeg yn cael ei gyfieithu i'r Saesneg - cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg oedd y duedd gyffredinol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n bosibl mai awdur y Traethodyn oedd Owen Owen Roberts, awdur proliffig ac amryddawn o Fangor, cymeriad lliwgar a disgrifia'i hun yn un o'i gyhoeddiadau fel Deputy Ranger of the Forest of Snowdon. (Ar y llaw arall, nid oedd Roberts yn un am guddio ei gannwyll dan bwysel ac fe fyddai cyhoeddi'n ddienw yn llwyr annodweddiadol ohono). Roedd y rhan fwyaf o'i gyhoeddiadau'n ymwneud â materion cymdeithasol er iddo gyhoeddi yn 1838 lyfr bach defnyddiol ar hwsmoniaeth, sef Hints on agricultural economy. |
” |
“ | Y felin eithin Yn 1845 dyfarnwyd i Roberts Wobr yr Arglwydd Kenyon am ei Essay on Gorse a gyhoeddwyd yn llawn wedyn yn y Journal of the Royal Agricultural Society of England [14]. Dywed fod defnyddio eithin i fwydo ceffylau yn arferiad cyffredin yn siroedd Caernarfon, Mon a Dinbych 'from time immemorial'. Cysylltodd Roberts a nifer o ffermwyr yng ngogledd Cymru ac yn atodiad i'w draethawd fe gyhoeddodd eu tystiolaeth am ddefnyddio eithin yn ymborth. Ceir ganddo hefyd lun o'r math o felin a ddefnyddid yr adeg honno i falu pennau'r eithin, gan ddatgan 'A gorse-mill for crushing, or blocks and mallets for chopping and bruising gorse were, forty years ago, appendages to almost every farm-house in the counties of Carnarvon and Anglesey, as well as in a great part of the county of Denbigh. Cyfeiria hefyd at felin eithin ager a ddyfeisiwyd gan 'an ingenious Anglesey blacksmith' and heb roi rhagor o fanylion. Ceir yn Cyclopedia of agriculture gan J.C.Morton (1850) ddarluniau o'r ddau fath o felin eithin a oedd ar waith yr adeg honno. Seiliwyd y math cyntaf a symlaf ar y melinau seidr gynt ac fe gynhwysai garreg fawr a fyddai'n symud y tu mewn i gafn fel ag i falu a chywasgu pennau'r eithin. Gweithredai'r ail fath ar egwyddor y peiriant siaffo; byddai silindr yn troi ac yn gyrru'r eithin heibio i nifer o ddannedd a thrwy hynny'n torri'r eithin yn ddarnau mân. Yn ôl Morton y felin fwyaf cyffredin yng ngogledd Cymru'r adeg honno oedd un o wneuthuriad Mrs Wedlake o Romford yn Essex. |
” |
“ | Gosodwch destun y dyfyniad yma, heb ddyfynodau. | ” |
R. Elwyn Hughes. [15].
Cyfeiriadau hanesyddol
golygu- Robert Bulkeley a William Bulkeley (Môn)
22 Mai 1631: j pd/for eithino 6s, and to another for opening a moore 6d Dyddiadur Robert Bulkeley, Dronwy, Môn. Mae RB yn son llawer am eithino heb fawr o esboniad pellach.
6 Hydref 1635: 6th. The Wind S.E. calm & fair, but cloudy, my people employed in grubbing, carrying & makeing of Gorse into Stacks Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn. Ai cyfeiriad at gadlas eithin (uchod) sydd yma? A beth oedd diben pennaf y gwaith hwn - gwaredu'r eithin ynteu ei ddefnyddio, ynteu'r ddau?
18 Tachwedd 1736: set fire to ye small gorse at Brynne Duon, which burnt well Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn. Ai eithin Ffrengig ieuanc roedd o'n ei olygu yma ynteu eithin mân Ulex gallii? Mae'r ddwy yn tyfu yn y cyffiniau heddiw.
24 Medi 1737: have some day labourers digging of Gorse at Ferem all this Week for Winter fireing Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn.
2 Ebrill 1742: Having sowed to day Rhos Garrog with hay seeds, I sowed to day several rows of gorse seeds thro the field by way of shelter Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn. Cyfeiriad sy'n profi bod eithin Ffrengig yn cael ei blannu fel clawdd.
Mae rhan helaeth o gyfeiriadau WB at eithin yn cyfeirio at cutting and carrying home gorse. Mae'r mwyfrif o'r cofnodion hyn rhwng misoedd Medi-Tachwedd (cynnud at y gaeaf? porthiant?) ond digwydd lleiafrif sylweddol ym mis Mai a Mehefin. Mae Bulkeley yn son am ei dorri at "fireing" yr adeg yma hefyd o bryd i'w gilydd (pobi? bragu? sychu yd?):
5 Mehefin 1756: My people were all this week employed in fencing about the corn, providing Gorse both for the house and drying of Oats
7 Mehefin 1763: these four last days my own servants & 5 day labourers were stocking Gorse and thorns in Cae`r Beudy & Cae'r Gamfa in Bodelwyn where I intend to lay Sand on this Sumer Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn.
