Instituto Cervantes
Mae Instituto Cervantes (;Sefydliad Cervantes;) yn sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991.[1] Fe'i enwir ar ôl Miguel de Cervantes (1547-1616), awdur Don Quixote ac efallai'r ffigwr pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Sbaeneg. Sefydliad Cervantes yw'r sefydliad mwyaf yn y byd sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaeneg. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
Math o gyfrwng | sefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, endid tiriogaethol dynol-ddaearyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1991 |
Yn cynnwys | Instituto Cervantes, Berlin |
Pennaeth y sefydliad | cyfarwyddwr Instituto Cervantes |
Aelod o'r canlynol | European Union National Institutes for Culture |
Isgwmni/au | Instituto Cervantes de Varsovia, Instituto Cervantes de Cracovia, Instituto Cervantes Tokio, Instituto Cervantes, Berlin, Instituto Cervantes de Budapest, Instituto Cervantes de Salvador de Bahía, Instituto Cervantes of Manila, Biblioteca María Zambrano. Instituto Cervantes di Roma, Instituto Cervantes de Pekin, Instituto Cervantes de Shanghai, Instituto Cervantes Praga |
Rhiant sefydliad | Secretariat of State for International Cooperation |
Pencadlys | Madrid |
Enw brodorol | Instituto Cervantes |
Rhanbarth | Madrid |
Gwefan | https://www.cervantes.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ni cheir cangen o'r sefydliad yng Nghymru. Mae'r canghennau Prydeinig yn Llundain, Leeds a Manceinion.
Crynodeb
golyguMae'r sefydliad hwn wedi ehangu i 45 o wledydd gyda 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliant Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ac iaith Sbaeneg.[2] Creodd Erthygl 3 o Gyfraith 7/1991, ar 21 Mawrth 1991, yr Instituto Cervantes fel asiantaeth y llywodraeth. Mae'r gyfraith yn egluro mai nodau eithaf y Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudio a defnyddio Sbaeneg yn gyffredinol fel ail iaith; cefnogi'r dulliau a'r gweithgareddau a fyddai'n helpu'r broses o addysg Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo diwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ar draws gwledydd di-Sbaeneg.[3][4]
Swyddogaethau
golyguSwyddogaethau a gwasanaethau Sefydliad Cervantes yw:
- Cynllunio cyrsiau iaith Sbaeneg, gan gynnig dau fath o gwrs: cyffredinol ac arbennig.
- Cynnig arholiadau Diplomâu Sbaeneg fel Iaith Dramor (DELE) ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen. Mae hwn yn gymhwyster swyddogol sy'n ardystio lefelau cymhwysedd yn yr iaith Sbaeneg, a dyma'r unig dystysgrif ar gyfer siaradwyr Sbaeneg anfrodorol sy'n cael ei chydnabod yn swyddogol yn Sbaen. Rhennir y diplomâu yn chwe lefel, pob un yn cyfateb i lefel hyfedredd arbennig fel y disgrifir gan y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd: A1, A2, B1, B2, C1, C2.
- Gwella dulliau addysg Sbaeneg.
- Mae'n cefnogi Sbaenwyr a "Hispaniaeth", sef yr astudiaeth o ddiwylliant Sbaen ac America Sbaenaidd.
- Trefnu ac yn hyrwyddo'r rhaglen i ledaenu'r iaith Sbaeneg ledled y byd.
- Mae'n gweinyddu'r arholiadau Gwybodaeth Gyfansoddiadol a Chymdeithasol o Sbaen (CCSE) ledled y byd, sy'n ofyniad cyfreithiol ar gyfer caffael cenedligrwydd Sbaenaidd.
- Mae'n sefydlu llyfrgelloedd a chanolfannau.
- Mae hefyd yn cyhoeddi'r Anuario del español i ddadansoddi ac adrodd ar sefyllfa a datblygiad yr iaith Sbaeneg mewn gwahanol leoedd.
