Finegr balsamig

math o finegr cryf, melys, trwchus a gynhyrchir yn yr Eidal

Condiment sy'n tarddu o'r Eidal yw finegr balsamig (Eidaleg: aceto balsamico). Digrifir bod iddo briodoleddau balsam, lliniarol; (yn dynodi) math o finegr Eidalaidd tywyll melys wedi ei aeddfedu mewn casgenni pren.[1]

Finegr balsamig
Enghraifft o'r canlynolCyfwyd Edit this on Wikidata
Mathfinegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwneir y rysáit traddodiadol ar gyfer finegr balsamig trwy leihau (coginio) sudd grawnwin ac nid yw'n finegr cyffredin, gan ei fod wedi'i gynhyrchu yn rhanbarthau Modena a Reggio Emilia, yr Eidal, ers y canol oesoedd. Mae'r enw "Aceto Balsamico Tradizionale di Modena" neu "Aceto Balsamico Tradizionale di Reggio Emilia" yn gynnyrch a ddiogelir gan ddynodiad tarddiad rheoledig (DOC) a dynodiad tarddiad yr Undeb Ewropeaidd.[2]

Cynhyrchu

golygu
 
Finegrau Balsamig Traddodiadol Modena (dde) a Reggio Emilia (chwith)
 
Gweinir olew olewydd a finegr balsamig a thoc o farw fel dechreubryd

Mae'n cael ei gynhyrchu gyda sudd grawnwin Trebbiano gwyn ifanc sy'n cael eu coginio gyntaf i greu math o ddwysfwyd sydd wedyn yn cael ei eplesu â phroses heneiddio araf a fydd yn canolbwyntio'r blasau. Defnyddir yr holl ranwin - croen, hadau a'r coesyn.

Mae finegr balsamig traddodiadol yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan gogyddion a gourmets ledled y byd. Mae'r blas yn dwysáu dros ddegawdau wrth i'r finegr gael ei gadw mewn cafnau pren mân, gan ddod yn felys, yn gludiog ac yn ddwys iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae cyfran yn anweddu a dywedir mai dyma "gyfran yr angylion", term a ddefnyddir hefyd wrth gynhyrchu wisgi, gwin a diodydd alcoholig eraill. Mae'r cynnyrch yn heneiddio am o leiaf 12 mlynedd a gall dreulio hyd at 25 mlynedd yn y gasgen.

Ni chaniateir tynnu unrhyw ran o'r cynnyrch yn ôl tan ddiwedd y cyfnod heneiddio lleiaf o 12 mlynedd. Ar ddiwedd y cyfnod heneiddio (12, 18 neu 25 mlynedd), mae cyfran fach yn cael ei thynnu o'r casgen leiaf, ac yna caiff cynnwys y casgen flaenorol (mwy nesaf) ei hychwanegu at bob casgen. Ychwanegir rhaid wedi'i goginio'n ffres wedi'i leihau at y casgen fwyaf, ac ym mhob blwyddyn ddilynol, ailadroddir y broses o dynnu ac ychwanegu at y cynnyrch.[3] Gelwir y broses hon lle mae'r cynnyrch yn cael ei ddosbarthu o'r casgen hynaf ac yna'n cael ei ail-lenwi o'r casgen vintage hynaf nesaf yn solera neu mewn perpetuum.

Poblogrwydd tu allan i'r Eidal

golygu

Roedd yn anhysbys iawn y tu allan i'r Eidal tan 80au'r 20fed ganrif. Helpodd yr awdur Eidalaidd Macerlla Hazan i'w boblogeiddio yn yr Unol Daleithiau a Phrydain Fawr , ac mae bellach yn uchel ei barch a'i werthfawrogi gan gogyddion proffesiynol a bwydwyr fel ei gilydd.

Defnyddiau

golygu
 
Tri phwdin ym Modena gyda finegr balsamig tradizionale ynddynt; clocwedd o'r chwith: zabaione; latte alla portoghese neu crème caramel; a panna cotta

Yn Emilia-Romagna, mae finegr tradizionale yn cael ei weini amlaf mewn diferion ar ben talpiau o gaws Parmigiano-Reggiano a mortadella fel antipasto. Fe'i defnyddir yn gynnil hefyd i wella stêcs, wyau, neu bysgod wedi'u grilio, yn ogystal ag ar ffrwythau ffres fel mefus a gellyg ac ar gelato crema (cwstard) plaen. Fe'i defnyddir yn weddol gyffredin fel dresin ar gyfer caprese neu saladau mwy nodweddiadol. Gellir sipio finegr traddodiadol o wydr bach i orffen pryd o fwyd.

Mae cogyddion cyfoes yn defnyddio Finegr Balsamig Traddodiadol Modena PDO a Finegr Balsamig o Modena PGI yn gynnil mewn prydau syml lle mae chwaeth gymhleth y finegr balsamig yn cael ei amlygu, gan ei ddefnyddio i wella prydau fel cregyn bylchog neu berdys, neu ar basta a risotto syml.

Gweinir finegr balsamig ac olew olewydd mewn bwytau yng Ngnymru fel dechreubryd neu ar ben ei hun gyda tholc o fara i'w drochi ynddo.

Finegr Balsamig a Chymru

golygu

Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf i finegr balsamig yn 1771 yn llyfr Pob Dyn ei Physygwr ei Hun fel; "‘Balsamics’, ‘Linctuss’s’ ar cyffelyb, y rhai sydd yn andwyo’r cylla." Nodir "balsamig" wedyn yn An English and Welsh Dictionary Daniel Silvan Evans, 1852.[4]

Cynhwysir finegr balsamig mewn cynnyrch o Gymru megis Olew Hadau Rêp y cwmni Blodyn Aur a gynhyrchodd 'Dresing Balsamig' gydag olew rêp gyda finegr balsamig ynddo.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Balsamig". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
  2. Masino, F., Chinnici, F., Bendini, A., Montevecchi, G., & Antonelli, A. (2008). A study on relationships among chemical, physical, and qualitative assessment in traditional balsamic vinegar. Food chemistry, 106(1), 90-95.
  3. "Consorzio Produttori Aceto Balsamico Tradizionale di Modena". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 April 2010. Cyrchwyd 2010-03-25.
  4. "balsamig". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
  5. "Gwisg [sic. "Dressing"] Balsamig Blodyn Aur 250ml". Gwefan Blodyn Aur. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-12. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am goginio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES