Athronydd, llenor, a beirniad o Ffrainc oedd Georges Bataille (10 Medi 18979 Gorffennaf 1962) a fu'n ymwneud ag erotiaeth, cyfriniaeth, ac afresymoldeb yn ei amryw weithiau. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth, ac ysgrifau. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn golyn rhwng gwahanol dueddiadau ym meddwl dechrau'r 20g, sef ôl-foderniaeth a dadadeiladaeth.[1]

Georges Bataille
Ffotograff o Georges Bataille (tua 1943).
Ganwyd10 Medi 1897 Edit this on Wikidata
Billom Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
o arteriosglerosis Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllyfrgellydd, llenor, drafftsmon, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ30731296, Q3204046, L'Abbé C, Blue of Noon, The Accursed Share, Q30731391, Q3203417, Story of the Eye, Q30731389, Q16318798, Q30731381, Q3210073 Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorg Hegel, Alexandre Kojève, Friedrich Nietzsche, Lev Shestov, Henri Bergson, Karl Marx, Sigmund Freud, Émile Durkheim, Boris Souvarine Edit this on Wikidata
Mudiadcontinental philosophy, irrationalism Edit this on Wikidata
PriodSylvia Bataille, Diane Kotchoubey de Beauharnais Edit this on Wikidata
PartnerColette Peignot, Denise Rollin Edit this on Wikidata
PlantLaurence Bataille, Julie Bataille Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Billom, yn département Puy-de-Dôme yng nghanolbarth Ffrainc, yng nghyfnod y Drydedd Weriniaeth. Fe'i hyfforddwyd yn archifydd yn yr École des Chartes, ysgol baleograffeg ym Mharis. Gweithiodd yn llyfrgellydd ac yn ganoloesydd yn Bibliothèque nationale de France hyd at 1942, a fe'i penodwyd yn geidwad Llyfrgell Orléans ym 1951. Sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Critique ym 1946, a byddai'n golygu'r hwnnw am 16 mlynedd, hyd at ei farwolaeth, ym Mharis, yn 64 oed.[2]

Ymhlith ei nofelau mae'r stori erotig Histoire de l'oeil (1928).

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Allan Stoekl, "Bataille, Georges (1897–1962)", Encyclopedia of Philosophy (2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 6 Rhagfyr 2021.
  2. (Saesneg) Georges Bataille. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2021.

Darllen pellach

golygu
  • Paul Hegarty, George Bataille: Core Cultural Theorist (Llundain: SAGE, 2000).
  NODES
iOS 1
os 5