- Mae'n cefnogi'r Centro Virtual Cervantes ar y rhyngrwyd ers 1997.
Diplomâu Iaith Sbaeneg
golyguY Diploma Iaith Sbaeneg, DELE, yw'r dystysgrif swyddogol gyda chydnabyddiaeth ryngwladol sy'n ardystio gwybodaeth o Sbaeneg fel iaith dramor. Fe'i cyhoeddir gan yr Instituto Cervantes ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen.
Cydnabyddiaeth
golyguYn 2005, ynghyd â'r Alliance française, y Società Dante Alighieri, y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, a'r Instituto Camões, dyfarnwyd Gwobr Tywysog Asturias i'r Instituto Cervantes am gyflawniadau eithriadol ym maes cyfathrebu a dyniaethau.
Lleoliadau byd-eang
golyguMae’r Instituto Cervantes wedi datblygu ei brosiect addysgol ar system o sefydliadau a chanolfannau lleol:
- Centros Cervantes (canolfannau llawn)
- Aulas Cervantes ("darlithfaoedd" llai)
- Rhwydwaith Centros Acreditados a Centros Asociados
Mae rhestr gynrychioliadol yn dilyn, ac mae'r rhestr ddiweddaraf a chyflawn i'w gweld yn www.cervantes.es.
- Centros Cervantes
- Affrica
- Americas
- Asia
- Ewrop
- Awstria (Vienna)
- Gwlad Belg (Brussels)
- (Sofia)
- Y Weriniaeth Tsiec (Prague)
- Ffrainc (Bordeaux, Lyon, Paris, Toulouse)
- Almaen (Berlin, Bremen, Frankfurt am Main, Hamburg, Munich)
- Gwlad Groeg (Athens) – agorwyd yr Institute Cervantes Institute gyntaf yn Anthen 1992; ym mis Mawrth 2010, agorodd y Breninines Sofía o Sbaen yr adeilad newydd.
- Hwngari (Budapest)
- Iwerddon (Dublin) – 53°20′31″N 6°15′06″W / 53.341975°N 6.251575°W
- Yr Eidal (Milan, Naples, Palermo, Rhufain)
- Yr Iseldiroedd (Utrecht)
- Gwlad Pwyl (Warsaw, Kraków)
- Portiwgal (Lisbon)
- (Bucharest)
- Rwsia (Moscow)
- Serbia (Belgrade)
- Sweden (Stockholm)
- Y Deyrnas Unedig (Leeds, Llundain, Manceinion)
- Dwyrain Canol
- Oceania
- Aulas Cervantes
- Centros Acreditados
- Centros Asociados
Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill
golyguMae Instituto Cervantes yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [1] Archifwyd Rhagfyr 14, 2007, yn y Peiriant Wayback
- ↑ 2.0 2.1 "Cervantes homepage". Cervantes.es. Cyrchwyd 2015-08-01.
- ↑ "Instituto Cervantes: Spain's Language and Cultural Center | Manila Bulletin". Mb.com.ph. 2005-08-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-08. Cyrchwyd 2012-06-10.
- ↑ "Instituto Cervantes celebrates its 15th year | Manila Bulletin". Mb.com.ph. 2007-11-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-04. Cyrchwyd 2012-06-10.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Thinkspain News Feed". Thinkspain.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-06. Cyrchwyd 2012-06-10.
- ↑ "Instituto Cervantes Hong Kong | Cervantes Institute HK | Spanish…". Spanish World Hong Kong (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-10.
- ↑ "Cervantes Quality Seal | Only Spanish Learning Center in Singapore". Spanish World Singapore (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-10.
- ↑ [2][dolen farw]
- ↑ [3] Archifwyd Rhagfyr 11, 2009, yn y Peiriant Wayback
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- InstitutoCervantesVideos sianel Youtube
- Cervantes Institute yn Encyclopædia Britannica
- Spanish and Empire
- Journals, A review of Centro Virtual Cervantes