Seiciatrydd, athronydd, chwyldroadwr, a llenor o Martinique oedd Frantz Omar Fanon (20 Gorffennaf 19256 Rhagfyr 1961). Roedd yn ddylanwadol mewn astudiaethau ôl-drefedigaethol. Ysgrifennodd y llyfrau Peau noire, masques blancs (1952) a Les Damnés de la terre (1961).

Frantz Fanon
Ganwyd20 Gorffennaf 1925 Edit this on Wikidata
Fort-de-France Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
o liwcemia Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Lyon (1896-1969)
  • Jean Moulin University - Lyon 3 Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, athronydd, seiciatrydd, awdur ysgrifau, cymdeithasegydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Wretched of the Earth, A Dying Colonialism, Black Skin, White Masks Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJean-Paul Sartre, Aimé Césaire Edit this on Wikidata
Mudiaddecoloniality Edit this on Wikidata
PriodJosie Fanon Edit this on Wikidata
PlantMireille Fanon Mendès-France Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Fort-de-France, prifddinas Martinique, a mynychodd ysgolion ar yr ynys honno ac yn Ffrainc. Gwasanaethodd ym Myddin Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel astudiodd meddygaeth a seiciatreg ym Mhrifysgol Lyon. Roedd yn bennaeth adran seiciatreg Ysbyty Blida-Joinville, Algeria, o 1953 hyd 1956. Ymunodd â'r mudiad gwrth-drefedigaethol yn Algeria ym 1954 ac ym 1956 daeth yn olygydd y papur newydd El Moudjahid a gyhoeddwyd yn Nhiwnis. Penodwyd yn llysgennad Algeria i Ghana ym 1960 gan y Llywodraeth Dros Dro.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Frantz Fanon. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2013.
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Martinique. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES