Etifeddiaeth
Am y gerdd gan Gerallt Lloyd Owen, gweler Etifeddiaeth (cerdd).
Yr arfer o basio eiddo, teitlau dyledion a dyletswyddau ymlaen wedi marwolaeth unigolyn yw etifeddiaeth. Mae wedi chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas ers amser maith, er fod rheolau etifeddiaeth wedi newid dros amser, ac yn amrywio rhwng gwahanol wledydd.
Doedd dim cydraddoldeb mewn etifeddiaeth hanesyddol fel rheol. Yn y rhan helaeth o gymunedau roedd yn draddodiadol i ddynion allu etifeddu ond i ferched beidio, neu os oeddent yn gallu etifeddu, roedd hawl i gyfran llai o'r etifeddiaeth.
Cafodd Treth Etifeddiaeth ei gyflwyno yn y Deyrnas Unedig ar 18 Mawrth 1986, ond roedd rhywbeth tebyg wedi bodoli yn Lloegr a Chymru ers 1796.