Mesur mathemategol a chanddo faint a chyfeiriad yw fector. Enghreifftiau cyffredin o fectorau yw buanedd, cyflymiad, a grym.

Gellir darlunio unrhyw fector sydd â maint yn fwy neu'n llai na sero ar ffurf saeth, sef segment llinell. Mae hyd y saeth yn cynrychioli maint y fector, yn ôl graddfa, a dynodir cyfeiriad y fector gan gyfeiriad y saeth.

Triniasant gwyddonwyr â mesurau a elwir heddiw yn fectorau ers talwm. Cafodd y syniad o fector ei ffurfioli gan y ffisegydd a chemegydd Josiah Willard Gibbs yn 1881, ar sail gwaith cynt y mathemategydd William Rowan Hamilton.

Gelwir mesur a chanddo faint ond nid cyfeiriad yn sgalar.

  NODES
Done 1
eth 6