Ffwythiannau trigonometrig
Mewn mathemateg, mae ffwythiannau trigonometrig yn ffwythiannau onglau. Defnyddir y ffwythiannau yma i gysylltu onglau triongl (triongl ongl sgwâr gan fwyaf) i hyd ymylon y triongl. Y ffwythiannau mwyaf poblogaidd yw sin, cosin a tangiad, sy'n byrhau i sin, cos a tan.
Mae gan y ffwythiannau yma nifer o ddefnyddiau yn y meysydd cyfeiriadu, peirianneg a ffiseg nid yn unig o fewn yr astudiaeth o drionglau, ond hefyd mewn modelu ffenomenâu cyfnodol.
Diffiniadau triongl ongl sgwâr
golyguI ddiddwytho ongl A, enwir yr ochrau fel y canlynol:
- Yr hypotenws yw'r ochor gyferbyn ar ongl sgwâr, yn yr achos yma h. Yr hypotenws yw'r ochor sydd ar hyd fwyaf.
- Yr ochor cyferbyn yw'r ochor gyferbyn i'r ongl yr ydym am ei ddarganfod. Yn yr achos yma a.
- Yr ochor cyfagos yw'r ochor sydd rhwng yr ongl yr ydym am ei ddarganfod ar ongl sgwâr. Yn yr achos yma b.
Ffwythiant | Talfyriad | Disgrifiad | Unfathiannau (yn defnyddio radiannau) |
---|---|---|---|
Sin | sin | ||
Cosin | cos | ||
Tangiad | tan (or tg) | ||
Cotangiad | cot (or ctg or ctn) | ||
Secant | sec | ||
Cosecant | csc (or cosec) |
Unfathiannau
golyguMae yna nifer o unfathiannau yn bodoli sy'n cydberthyn y ffwythiannau trigonometrig. Dyma'r un a defnyddir fwya' aml.
Perthnasau arall sy'n bodoli yw'r fformiwlâu swm a gwahaniaeth.
Pan mae dwy ongl yn hafal, mae'r swm y fformiwlâu yn symleiddio i hafaliadau a adnabyddir fel y double-angle formulae.
Calcwlws
golyguMae'r tabl yma yn dangos integriadau a differiadau ffwythiannau trigonometreg.
Ffwythiannau gwrthdro
golyguEnw | Nodiant arferol | Nodiant arferol | Diffiniad | Parth x | Amrediad gwerthau (radiannau) |
Amrediad gwerthau (Graddau) |
---|---|---|---|---|---|---|
arcsine | y = arcsin x | y=sin−1(x) | x = sin y | −1 ≤ x ≤ 1 | −π/2 ≤ y ≤ π/2 | −90° ≤ y ≤ 90° |
arccosine | y = arccos x | y=cos−1(x) | x = cos y | −1 ≤ x ≤ 1 | 0 ≤ y ≤ π | 0° ≤ y ≤ 180° |
arctangent | y = arctan x | y=tan−1(x) | x = tan y | pob rhif real | −π/2 < y < π/2 | −90° < y < 90° |
arccotangent | y = arccot x | y=cot−1(x) | x = cot y | pob rhif real | 0 < y < π | 0° < y < 180° |
arcsecant | y = arcsec x | y=sec−1(x) | x = sec y | x ≤ −1 or 1 ≤ x | 0 ≤ y < π/2 or π/2 < y ≤ π | 0° ≤ y < 90° or 90° < y ≤ 180° |
arccosecant | y = arccsc x | y=csc−1(x) | x = csc y | x ≤ −1 or 1 ≤ x | −π/2 ≤ y < 0 or 0 < y ≤ π/2 | −90° ≤ y < 0° or 0° < y ≤ 90° |