Goleuedigion Bafaria

Cymdeithas gyfrinachol a sefydlwyd gan yr athronydd Almaenig Adam Weishaupt yn ystod yr Oleuedigaeth oedd Goleuedigion Bafaria neu Urdd y Goleuedigion (Lladin: Illuminati, Almaeneg: der Illuminatenorden). Sefydlwyd ar 1 Mai 1776 yn Ingolstadt, Bafaria Uchaf, yr Almaen. Roedd ei aelodau yn rhydd-feddylwyr ac roedd y gymdeithas yn seiliedig i raddau ar y Seiri Rhyddion.[1]

Goleuedigion Bafaria
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas gyfrinachol Edit this on Wikidata
Daeth i benMawrth 1785 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Mai 1776 Edit this on Wikidata
SylfaenyddAdam Weishaupt, Leopold Engel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwyddlun Goleuedigion Bafaria, sy'n dangos Tylluan Minerva, symbol o ddoethineb, yn clwydo ar ben llyfr agored.

Roedd gan yr Urdd ganghennau mewn mwyafrif o wledydd Ewrop, a 2,000 o aelodau dros y ddegawd roedd yn bodoli.[2] Ymysg aelodau'r Urdd oedd Johann Wolfgang von Goethe.

Ym 1777 daeth Karl Theodor yn Ddug Bafaria, a gwaharddodd cymdeithasau cyfrinachol gan gynnwys y Goleuedigion. Daeth yr Urdd i ben tua 1784/5.

Rhwng 1797 a 1798 cyhoeddwyd Mémoires pour servir à l'Histoire du Jacobinisme gan Augustin Barruel a Proofs of a Conspiracy gan John Robison, dau lyfr a ddadleuodd y wnaeth Goleuedigion Bafaria oroesi ac roeddent yn cynllwynio ar lefel ryngwladol, gan achosi'r Chwyldro Ffrengig er enghraifft. Mae nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol modern yn honni bod gan grŵp o'r enw "y Goleuedigion" (Illuminati) ddylanwad a rheolaeth eang dros faterion y byd gyda'r nod o sefydlu Trefn Byd Newydd. Mae'r damcaniaethau hyn yn tarddu o Oleuedigion Bafaria.

Llyfryddiaeth

golygu
  • (Saesneg) The Secret School of Wisdom: The Authentic Ritual and Doctrines of the Illuminati, ed. by Josef Wäges and Reinhard Markner, Lewis Masonic, London, 2015.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Goeringer, Conrad. The Enlightenment, Freemasonry, and The Illuminati. American Atheists.
  2. (Saesneg) McKeown, Trevor W.. A Bavarian Illuminati Primer. Prif Gyfrinfa British Columbia a Yukon A.F. & A.M..
  NODES