Giuliano Amato
Gwleidydd a barnwr o'r Eidal yw Giuliano Amato (ganed 13 Mai 1938) a wasanaethodd yn Brif Weinidog yr Eidal ddwywaith, o Fehefin 1992 i Ebrill 1993 ac o Ebrill 2000 i Fehefin 2001.
Giuliano Amato | |
---|---|
Giuliano Amato yn 2001 | |
Ganwyd | Giuliano Amato 13 Mai 1938 Torino |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal, yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithegwr, barnwr, academydd |
Swydd | Prif Weinidog yr Eidal, Gweinidog Mewnol yr Eidal, Prif Weinidog yr Eidal, Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, judge of the Constitutional Court of Italy, Comisiynydd yr ICDB, Vice President of the Council of Ministers of Italy, Gweinidog y Trysorlys, Gweinidog Tramor yr Eidal, Y Gweinidog dros Ras a Chyfiawnder, Gweinidog Tramor yr Eidal, Minister of Universities, Science and Technology, Minister of the Treasury, Budget and Economic Planning, Minister for Institutional Reforms, Minister of the Treasury, Budget and Economic Planning, Y Gweinidog Cyllid, Gweinidog y Trysorlys, Gweinidog y Trysorlys, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd yr Eidal, Plaid Ddemocrataidd |
Priod | Diana Vincenzi Amato |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctor of the University of Neuchâtel, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Ganed ef yn Nhwrin, Piemonte, Teyrnas yr Eidal, i deulu o dras Sisilaidd, a chafodd ei fagu yn rhanbarth Toscana. Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o'r Scuola Normale Superiore yn Pisa ym 1960. Enillodd ysgoloriaeth Fulbright i astudio yn Unol Daleithiau America, a derbyniodd ei radd meistr yn y gyfraith gymharol o Ysgol Gyfraith Columbia ym 1963. Gweithiodd yn academydd ym mhrifysgolion Modena, Perugia, a Fflorens, a fe'i penodwyd yn athro yn y gyfraith gyfansoddiadol Eidalaidd a chymharol ym Mhrifysgol Rhufain La Sapienza o 1975 i 1997. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar bynciau cyfraith gyfansoddiadol a'r gyfraith ryngwladol.
Ymaelododd Amato â Phlaid Sosialaidd yr Eidal ym 1958, a fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn gyntaf ym 1983.[1] Gwasanaethodd yn Ddirprwy Brif Weinidog i Giovanni Goria o Orffennaf 1987 i Ebrill 1988, ac yn Weinidog y Trysorlys yn llywodraethau Goria a Ciriaco De Mita o Orffennaf 1987 i Orffennaf 1989.
Ymddiswyddodd y Prif Weinidog Giulio Andreotti ar 28 Mehefin 1992, ac fe'i olynwyd gan Amato, yn bennaeth ar lywodraeth glymblaid y Quadripartito: Democratiaeth Gristnogol, y Blaid Sosialaidd, y Blaid Sosialaidd Democrataidd, a'r Blaid Ryddfrydol. Wynebai lu o sgandalau gwleidyddol a chyhuddiadau o lygredigaeth yn erbyn cannoedd o wleidyddion a dynion busnes, ac Amato oedd un o'r ychydig o wleidyddion amlwg i beidio â chael ei gyhuddo o drosedd. Dyma oedd cyfnod cythryblus yn hanes gwleidyddol yr Eidal: diddymwyd nifer o'r prif bleidiau, a chynhaliwyd sawl refferendwm i ddiwygio'r system etholiadol. Ymddiswyddodd Amato ar 22 Ebrill 1993, ac ildiodd y brifweinidogaeth wythnos yn ddiweddarach i Carlo Azeglio Ciampi, technocrat a benodwyd gan yr Arlywydd Oscar Luigi Scalfaro i roi'r drefn newydd ar waith. Dywed taw dyma oedd diwedd "y Weriniaeth Gyntaf" yn hanes yr Eidal wedi'r Ail Ryfel Byd, cyfnod o lygredigaeth a thor-cyfraith cyfundrefnol, trais a therfysgaeth, ac economi ansefydlog, a dechrau'r "Ail Weriniaeth".
Trodd Amato yn wleidydd annibynnol ym 1994. Ymaelododd â Democratiaid y Chwith (yn ddiweddarach, y Blaid Ddemocrataidd) ym 1998. Gwasanaethodd eto yn Weinidog y Trysorlys o 1999 i 2000, ac yn Brif Weinidog o 2000 i 2001. Penodwyd yn is-lywydd y Gynhadledd Ewropeaidd yn 2001–03, gyda'r nod o lunio cyfansoddiad ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Ei swydd olaf yn llywodraeth yr Eidal oedd Gweinidog Cartref o 2006 i 2008, yn llywodraeth Romano Prodi.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John C. Fredriksen, Biographical Dictionary of Modern World Leaders, 1992 to the Present (Efrog Newydd: Facts On File, 2003), tt. 17–18.