Enwau lleoedd
golyguEnghreifftiau: Eithinog (Bangor); Bryn Eithin (Llandecwyn ayb); Cwm Eithin (Llangwm a Cherrigydrudion), Craig Glas Eithin (Trawsfynydd); Tireithin (Aberystwyth), Tai'r Eithin (Nebo, Caernarfon); Pendas Eithin Waunfawr
O'r holl enwau lleoedd yng Nghymru sydd yn cynnwys yr elfen -eithin-, mae Cronfa Ddata Enwau Lleoedd Melville Richards[16] yn cofnodi Bryn Eithin a Cae Eithin ymysg yr enwau mwyaf niferus yn y gronfa. Tystia'r cyntaf i hoffder eithin am lecyn sych, a'r ail am bwysigrwydd eithin fel cnwd.
Nid yw rhain wrth gwrs yn nodi pa fath o eithin oedd dan sylw er nad oes fawr o amheuaeth mai Ulex europaeus sydd yn yr ail o leiaf. O chwilio'r gronfa yn yr un modd am -eithin Ffre- pump cofnod yn unig ddaeth i'r fei (un o ddechrau'r 17g. a'r tri arall o'r 18g.), fel a ganlyn (dangosir y ffurf fodern gyntaf):
EITHIN FFRENGIG, DINHENGROEN, 'Sir Ddinbych', Gwerglodd yr Eithin ffreinig, Cae Eithin ffeinig [sic], 1734/5 (KINMEL MSS)
EITHIN FFRENGIG, LLANHAMLACH, 'Sir Frycheiniog', Ithyn Frenig, 1704 (JERSEY MSS)
EITHIN FFRENGIG, LLANSILIN, 'Sir Ddinbych', Yr Eithin ffrengig, 1603 (T.I.JEFFRIES JONES / EXCHEQUER (EQUITY PROCEEDINGS CONCERNING WALES) E.G.J.)
GWEIRGLODD YR EITHIN FFREINIG, ABERGELE, 'Sir Ddinbych', Gwerglodd yr Eithin ffreinig, 1734/5, (KINMEL MSS)
Ceir un cofnod yn unig o felin eithin o'r 14g.:
MELIN EITHINOG, UWCH GWYRFAI, 'Sir Gaernarfon', mill of Ethynok, 1341, (CALENDAR OF PATENT ROLLS)
Un cofnod eto sydd o poethfel:
POETHFEL, LLANEFYDD, 'Sir Ddinbych', Poeth ffol, 1761, PLAS YN CEFN MSS
Arferion plant
golyguYn rhai o gymoedd y de (ee. Cwm Rhymni) ar adeg y Pasg arferid berwi wyau mewn dŵr â blodau eithin ynddo er mwyn lliwio'r plisgyn yn felyn [angen ffynhonnell].
Gofynai plentyn i'w gyfaill adrodd "Hen wraig yn rhoi eithin ar y tân" - yn araf iawn swniai fel "rhoi ei thin ar y tân"!! (Clynnog Fawr 1950au, ffurf debyg yn y Waunfawr hefyd).
Bwyd a diod
golyguDefnyddir y blodau i wneud gwin cartref.
Teithi tramor
golygu- Iwerddon
Defnyddiwyd eithin yn ddiweddar i wneud defnyddiau ymolchi i ddynion; cofnodir bod y blodau wedi cael eu defnyddio i drin llosg cylla'.[17]
Gweler hefyd.....
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC: Rodwell, J.): Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Edward Llwyd
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-14. Cyrchwyd 2017-07-26.
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=n205AAAAIAAJ&pg=PA178&lpg=PA178&dq=ulex+europaeus+in+the+pollen+record&source=bl&ots=PcCIYJ12OA&sig=HfIIbRlAjDFFYQsLJdlQ050_ik4&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwimuoTawKbVAhWqDsAKHaxmDBQQ6AEIGTAA#v=onepage&q=ulex%20europaeus%20in%20the%20pollen%20record&f=false
- ↑ Mabberley, D.J. (2008) Mabberley's Plant Book. CUP
- ↑ http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?poethfel
- ↑ Roberts, O.O: (1847) J.R.A.S.E vi, (tud 380)
- ↑ John Mortimer (1712) The art of husbandry, Part II (Llundain, (1712) t. 55)
- ↑ Ellis W. (Llundain, (1742) 3ydd argraffiad, Rhan 2, tt. 199 — 204
- ↑ Maxwell, R. (1757). Caeredin, 1757, tt. 317-8
- ↑ Anderson, J. (1779) Essays relating to agriculture and rural affairs (Dulyn) cyf. 1, ft. 74-5)
- ↑ Withering, 5ed arg. Birmingham (1812) tt. 770-1)
- ↑ Dingley (1834)Historic books on veterinary science (Llundain, 1992) t.151
- ↑ Roberts, O.O. (1845), tt 379 — 397
- ↑ Hughes, R.E. (2001) Defnyddio eithin yn fwyd ceffylau a gwartheg (teipysgrif heb ei gyhoeddi)
- ↑ http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx
- ↑ Cyf: Lucas, A.T. & Furze, A. (1960): Survey and history of its uses in Ireland, Dublin 1960; Tronchet, J. (dyddiad), Efféts d'un deficit hydrique sur les flavonosides des petales de Rosa stylosa Desv (Rosacees) et de Ulex europaeus, L. (Papilionacees) . Bull. Soc. Bot. Fr., 123, pp.339- 348; Ribas, J & Basanta, J.L (1952); Alkaloids of 'Ulex' in Anales Real Soc Espan. Fis. y. quim., (48B pp 161-166, 1952)