Rhanbarth yng ngorllewin Arabia yw'r Hijaz[1] neu'r Hejaz (Arabeg: الحجاز‎, al-Ḥiǧāz). Mae'n ffinio â'r Môr Coch i'r gorllewin, ac yn estyn o Haql ar Wlff Aqaba i Jizan. Mae'n cynnwys dinasoedd Jeddah, Mecca, a Medina, a chadwyn yr Hijaz.

Map sy'n dangos y rhanbarth Sawdïaidd mewn coch a'r gyn-deyrnas mewn gwyrdd.

Gan fod Mecca a Medina yn ddinasoedd pwysicaf Islam, mae'r Hijaz wastad wedi bod yn ardal bwysig i'r grefydd honno. Roedd yn rhan o'r Galiffiaeth ac Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac ym 1916 datganodd y Sharif Hussein bin Ali ei hunan yn Frenin Teyrnas Hijaz. Unodd Ibn Saud yr Hijaz a'r Najd gan ffurfio Sawdi Arabia.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 94.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sawdi Arabia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  NODES
os 3