Brenhines yr Hen Aifft yn ystod y 18fed Brenhinlin yn y Deyrnas Newydd oedd Hatshepsut (bu farw tua 1457 CC). Teyrnasodd o 1479 CCC hyd ei marwolaeth.

Hatshepsut
Ganwydc. 1507 CC Edit this on Wikidata
Thebes, Yr Aifft Edit this on Wikidata
Bu farwc. 16 Ionawr 1458 CC Edit this on Wikidata
o canser yr esgyrn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd Edit this on Wikidata
SwyddGod's Wife of Amun, Pharo Edit this on Wikidata
TadThutmose I Edit this on Wikidata
MamAhmose Edit this on Wikidata
PriodThutmose II Edit this on Wikidata
PlantNeferure Edit this on Wikidata
LlinachEighteenth Dynasty of Egypt Edit this on Wikidata
Hatshepsut

Roedd Hatshepsut yn ferch i'r brenin Thutmosis I a'i wraig Ahmose. Daeth yn brif wraig ei hanner brawd, Thutmosis II. Bu farw Thutmosis II yn gynamserol wedi teyrnasiad byr, ac olynwyd ef gan ei fab bychan gan un o'i wragedd eraill, Isis, Thutmosis III, gyda Hatshepsut yn rheoli'r deyrnas ar ei ran. Gyda chymorth cynorthwywyr fel Hapuseneb a Senenmut, cipiodd Hatshepsut yr orsedd iddi ei hun.

Cysylltir enw Hatshepsut yn arbennig a'r deml a adeiiladodd yn Deir el-Bahari, a gynlluniwyd gan Senenmut. Ystyrir y deml yma yn un o gampweithiau pensaernïol yr Hen Aifft, ac mae'n un o atyniadau twristaidd mwyaf yr Aifft heddiw.

Rhagflaenydd:
Thutmosis II
Brenhines yr Aifft
1479 CC1458 CC
Olynydd:
Thutmosis III
  NODES