Anaf i'r croen neu feinweoedd eraill a achosir gan dymheredd isel iawn yw ewinrhew. Fel arfer diffyg teimlad yw'r symptom cyntaf. Gall hyn gael ei ddilyn gan drwsgleiddiwch a lliw gwyn neu las i'r croen. Gall fod chwyddo neu bothellu wedi iddo gael ei drin. Y dwylo, traed a'r wyneb sy'n cael eu heffeithio amlaf.[1] Gall cymhlethdodau gynnwys hypothermia neu Syndrom Parwydydd (Compartment Syndrome).

Ewinrhew
Math o gyfrwngclefyd Edit this on Wikidata
Mathcold injury, arwydd meddygol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pobl sy'n wynebu tymheredd oer am gyfnodau hir, fel pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon gaeaf, pobl yn y lluoedd arfog, neu'r digartref, sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddioddef o ewinrhw.[2] Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys yfed alcohol, ysmygu, problemau iechyd meddwl, meddyginiaethau penodol, ac anafiadau blaenorol o ganlyniad i oerfel.[3] Mae'r diagnosis yn seiliedig ar symptomau.[4] Gellir rhannu difrifoldeb yr achosion yn arwynebol (gradd gyntaf neu eilradd) neu ddwfn (trydedd neu bedwaredd gradd). Gall sgan asgwrn neu MRI gynorthwyo i sefydlu hyd a lled yr anaf.

Gellir atal ewinrhew drwy osgoi tymheredd oer, gwisgo yn briodol, cynnal hydradiad a maethiad, a pharhau i symud heb flino'n llwyr. 

Nid yw nifer yr achosion o ewinrhew yn hysbys.[5] Gallai cyfraddau fod mor uchel a 40% y flwyddyn ymhlith mynyddwyr. Y grwp oedran sy'n cael ei effeithio amlaf yw'r rhai sydd rhwng 30 a 50 oed. Ceir tystiolaeth o bobl yn dioddef o ewinrhew 5,000 o flynyddoedd yn ôl, ond ysgrifennwyd y disgrifiad ffurfiol cyntaf ohono yn 1814 gan Dominique Jean Larrey, meddyg ym myddin Napoleon. Yn wir, mae ewinrhew wedi bod yn ffactor bwysig mewn nifer o wrthdrawiadau milwrol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ferri, Fred F. (2017). Ferri's Clinical Advisor 2018 E-Book: 5 Books in 1 (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. t. 502. ISBN 9780323529570.
  2. Handford, Charles; Buxton, Pauline; Russell, Katie; Imray, Caitlin EA; McIntosh, Scott E; Freer, Luanne; Cochran, Amalia; Imray, Christopher HE (2014-04-22). "Frostbite: a practical approach to hospital management". Extreme Physiology & Medicine 3: 7. doi:10.1186/2046-7648-3-7. ISSN 2046-7648. PMC 3994495. PMID 24764516. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3994495.
  3. Handford, C; Thomas, O; Imray, CHE (May 2017). "Frostbite.". Emergency medicine clinics of North America 35 (2): 281-299. doi:10.1016/j.emc.2016.12.006. PMID 28411928.
  4. Singleton, Joanne K.; DiGregorio, Robert V.; Green-Hernandez, Carol (2014). Primary Care, Second Edition: An Interprofessional Perspective (yn Saesneg). Springer Publishing Company. t. 172. ISBN 9780826171474.
  5. Auerbach, Paul S. (2011). Wilderness Medicine E-Book: Expert Consult Premium Edition - Enhanced Online Features (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. t. 181. ISBN 1455733563.

Rhybudd Cyngor Meddygol

golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

  NODES
os 12