Grozny
Prifddinas Gweriniaeth Ymreolaethol Tsietsnia yn Rwsia yw Grozny (Rwseg: Гро́зный; Tsietsieg: Соьлжа-ГIала, Sölža-Ġala), weithiau hefyd Джовхар-ГIала (Džovxar-Ġala)). Saif ar afon Soenzja, afon sy'n llifo i mewn i afon Terek. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 210,720, gostyngiad sylweddol o gyfnod yr Undeb Sofietaidd, pan gyrhaeddodd y boblogaeth 399,600.
Math | tref neu ddinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 291,687 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ibrahim Salmanovich Zakriev, Zaur Khizriev, Khas-Magomed Kadyrov |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tsietsnieg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | City of Grozny, Tsietsnia, Chechen-Ingush Autonomous Soviet Socialist Republic, Grozny Oblast, Crai Stavropol, Chechen-Ingush Autonomous Soviet Socialist Republic, Chechen–Ingush Autonomous Oblast, Chechen Autonomous Oblast, North Caucasus Krai, Chechen Autonomous Oblast, Chechen National Okrug, Groznensky Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 324.16 km² |
Uwch y môr | 130 metr |
Cyfesurynnau | 43.3125°N 45.6986°E |
Cod post | 364000–364099 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ibrahim Salmanovich Zakriev, Zaur Khizriev, Khas-Magomed Kadyrov |
Wedi diwedd yr Undeb Sofietaidd, daeth Grozny yn brifddinas gweriniaeth annibynnol de facto "Gweriniaeth Tsietsien Itskeria yn 1991. Bu ymladd ffyrnig yma yn ystod Rhyfel Cyntaf Tsietsnia rhwng Rhagfyr 1994 a Chwefror 1995, a lladdwyd 20,000 hyd 25,000 o'r trigolion. Bu ymladd yma eto yn ystod Ail Ryfel Tsietsnia yn 1999-2000, a lladdwyd nifer fawr o'r trigolion eto. Meddiannwyd y ddinas gan y Rwsiaid.