Gwylliaid llwyni Awstralia

Lladron pen ffordd yn Awstralia

Roedd y Gwylliaid Llwyni (en: bushrangers) yn lladron oedd yn byw ar dir prysglwyn Awstralia (y Bwsh). Cafodd dros 2,000 o bobl eu disgrifio fel bushrangers gan y wasg, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn lladron a throseddwyr cyffredin. Daeth ychydig o wylliaid llwyni yn enwog, gan cael eu cyfrif fel arwyr llên gwerin eu gwlad[1]. Maent yn rhan o hanes hir o droi dihirod yn arwyr, megis yn hanesion Robin Hood a Dick Turpin yn Lloegr, Jesse James a Billy the Kid yn yr Unol Daleithiau, neu Gwylliaid Cochion Mawddwy a Twm Siôn Cati yng Nghymru.

Bushrangers, Victoria, Australia, 1852 olew ar gynfas gan William Strutt 1887

Cafodd y gair bushranger ei ddefnyddio gyntaf yn Awstralia yn y flwyddyn 1805 i ddisgrifio tri dyn a oedd wedi rhwystro cert ger Sydney er mwyn dwyn. Wedi hynny bu'r gair yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddwyr a oedd yn ymosod ar bobl ar y ffyrdd neu yn y bwsh (cefn gwlad Awstralia) ystyr tebyg i Leidr pen ffordd yng ngwledydd Prydain[2]. Daw'r bathiad Cymraeg o erthygl yn adrodd hanes safiad olaf Ned Kelly yn y Papur Baner ac Amserau Cymru ym mis Medi 1880[3].

Gwylliaid Enwog

golygu
  • Joe Byrne
  • Martin Cash
  • John Dunn
  • Ben Hall
  • Frank Gardiner
  • John Gilbert
  • Steve Hart
  • Dan Kelly (brawd Ned isod)
  • Ned Kelly
  • Moondyne Joe (enw iawn - Joseph Bolitho Johns)
  • John O'Meally
  • Harry Power
  • Captain Moonlight (enw iawn - Andrew George Scott)
  • Captain Thunderbolt (enw iawn - Frederick Ward)
  • Michael Howe
  • Charles Russell ("Black Douglas")

Diwylliant poblogaidd

golygu

Yn yr un modd ag y mae troseddwyr Americanaidd yn ymddangos mewn nifer o ffilmiau, llyfrau, cerddoriaeth a theledu diwylliant Gorllewinol Gwyllt America, bu'r gwylliaid llwyni yn ymddangos yn rheolaidd mewn llenyddiaeth, ffilm, cerddoriaeth a theledu Awstralia. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Robbery Under Arms, nofel gan Thomas Alexander Browne (o dan y ffugenw Rolf Boldrewood) a gyhoeddwyd fel cyfres yn y Sydney Mail rhwng 1882 a 1883.[4] sef disgrifiad ffuglen cynnar o fywyd a gweithredoedd gwylliaid a fu'n sail i nifer o ffilmiau a chyfres deledu.[5]
  • Y ddrama fawr gyntaf a ysgrifennwyd, a gyhoeddwyd ac a gynhyrchwyd yn Awstralia oedd The Bushrangers gan Henry Melville.
  • Ned Kelly Oedd testun y ffilm hir cyntaf, The Story of the Kelly Gang, a gyhoeddwyd ym 1906.[6]
  • Ym 1970 bu Mick Jagger o'r grŵp pop The Rolling Stones yn chware rhan Ned Kelly mewn ffilm
  • Bu Dan Morgan yn destun ffilm ym 1976, Mad Dog Morgan , gyda Dennis Hopper yn chware rhan y gwylliad.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davey, Gwenda (1993). The Oxford Companion to Australian Folklore. Melbourne: Oxford University Press. tt. 58–59. ISBN 0195530578.
  2. "Bushrangers of Australia" (PDF) (pdf). National Museum of Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-06-14. Cyrchwyd 2007-04-16.
  3. "YMLADDFA GYDA GWYLLIAID LLWYNI AWSTRALIA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1880-09-18. Cyrchwyd 2016-02-02.
  4. "Robbery Under Arms". Australian Scholarly Editions Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-31. Cyrchwyd 2007-04-17.
  5. "Rolf Boldrewood". Internet Movie Database.
  6. IDBM Ned Kelly 1906 [1] adalwyd 3 Chwef 2016
  7. "Mad Dog Morgan (1976)". Internet Movie Database. Cyrchwyd 2016-02-03.
  NODES
INTERN 2