Arwrgerdd o Fesopotamia yw Epig Gilgamesh, sy'n un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi. Cred ysgolheigion fod cyfres o chwedlau a cherddi Swmeraidd am y brenin mytholegol Gilgamesh, oedd efallai yn deyrn gwirioneddol rywbryd tua'r 27g CC, wedi ei casglu i ffurfio cerdd hirach mewn Acadeg yn llawer diweddarach. Ceir y fersiwn lawnaf ar ddeuddeg tabled glai o lyfrgell Ashurbanipal, brenin Asyria yn y 7g CC.

Hanes y Dilyw ar un o'r tabledi clai sy'n cynnwys Epig Gilgamesh.

Prif bwnc y stori yw'r berthynas rhwng Gilgamesh, brenin Uruk, sydd wedi digalonni a blino ar deyrnasu, a'i gyfaill hanner-gwyllt Enkidu, a galar Gilgamesh wedi marwolaeth Enkidu. Wedi marwolaeth ei gyfaill, mae Gilgamesh yn chwilio am anfarwoldeb. Ceir cyfeiriad at Ddilyw oedd wedi boddi pawb heblaw Utnapishtim a'i wraig.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES