Gwerful Mechain
Bardd ffeministaidd Gymraeg o Bowys a ganai yn ail hanner y 15g oedd Gwerful Mechain neu Gwerful ferch Hywel Fychan (fl. c. 1460 - wedi 1502?). Mae hi'n enwog am ei cherddi erotig beiddgar - sy'n enghreifftiau rhagorol o ganu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol - ac yn perthyn i ddosbarth prin o feirdd benywaidd yn Ewrop yr Oesoedd Canol.[1]
Gwerful Mechain | |
---|---|
Ganwyd | Mechain |
Man preswyl | Powys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
- Erthygl am y brydyddes o Fechain yw hon. Am ferched eraill o'r un enw gweler Gwerful (tudalen gwahaniaethu).
Bywgraffiad
golyguFel mae ei henw yn ei awgrymu, brodor o ardal Mechain ym Mhowys oedd Gwerful. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdani, ar wahân i'w cherddi. Roedd hi'n ferch i Hywel Fychan a'i wraig Gwenhwyfar ferch Dafydd Llwyd. Roedd ei hen-hen-daid, Madog ab Einion, yn uchelwr pwysig ym Mechain. Roedd ei thad, Hywel Fychan, yn byw yng nghwmwd Mechain Is Coed. Priododd Gwerful John ap Llywelyn Fychan a chafodd ddwy ferch o'r un enw ganddo (neu un ferch), sef Mawd. Yn ôl un traddodiad, cadwai dafarn.[2]
Dengys tystiolaeth ei chanu bod Gwerful yn ymdroi yng nghymdeithas lenyddol gogledd Powys. Doedd hi ddim yn fardd proffesiynol ac mae'n debyg iddi ddysgu barddoni ar yr aelwyd. Roedd hi'n adnabod sawl bardd arall yn yr ardal ac yn ymryson â hwy, ac yn eu plith y daroganwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn (a all fod yn gariad iddi[3]), y cywyddwr medrus Ieuan Dyfi, a Llywelyn ap Gutun.[2]
Cerddi
golyguPriodolir tua 20 o destunau iddi yn y llawysgrifau. Mae'r golygiad diweddaraf o'i gwaith yn derbyn wyth o'r rhain fel testunau dilys a phump arall o awduraeth amheus a allai fod yn perthyn iddi. Yn ogystal ceir cerddi gan Ieuan Dyfi, Dafydd Llwyd a Llywelyn ap Gutun sy'n perthyn i ymrysonau barddol rhyngddynt a Gwerful.[2]
Er ei bod yn enwog am ei chanu maswedd, mae ei gwaith yn cynnwys dwy gerdd grefyddol, un ar Ddioddefiant Crist a'r llall ar angau a Dydd y Farn.[2]
O blith ei cherddi erotig, mae'n debyg mai 'Cywydd y Gont' (neu 'Cywydd y Cedor') yw'r testun mwyaf adnabyddus; cyfieithwyd y teitl i'r Saesneg gan Dafydd Johnston fel “The Female Genitals.”; cyfieithiad Lauren Cocking yw “Poem to the vagina”. Mae hwn yn gywydd crefftus sy'n dyfalu (neu'n cymharu)'r organ rhywiol benywaidd ac yn ei foli.[1] Dyma enghraifft, lle mae Gwerful yn beio'r beirdd am esgeuluso'r rhan hon o'r corff yn eu canu serch confensiynol:
Gado'r canol heb foliant
A'r plas lle'r enillir plant,
A'r cedor clyd, hyder claer,
Tynerdeg, cylch twn eurdaer,
Lle carwn i, cywrain iach,
Y cedor dan y cadach.[1]
Mae'n bosib, wrth gwrs fod gwerful a'i thafod yn ei boch, ac i raddau'n cystwyo Dafydd ap Gwilym am ei Cywydd i'r Gal (cywydd i'r Pidyn).
Am flynyddoedd sensorwyd y canu hwn gan ysgolheigion Cymraeg crefyddol - yn gyhoeddus, o leiaf - ond erbyn y 3ydd mileniwn, cydnabyddwyd Gwerful fel un o'r mwyaf o feirdd benywaidd yr Oesodd Canol a chaiff ei cherddifel cerddi unigryw ac arloesol.[1]
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Gwaith Gwerful Mechain ac eraill, gol. Nerys Ann Howells, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr (Aberystwyth, 2001)
- Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry, gol. Dafydd Johnston (Caerdydd, 1991). Cyfrol sy'n cynnwys "Cywydd y Cedor" ac "I Wragedd Eiddigeiddus", gyda chyfieithiad.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry, gol. Dafydd Johnston (Caerdydd, 1991)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Gwaith Gwerful Mechain ac eraill, gol. Nerys Ann Howells (Aberystwyth, 2001), Rhagymadrodd
- ↑ [https://lithub.com/on-the-gleefully-indecent-poems-of-a-medieval-welsh-feminist-poet/ lithub.com; teitl: On the Gleefully Indecent Poems of a Medieval Welsh Feminist Poet gan Lauren Cocking; dyddiad cyhoeddi ar y we: 9 Awst 2019.
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd