Gor-realaeth
Mae gor-realaeth neu realiti estynedig[1] (Saesneg: Augmented Reality) yn ddatblygiad ar rhithwirionedd (virtual reality) ac yn ddau gymhwysiad neu brofiad cwbwl groes i'w gilydd. Mae meddalwedd rhithwir yn ceisio ail-greu'r byd go-iawn ond mae meddalwedd gorwir yn dechrau gyda'r byd go iawn (e.e. llun byw drwy gamera) ac yn rhoi haen o wybodaeth wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur ar ei ben. Enghraifft o hyn ydy ffenest peilot awyren, ble ceir haen o wybodaeth yn y gwydr ar ben yr olygfa go-iawn a welir drwy'r gwydr. Cysylltir realiti estynedig â chydsyniad mwy cyffredinol o'r enw realiti-gyfryngol.
Mae'n ofynnol fod yn y cyfarpar neu'r teclyn a ddefnyddir elfennau megis GPS, cwmpawd a chamera. Fel hyn, mae'r teclyn yn gwybod ble ac i ba gyfeiriad mae'n "edrych".
Ffonau clyfar gor-real
golyguMae'r ffonau clyfar mwyaf diweddar yn caniatáu i chi weld gwybodaeth gorwir fel haen ar y llun a welir yn y camera.
Mae'r meddalwedd ganlynol[2] yn caniatáu i'r defnyddiwr weld a darllen erthyglau Wicipedia:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan eiriadurol y Coleg Cymraeg; adalwyd 24 Hydref 2013
- ↑ Erthygl Saesneg ar Wikitude a Cyclopedia.
Gweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Mixed Reality Scale - Milgram and Kishino’s (1994) Virtuality Continuum paraphrase with examples